Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2022/23 TAN 2024/25

Cofnodion:

[SYLWER: Datganodd y Cynghorydd D. Phillips fuddiant yn Atodiad 'C' i'r adroddiad (Crynhoad Taliadau) ac nid oedd wedi siarad na phleidleisio ar yr Atodiad hwnnw].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau ar Strategaeth Cyllideb Refeniw'r Cyngor 2022/23 hyd at 2024/25, fel y'i cymeradwywyd gan y Cabinet at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2022.  Roedd yr adroddiad yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2022/2023, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2023/2024 a 2024/2025, yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 21 Rhagfyr 2021.  Roedd hefyd yn adlewyrchu cyflwyniadau adrannol cyfredol ar gyfer cynigion am arbedion ar ôl ystyried effaith pandemig Covid-19 ar gyflawni'r arbedion hynny.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod y setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru eleni gryn dipyn yn uwch na'r hyn y cynlluniwyd ar ei gyfer. Fodd bynnag dywedodd hefyd fod y pwysau oedd ar wariant yr Awdurdod hwn ac Awdurdodau Lleol yn fwy nag erioed o'r blaen. Roedd y setliad dros dro yn gynnydd cyfartalog o 9.4% ledled Cymru ar setliad 2021/22.  Roedd cynnydd o 9.2% (£26.335m) yn ffigurau setliad Sir Gâr, gan fynd â'r Cyllid Allanol Cyfun i £311.957m ar gyfer 2022/23 a oedd yn cynnwys £302k mewn perthynas â Grant y Gweithlu Gofal Cymdeithasol.

 

Ar draws holl gyllidebau'r Cyngor, roedd dilysu'n ychwanegu £23m, sef yr uchaf o dipyn rydym wedi gorfod caniatáu ar ei gyfer yn y blynyddoedd diwethaf. 

 

Roedd y gyllideb hefyd yn cynnwys £12.5m ar gyfer pwysau gwariant adrannol newydd a glustnodwyd gan adrannau ac nad oedd modd eu hosgoi os ydym am barhau i ddarparu ein prif wasanaethau ar y lefel bresennol. O ran y cynnydd mewn chwyddiant, roedd yn llawer mwy na'r norm ac roedd yn adlewyrchu'r pwysau oedd ar wasanaethau presennol y Cyngor.


 

O ran y cynigion arbedion (Atodiad Aii), eglurodd yr Aelod Cabinet fod yr ymateb parhaus i'r pandemig wedi effeithio ymhellach ar gyflawni arbedion effeithlonrwydd. 

 

Serch hynny, roedd strategaeth cyllideb y Cyngor wedi cyflwyno tua £3.8m o arbedion y flwyddyn nesaf a £7.9m arall dros y ddwy flynedd ganlynol. 

Mewn perthynas â maes gorchwyl y pwyllgor hwn, roedd cyfanswm y cynigion presennol tua £886k ym mlwyddyn 1 a £1.6m arall dros y ddwy flynedd ganlynol.

 

Roedd Strategaeth y Gyllideb yn cynnig cynnydd o 4.39% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2022/23, yn unol â'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a byddai'r cynnig hwnnw'n cael ei ystyried fel rhan o'r broses o gwblhau'r gyllideb dros y mis nesaf a lle cafodd yr Awdurdod eglurhad pellach ynghylch costau a chyllid grant gyda'r bwriad o gyfyngu ar y cynnydd yn y Dreth Gyngor cyn belled ag y bo modd. Byddai cynigion terfynol y gyllideb wedyn yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ddiwedd mis Chwefror, i sicrhau bod cyllideb gytbwys yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor Sir.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·     Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd

·     Atodiad A(ii) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd

·     Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd

·     Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Codwyd yr ymholiadau a'r pryderon canlynol mewn perthynas â thaliadau parcio a'r cynnig i gyflwyno taliadau mewn rhagor o feysydd parcio fel y nodir yn Atodiad Aii yr adroddiad:-

 

-       Gofynnwyd pa feysydd parcio oedd dan sylw, ble oeddent, beth fyddai'r broses o gyflwyno'r taliadau, ac a fyddai'r Aelodau'n cael gwybod?

 

-       Gofynnwyd a oedd ystyriaeth wedi cael ei rhoi i'r rhesymau pam yr oedd parcio am ddim yn y meysydd parcio hyn ar hyn o bryd?

 

-       Mynegwyd pryder yngl?n â'r cynnydd cyffredinol mewn taliadau parcio a'r effaith bosibl ar y trefi llai a'r busnesau oedd ynddynt.


 

Wrth ymateb, dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai'r cynnig i gyflwyno taliadau mewn rhagor o feysydd parcio yn cynnwys y meysydd parcio oedd am ddim ar hyn o bryd:-

 

§  Dafen Steele, Llanelli

§  Llanybydder

§  Maes Parcio'r Orsaf a Theras Sea View, Porth Tywyn

§  Meysydd Parcio Glan-yr-Afon a Ffordd yr Orsaf, Cydweli

§  Llansteffan

§  Teras Efa, Glanyfferi

 

Esboniwyd y byddai proses statudol hir yn digwydd ar gyfer creu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, yn amodol ar gymeradwyo strategaeth y gyllideb, er mwyn gallu rhoi'r taliadau ar waith. Fel rhan o'r broses hon, byddai'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig yn destun ymgynghoriad ffurfiol gyda rhanddeiliaid a hysbysiadau cyhoeddus.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod sylw wedi cael ei roi i'r rhesymau pam fod rhai meysydd parcio am ddim ar hyn o bryd, a bod hynny wedi cael ei ystyried yn y cynnig presennol.

 

Mewn perthynas â'r cynnydd cyffredinol mewn taliadau meysydd parcio, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod y cynnydd, fel y nodwyd yn yr adroddiad, wedi'i gynllunio ar gyfer Ebrill 2020, ond wedi'i roi ar waith ym mis Ionawr 2021 ac nad oedd unrhyw fwriad yn y strategaeth gyllidebol hon i gynyddu'r taliadau ymhellach.

 

Yn groes i'r pryderon ynghylch y cynnydd mewn taliadau meysydd parcio, gwnaethpwyd sylw, er bod unrhyw gynnydd mewn taliadau yn ddadleuol ei natur, fod llawer o'r cyhoedd hefyd nad ydynt yn berchen ar gerbydau, ac na fyddai'r cynnydd mewn taliadau yn effeithio arnyn nhw ond byddai unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor yn effeithio arnyn nhw.

 

Soniwyd bod taliadau'r meysydd parcio yn nhref Caerfyrddin yn sylweddol uwch na'r rhai yn Rhydaman a Llanelli, ac, er tegwch, gofynnwyd a ellid cynnal adolygiad o daliadau'r meysydd parcio ledled Sir Gaerfyrddin, gyda'r bwriad o sicrhau cysondeb.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai'r sylw'n cael ei ystyried, ond byddai'r amrywiant o ran y lleoliad a'r defnydd yn ffactor yn y gyfradd daliadau wahanol.  Yn ogystal, rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y taliadau'n incwm pwysig i alluogi gwaith cynnal a chadw angenrheidiol i gael ei wneud ar y meysydd parcio.

 

Gwnaed sylwadau pellach yngl?n â'r sefyllfa economaidd a'r gwahaniaeth o ran nifer ymwelwyr rhwng Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin, a'r sefyllfa economaidd oedd y rheswm pam roedd y newidiadau ym meysydd parcio Rhydaman a Llandeilo ar gyfradd is.  Mynegwyd pryder y byddai cynnydd mewn taliadau meysydd parcio yn cael effaith andwyol ar drefi llai a'u busnesau.


 

·       Mynegwyd pryder yngl?n â diffyg gwaith cynnal a chadw a gofal esthetig y seilwaith a'r gosodiadau yn Rhydaman a dywedwyd bod angen cynllun i reoli hyn. Wrth ymateb, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod strategaeth y gyllideb wedi cynnwys y sefyllfa ariannol a'r cynigion i aelodau eu hystyried, ac yn anffodus nid oedd y maes cynnal a chadw hwn ar gael mwyach.

 

·       Wrth gyfeirio at Arloesi Diogelwch ar y Ffyrdd, gofynnwyd am eglurhad sut y byddid yn cael incwm a nawdd. Eglurodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y tîm, wrth edrych sut y gellid cael incwm ychwanegol, wedi dod o hyd i enghreifftiau ledled y wlad lle'r oedd gweithgareddau diogelwch ar y ffyrdd wedi denu nawdd.  Nodwyd bod cyfle posibl i sicrhau incwm cymedrol drwy ddefnyddio gwasanaethau fel gwasanaeth a hyfforddiant hebryngwyr croesfannau ysgol.

 

·       Cyfeiriwyd at y cynnig mewn perthynas â Phriffyrdd - 'yn amodol ar y sefyllfa ariannol ddim yn newid, gorfodir y gwasanaeth i leihau lefel y gwaith cynnal a chadw cyffredinol ymhellach' fel y nodir yn Atodiad Aii yr adroddiad. Gan gydnabod bod cyflwr y priffyrdd yn dibynnu ar hyn o bryd ar y cynigion buddsoddi sylweddol parhaus, mynegwyd pryder cryf y byddai gostyngiadau pellach yn y gyllideb yn niweidiol i gyflwr y ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin.  Yn dilyn consensws cyffredinol y Pwyllgor i ddiogelu'r gwaith cynnal a chadw a gwella amodau priffyrdd y Sir, argymhellwyd felly y dylid gosod y swm a ddyrannwyd o £757k o fewn y gyllideb priffyrdd.

 

·       Gofynnwyd am wybodaeth mewn perthynas â swyddi gwag Hebryngwyr Croesfannau Ysgol a'r amserlenni. Esboniodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth, er bod proses recriwtio barhaus ar gyfer Hebryngwyr Croesfannau Ysgol ar waith, fod rhai anawsterau wedi bod o ran llenwi swyddi gwag ar rai safleoedd. Yn y cyfamser, roedd y tîm yn gweithio gyda'r Gymuned i helpu i ddarparu'r gwasanaeth hwn i ysgolion.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a godwyd yngl?n â'r swydd wag yn yr adain Hawliau Tramwy Cyhoeddus, adroddodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod cylch cyntaf y broses recriwtio wedi'i gwblhau a byddid yn penodi cyn hir.

 

·       Cyfeiriwyd at adran Rheoli Traffig y Crynhoad Taliadau, Atodiad C. Gofynnwyd a ellid cynyddu ymhellach y cynnydd o 2% mewn prisiau yn unol â chwyddiant?  Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y byddai'r taliadau'n cael eu lleihau i 2.5% fel y nodwyd yn yr adroddiad, o gofio'r baich oedd ar gyllidebau aelwydydd.  Dywedwyd ymhellach na fyddai cynnydd yn yr adain Rheoli Traffig yn cael effaith uniongyrchol ar aelwydydd. Wrth gydnabod bod incwm yn bwysig ac angenrheidiol, ategwyd a chefnogwyd y sylw ar y cynnydd mewn prisiau canrannol, cyn belled nad yw'n effeithio'n uniongyrchol ar aelwydydd.


 

Yn ogystal, gofynnwyd a fyddai chwyddiant yn cael ei ychwanegu at y taliadau oedd heb gynyddu?  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y byddai'n ddoeth cynnal adolygiad o'r holl daliadau nad ydynt yn effeithio'n uniongyrchol ar drethdalwyr.

 

·       Cyfeiriwyd at hysbysiadau cosb benodedig a'u taliadau.  Dywedwyd bod gwaith megis clirio baw c?n a chodi sbwriel yn gostus, a bod hysbysiadau cosb benodedig, tra'n cyfrannu tuag at y costau hyn, hefyd yn fath o gosb am ymddygiad anghyfrifol. Felly, gofynnwyd a ellid cynyddu taliadau'r hysbysiadau cosb benodedig?  Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod y Cyngor, wrth bennu'r taliadau, yn cael ei lywodraethu gan ddeddfwriaeth a bod y taliadau yn y crynhoad wedi'u pennu'n agos i'r terfyn uchaf ac y byddai unrhyw gynnydd pellach tu allan i'r ddeddfwriaeth.  Gellid gwneud cynnydd pellach i gyrraedd yr uchafswm yn y dyfodol mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet perthnasol.  Mynegwyd yn gryf bod adolygiad yn cael ei gynnal ar bob tâl hysbysiad cosb benodedig a sicrhau eu bod yn cael eu gosod i derfyn uchaf y ddeddfwriaeth cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar ystyried sylwadau'r Pwyllgor fel rhan o'r ymgynghoriad:-

 

4.1

bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 – 2024/25 yn cael ei dderbyn;

 

4.2

bod y Crynhoad Taliadau ar gyfer Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, fel y manylir yn Atodiad C i'r adroddiad, yn cael ei dderbyn.

 

 

Dogfennau ategol: