Agenda item

CYNLLUN RHEOLI ANSAWDD YR AMGYLCHEDD LLEOL 2022 - 2026

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad ar Gynllun Rheoli Ansawdd yr Amgylchedd Lleol 2022-2026, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a'r Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd.

 

Roedd y cynllun yn cynnwys cyfeiriad rheoli sbwriel y Cyngor yn y Sir am y pedair blynedd nesaf a'i nod oedd dangos sut y byddid yn rheoli sbwriel, tra'n cyfrannu at Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, gan roi pwyslais arbennig ar Amcan Llesiant 10 – Amgylchedd Iach a Diogel; gofalu am yr amgylchedd ar hyn o bryd ac i’r dyfodol.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a godwyd yngl?n â nifer y swyddogion oedd ar gael yn y tîm gorfodi, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod 8 swyddog gydag 1 swydd wag ar hyn o bryd. Felly roedd cyfanswm o 9 aelod o staff yn y tîm gorfodi.

 

·       Cyfeiriwyd at adran 11.2 – Grwpiau Gwirfoddol a Sefydliadau Eraill.  Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch cyhoeddusrwydd gwybodaeth i annog a chynorthwyo aelodau o'r cyhoedd a Chynghorau Tref/Cymuned i fynd ati i sefydlu  grwpiau i lanhau pentrefi ac ardaloedd gwledig.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd y byddai hyn yn berthnasol i'r fenter Cymoni Cymuned a oedd yn cael ei hailgyflwyno.  Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol ymhellach i'r aelodau fod y fenter 'Cymoni Cymuned' yn gweithio i ymgysylltu â chymunedau lleol i chwilio am wirfoddolwyr i fod yn hyrwyddwyr codi sbwriel a fyddai wedyn yn trefnu digwyddiadau codi sbwriel yn lleol. Dywedodd y Swyddog Polisi a Strategaeth, yr Amgylchedd a Gorfodi, fod 52 o grwpiau wedi'u cofrestru ar draws Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd, a'i fod yn gweithio'n agos gyda'r tîm asesu risg ynghylch yswiriant priodol ar gyfer gwirfoddolwyr.  Roedd mentrau eraill yn effeithiol gan gynnwys prosiect Caru Cymru a Cadwch Brydain yn Daclus.

 

·       Dywedodd y Swyddog Polisi a Strategaeth, yr Amgylchedd a Gorfodi, mewn ymateb i ymholiad mewn perthynas â chasglu sbwriel ar hap, fod Googleform ar-lein wedi cael ei chyflwyno a oedd yn galluogi aelodau o'r cyhoedd i hysbysu'r Awdurdod am y digwyddiad/gweithgaredd codi sbwriel, a fydd hefyd yn casglu'r data o ran ble fyddai'r bagiau sbwriel a byddai trefniadau'n cael eu gwneud i'w casglu.


 

·       At hynny, mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch cael gafael ar y bagiau coch yn benodol ar gyfer codwyr sbwriel, eglurodd y Swyddog Polisi a Strategaeth, yr Amgylchedd a Gorfodi, fod Cadwch Brydain yn Daclus yn dosbarthu'r bagiau coch i hyrwyddwyr cofrestredig Cadwch Gymru'n Daclus. Yn ogystal dosbarthwyd y bagiau clir i Hyrwyddwyr Ansawdd Amgylchedd Lleol yr Awdurdod, sef menter a ddatblygwyd dros y pandemig.

 

·       Cyfeiriwyd at y broblem barhaus o faw c?n.  Gofynnwyd a oedd unrhyw gynnydd wedi'i wneud o ran y trafodaethau gyda'r Heddlu ynghylch y Cyngor a Swyddogion Cymunedol yr Heddlu yn rhannu'r ddirwy. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod gwaith wedi'i wneud gyda'r heddlu drwy lythyr at y Prif Gwnstabl a hyfforddiant a darparu cosb benodedig i'r heddlu. Dywedwyd er bod yr heddlu'n gefnogol, roeddent yn dibynnu ar yr adnoddau oedd ar gael a'u blaenoriaethau, yn enwedig yn ystod y pandemig. Byddai'r mater hwn yn cael sylw eto yn y dyfodol.

 

·       Mynegwyd yn gryf y dylai troseddwyr sy'n gadael baw c?n a sbwriel gael eu henwi yn y papurau newyddion lleol ac ar y cyfryngau cymdeithasol a gofynnwyd pa mor rhagweithiol oedd y Cyngor ar y mater hwn? Sicrhawyd yr aelodau gan yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i gynyddu nifer yr hysbysiadau cosb benodedig oedd yn y papur, gan gydnabod bod cost yn perthyn i hyn. 

 

·       Mynegwyd pryder ynghylch baw c?n mewn parciau a pheryglon tocsocariasis, sef haint y gellir ei ddal drwy ddod i gysylltiad ag ysgarthion anifeiliaid. Yn ogystal, dywedwyd bod cynllun rheoli clir ar glirio sbwriel yn bwysig.  Atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd am yr  ymgynghoriad ar y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, lle roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i barciau a meysydd chwaraeon. Yn ogystal, pwysleisiodd yr Aelod Cabinet fod dyletswydd ar y cyhoedd hefyd i beidio â gollwng sbwriel yng nghefn gwlad ac i fynd â'u sbwriel adref gyda nhw.  Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff mai newid ymddygiad fyddai'r ateb gorau a bod aelodau'r tîm sbwriel yn bresennol yng nghanol trefi bob dydd. Fodd bynnag, roedd ardaloedd gwledig yn dibynnu ar wirfoddolwyr oherwydd prinder adnoddau.

 

·       Gofynnwyd a oedd modd darparu offer casglu sbwriel i Gynghorau Tref a Chymuned a grwpiau gwirfoddol?  Eglurodd y Swyddog Polisi a Strategaeth, yr Amgylchedd a Gorfodi, fod hwb casglu sbwriel yn Nhref Caerfyrddin lle gellid cael gafael ar offer a bagiau.  Yn ogystal, gellid ystyried y dull o alluogi Cynghorau Cymuned i gael offer yn barhaol fel rhan o'r adolygiad o'r fenter 'Cymoni Cymuned'.  Fel arall, opsiwn arall o ran cael mynediad at offer fyddai drwy Cadwch Gymru'n Daclus, a fyddai'n cyfathrebu â phobl oedd yn awyddus i sefydlu hybiau casglu sbwriel ychwanegol yn eu hardal.


 

·       Gofynnwyd am wybodaeth mewn perthynas â'r sefyllfa gyfreithiol o ran defnyddio teledu cylch cyfyng mewn Cynghorau Tref a Chymuned i ddal troseddwyr?  Eglurodd y Swyddog Polisi a Strategaeth, yr Amgylchedd a Gorfodi, fod yn rhaid bod yn ofalus wrth ddefnyddio teledu cylch cyfyng a bod agwedd negyddol yn bodoli tuag at ddarparu teledu cylch cyfyng at ddibenion troseddau baw c?n.  Yn y gorffennol, caed gwybodaeth gadarn fel arfer gan berchnogion c?n cyfrifol, yr oedd y swyddogion yn ymateb iddi'n briodol.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod Cynghorau Tref a Chymuned yn defnyddio teledu cylch cyfyng i wneud hynny gyda diwydrwydd.

 

·       Cyfeiriwyd at y Cynllun Gweithredu Ansawdd Amgylchedd Lleol. Wrth nodi'r gwaith o 'Ddatblygu a'r strategaeth a'r cynllun gweithredu cadarn i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon (1) a (2), dywedwyd byddai'r Pwyllgor yn cynnal Adolygiad Gorchwyl a Gorffen ar Dipio Anghyfreithlon a gofynnwyd sut y byddai hyn yn cael ei wneud? Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol y byddai cynnwys y Gr?p Gorchwyl a Gorffen fel rhan o'r adolygiad yn allweddol wrth ddatblygu'r strategaeth.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CABINET y dylid cymeradwyo Cynllun Rheoli Ansawdd Amgylchedd Lleol 2022-2026.

 

 

Dogfennau ategol: