Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2022/23 TAN 2024/25

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2022/23 - 2024/25 a oedd wedi ei hystyried a'i chymeradwyo gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 17 Ionawr 2021.  Nodwyd hefyd fod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori ar y gyllideb yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.

 

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2022/23, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2024/25.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl.

 

·         Atodiad A - Strategaeth Cyllideb Gorfforaethol 2022/23 - 2024/25

·         Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol grynodeb o'r adroddiad.   Roedd y pwyntiau allweddol dan sylw yn cynnwys:

 

·         Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y cynigion effeithlonrwydd diweddaraf. Roedd yn ystyried y gwaith dilysu angenrheidiol o ran y gyllideb, y wasgfa ar wasanaethau a'r setliad cyllideb dros dro a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i Awdurdodau ar 21 Rhagfyr 2021.

·         Er bod y setliad dros dro yn uwch nag a gynlluniwyd, roedd maint y pwysau gwariant ar lefel na welwyd ei thebyg o'r blaen.  O ystyried hyn, byddai angen i'r Awdurdod barhau i gyflawni arbedion effeithlonrwydd drwy'r gyllideb hon a chyllideb y blynyddoedd nesaf.

·         O edrych ar Gymru gyfan, roedd y setliad dros dro llywodraeth leol wedi cynyddu 9.4% ac roedd setliad Sir Gaerfyrddin wedi cynyddu 9.2%.  Roedd y Cyllid Allanol Cyfun wedi cynyddu i £311.957 miliwn yn 2022/23.  Byddai hyn yn helpu i ddarparu ar gyfer ffactorau chwyddiant, demograffeg a newidiadau i'r galw am wasanaethau, yn enwedig o ran gofal cymdeithasol.

·         Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi manylion Grantiau Gwasanaethau Penodol ochr yn ochr â'r setliad dros dro ar 21 Rhagfyr 2021 ar lefel Cymru gyfan.  Roedd yn bryder bod llawer wedi aros ar lefel debyg i flynyddoedd blaenorol o ystyried effaith dyfarniadau cyflog a chwyddiant cyffredinol.

·         Dywedwyd na fyddai'r setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan 1 Mawrth 2022.

·         Roedd llythyr y Gweinidog a ddaeth gyda'r setliad yn nodi’n glir bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r Cyngor dalu cost unrhyw ddyfarniadau cyflog yn y dyfodol o'r setliad gwell.

·         Tynnwyd sylw at y ffaith mai £3.8m oedd y gostyngiadau yn y gyllideb yr oedd eu hangen ar gyfer 2022/23 a fyddai'n sicrhau, yn seiliedig ar yr amcanestyniadau presennol, y gellid darparu gwasanaethau hanfodol o hyd.

·         Gan ystyried y setliad dros dro, y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor y flwyddyn nesaf oedd 4.39%. 

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd a oedd yr adolygiad o wasanaethau trafnidiaeth yn cynnwys gwneud gwell defnydd o'r bysiau sydd ar gael gan gynnwys gwasanaethau megis Dolen Teifi.

Rhoddodd yr Uwch-reolwr Cymorth Busnes sicrwydd i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod yn sicrhau eu bod yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael ac y byddent yn edrych ar osod pwyntiau gwefru.

·         Gofynnwyd i swyddogion pa effaith yr oedd Covid wedi'i chael ar ddemograffeg a hefyd effaith mudo i'r Sir.

Dywedodd swyddogion eu bod yn ansicr pryd y byddai data'r cyfrifiad yn cael ei roi ac na chafodd data ynghylch mudo i'r sir ei gasglu. Cadarnhawyd y byddai data'n cael ei roi, ond ni wyddys pryd y byddai hynny'n digwydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

5.1

Bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2022/23 – 2024/25 yn cael ei dderbyn;

5.2

Bod y Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, fel y manylir yn Atodiad C i'r adroddiad, yn cael ei gymeradwyo.

 

Dogfennau ategol: