Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Dai ar Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2022-25 Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin, a oedd â phwrpas pedwarplyg. Yn gyntaf, eglurai weledigaeth a manylion rhaglen buddsoddiadau tai dros y tair blynedd nesaf a'r hyn yr oedd y Safon yn ei olygu i'r tenantiaid. Yn ail, cadarnhaodd yr incwm sydd i'w dderbyn o renti tenantiaid a ffynonellau ariannu eraill dros y tair blynedd nesaf. Yn drydydd, cadarnhaodd y proffil ariannol, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau presennol, ar gyfer cyflawni'r rhaglen buddsoddiadau tai a thai cyngor newydd dros y tair blynedd nesaf. Yn bedwerydd, roedd yn llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2022/23, a oedd yn cyfateb i £6.1m.
Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod y Cyngor yn cefnogi ei denantiaid a'i breswylwyr ym mhopeth y mae'n ei wneud, gan nodi'r pum thema allweddol ganlynol fel rhai sy'n gyrru'r busnes am y tair blynedd nesaf:-
- Thema 1 – Cefnogi Tenantiaid a Phreswylwyr;
- Thema 2 – Buddsoddi mewn Cartrefi a'r Cyffiniau;
- Thema 3 - Darparu rhagor o dai;
- Thema 4 – Datgarboneiddio'r Stoc Dai;
- Thema 5 - Yr Economi Leol, Budd i'r Gymuned a Chaffael
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Mewn ymateb i gwestiwn ar yr amser a gymerwyd i wneud gwaith i wagio eiddo cyn ail-osod, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod lefel yr eiddo gwag ar hyn o bryd wedi gostwng o fwy na 400 i 344, ar ddiwedd mis Rhagfyr 2021, yn erbyn cyfanswm nifer y stoc dros 9,200. Er bod lefel yr eiddo gwag wedi gostwng, roedd nifer o resymau dros yr oedi wrth eu hail-osod. Roedd y rheiny'n cynnwys, er enghraifft, effaith covid, argaeledd contractwyr ac argaeledd deunyddiau. Nodwyd hefyd na ellir dychwelyd 45 o'r eiddo gwag hynny i'r stoc ac roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i'w gwerthu neu, o bosibl, ddymchwel.
Dywedodd y Pennaeth Tai, Eiddo a Phrosiectau Strategol fod adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar eiddo gwag gyda'r nod o gyflymu'r broses o'u dychwelyd i'r stoc. Roedd hynny'n cynnwys ymweld ag awdurdodau tai lleol eraill a landlordiaid cymdeithasol i gael persbectif ar eu prosesau/gweithdrefnau. Yn ogystal, roedd fframwaith y contractwyr mân waith i fod i gael ei adnewyddu yn ystod y misoedd nesaf ac, fel rhan o'r broses dendro honno, byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddichonoldeb ymestyn y fframwaith i gynnwys cynnydd yn nifer y contractwyr.
· Fel rhan o'r drafodaeth ar eiddo gwag, cyfeiriwyd at y ffaith nad oedd aelodau lleol yn cael gwybod am yr amser yr oedd yn ei gymryd i ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto er mwyn rhannu'r wybodaeth hon ag etholwyr. Cadarnhawyd y byddai trefniadau'n cael eu gwneud i roi gwybod i aelodau lleol yn dilyn arolygiad o eiddo gwag o'r amser y disgwylir iddo gymryd i'w ail-osod.
· Cyfeiriwyd at y drafodaeth a gynhaliwyd yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor ar effaith rheoliadau CNC ynghylch ffosffadau ar waith datblygu/adfywio. Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod cyfarfod wedi'i gynnal yn ddiweddar gyda Llywodraeth Cymru a bod trefniadau'n cael eu gwneud i gyfarfod ag awdurdodau lleol, gan gynnwys Sir Gaerfyrddin, i drafod y materion. Wedyn gellid rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hynny i'r aelodau.
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CABINET/CYNGOR:-
6.1 |
Cadarnhau gweledigaeth y Rhaglen Buddsoddiadau Tai dros y dair blynedd nesaf; |
6.2 |
Cytuno y gellid cyflwyno Cynllun Busnes 2022/23 i Lywodraeth Cymru |
6.3 |
Nodi'r cyfraniad a wnaeth y Cynllun i'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai i gefnogi'r gwaith o ddarparu dros 2,000 o gartrefi newydd |
6.4 |
Nodi'r egwyddorion sydd wrth wraidd symud tuag at gartrefi carbon sero-net a datblygu Strategaeth Datgarboneiddio a Gwres Fforddiadwy i gefnogi hynny; |
6.5 |
Nodi pwysigrwydd y buddsoddiad sydd wedi'i gynnwys yn y Cynllun a'i rôl o ran ysgogi'r economi leol a'i hadfer yn dilyn y pandemig Covid-19. |
Dogfennau ategol: