Agenda item

CYLLIDEB Y CYFRIF REFENIW TAI A PHENNU RHENTI TAI AR GYFER 2022/23

Cofnodion:

(NODER:

1)    Mae'r Cynghorydd G.B. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac mae wedi datgan y buddiant hwnnw eto. Roedd wedi cael cyngor cyfreithiol y gallai aros yn y cyfarfod a chymryd rhan yn y bleidlais;

2)    roedd y Cynghorydd D. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, mae wedi datgan y buddiant hwnnw eto, ac wedi gadael y cyfarfod wrth i'r mater gael ei ystyried ac nid oedd yn cymryd rhan yn y drafodaeth na'r bleidlais)

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ar Gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2022/23 a gyflwynir fel rhan o broses ymgynghori'r gyllideb a ddygai ynghyd y cynigion diweddaraf ar gyfer y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2022/25 a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor er mwyn iddynt benderfynu yn eu cylch.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu a chynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Roedd y buddsoddiad arfaethedig a geir yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni STSG+ erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith), wedi darparu buddsoddiad i gynnal STSG+ ac wedi parhau â'r buddsoddiad yng Nghynllun Cyflawni Tai ac Adfywio yr Awdurdod. 

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar sut y byddai rhenti'n cynyddu ar gyfer 2022/23 gyda chyllideb y Cyfrif Refeniw Tai yn cael ei gosod i adlewyrchu'r canlynol:-

 

·       Polisi Rhent Tai Cymdeithasol (a bennwyd gan Lywodraeth Cymru) a oedd eleni, oherwydd y lefel uwch o CPI, wedi gweithredu penderfyniad y Gweinidog

·       Cynigion yng Nghynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai Sir Gaerfyrddin

·       Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai

 

O ran pennu Rhenti Tai, atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Aelod Cabinet fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu Polisi Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar 24 Chwefror 2015 am gyfnod o bedair blynedd hyd at 2018/19. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu polisi interim ar gyfer 2019/20 wrth iddi aros am ganlyniadau'r Adolygiad o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy.Yn dilyn yr adolygiad hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cadw'r polisi am gyfnod pellach o 5 mlynedd rhwng 2020/21 – 2024/25 gyda rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Roedd y polisi hwn yn caniatáu i awdurdodau lleol gynyddu cyfanswm y rhent gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) +1% ar gyfer pob un o'r pum mlynedd hyd at 2024/25. Mae hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi o hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a gasglwyd gan y landlord cymdeithasol yn fwy na CPI+1%.

 

Fodd bynnag, os bydd CPI y tu allan i'r ystod o 0% i 3%, mae'r polisi'n darparu i'r Gweinidog â chyfrifoldeb am Dai benderfynu ar y newid priodol i lefelau rhent i'w gymhwyso ar gyfer y flwyddyn honno yn unig. Gan fod CPI yn 3.1% ym mis Medi 2021 mae'r cymal hwn wedi'i actifadu eleni ac roedd Gweinidog y Llywodraeth dros Newid yn yr Hinsawdd wedi cyfarwyddo na ddylai'r cynnydd mwyaf yn yr amlen rent ar gyfer unrhyw awdurdod lleol fod yn fwy na 3.1%

 

Aeth yr Aelod Cabinet ymlaen i gadarnhau ein bod eleni wedi gallu ymateb i'n holl flaenoriaethau a gallu cydbwyso'r cynllun busnes a chynnig cynnydd rhent ar gynnydd cyffredinol o 2.9%, a fydd yn cynhyrchu rhent cyfartalog o £94.26 i'n tenantiaid.

 

Yn yr amlen cynnydd rhent gyffredinol, cynigiwyd bod yr Awdurdod yn parhau â'r cynnydd mewn rhent a bydd hyn yn cael ei osod ar uchafswm o £1 ar gyfer eiddo sy'n is na'r rhent targed.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CABINET/CYNGOR:-

 

5.1

cynyddu'r rhent tai cyfartalog 2.90% (£2.66) fesul preswylfa yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a thrwy hynny gynhyrchu Cynllun Busnes cynaliadwy, cynnal STSG+ ac adnoddau'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai, fel y'i cefnogir gan y Tîm Strategol Tai ac Adfywio;

5.2

Cadw rhent garejis yn £9.00 yr wythnos a sylfeini garejis yn £2.25 yr wythnos;

5.3

Rhoi'r Polisi ynghylch Taliadau am Wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid sy'n cael gwasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny;

5.4

Cynyddu'r taliadau am ddefnyddio gwaith trin carthffosiaeth y Cyngor, yn unol â'r cynnydd mewn rhenti;

5.5

Cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/25 (cyllidebau dangosol oedd rhai 2023/24 a 2024/25), fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad;

5.6

Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol ar gyfer 2022/23, a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer 2023/24 hyd 2024/25, fel y'u nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: