Cofnodion:
[SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried. Roedd y Cynghorydd Lloyd wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid i bleidleisio ar faterion penodol yn ymwneud â'r Cynllun Cysylltu Bywydau.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2021, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2021/22.
Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £168k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai -£65k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2021/22.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol wrth y Pwyllgor fod rhai meysydd yn dangos amrywiannau sylweddol o'u cymharu â'r gyllideb a bennwyd fis Chwefror diwethaf a bod yr amrywiannau hyn yn deillio o’r ffaith bod y pandemig yn effeithio ar weithgareddau. Sicrhawyd y Pwyllgor bod perfformiad yn parhau i gael ei fonitro a bod cyllid brys yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau i sicrhau bod cynifer o wasanaethau â phosibl yn cael eu darparu.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Mynegwyd pryder bod y gyllideb yn dal i ddangos gorwariant er nad oedd llawer o wasanaethau wedi'u darparu yn ystod y pandemig.
· Gofynnwyd am eglurhad yngl?n â'r gwariant cyfalaf ar gyfer Cartref Cynnes.
Dywedodd swyddogion fod yr arian wedi bod yno ers dechrau'r cynllun ac y byddai'n aros yn y gyllideb gyfalaf nes bod y cytundeb prydles gyda Tai Teulu wedi'i lofnodi.
· Gofynnwyd ai'r gostyngiad mewn pecynnau gofal cartref dau ofalwr i 18% erbyn diwedd 2021/22 o 25.4% yn 2018/19 oedd y ffordd orau ymlaen. Mynegwyd pryder y byddai hyn yn cael effaith negyddol ar unigolion a theuluoedd.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig y byddai adolygiad cynhwysfawr yn cael ei gynnal ar y cyd â'r darparwr ac ar y cyd â'r unigolyn a'i deulu. Yn amlach na pheidio, byddai'n golygu newid syml megis defnyddio offer a fyddai'n galluogi unigolyn i fod yn fwy annibynnol yn hytrach na bod angen dau berson i roi cymorth iddo. Dywedwyd bod yr Awdurdod yn adolygu pecynnau gofal dau ofalwr fel mater o drefn ac yn ystyried ffyrdd eraill o ddarparu'r offer cywir. Byddai'r adolygiadau fel arfer yn cael eu harwain gan therapyddion galwedigaethol a byddai gofal dau ofalwr yn cael ei leihau dim ond pe bai'n cael ei ystyried yn ddiogel i wneud hynny.
· Gofynnwyd am eglurhad ynghylch lleihau nifer y cleientiaid sy'n derbyn pecynnau gofal cartref am lai na 5 awr yr wythnos yn unol ag argymhellion yr Athro Bolton.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod yr Athro Bolton yn cael ei ystyried yn arbenigwr yn ei faes a'i fod wedi ysgrifennu nifer o bapurau academaidd ynghylch egwyddorion hyrwyddo annibyniaeth. Dywedwyd bod yr Athro Bolton wedi gweithio gydag Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd ledled Cymru, gan adolygu'r ffordd yr oedd pecynnau gofal yn cael eu darparu i helpu i leihau'r ddibyniaeth ar ofal. Canfuwyd na fyddai angen gofal ar unigolion sy'n derbyn pecynnau gofal bach iawn petai newidiadau bach yn cael eu gwneud – megis defnyddio technoleg. Mewn rhai achosion, gallai newidiadau bach wneud y gwahaniaeth mwyaf o ran gallu rhywun i ymdopi'n annibynnol.
· Gofynnwyd a oedd yr Awdurdod ar y trywydd iawn o ran y cynnydd yn nifer y bobl â dementia sy'n derbyn y gwasanaeth Bywydau Bodlon.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod yr Awdurdod ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed ac yn adolygu sut y gellid cynnal y gwasanaeth Bywydau Bodlon yn y dyfodol.
· Gofynnwyd beth oedd dan sylw yn y Gwasanaeth Pontio.
Dywedodd swyddogion mai gwasanaeth gofal cartref tymor byr oedd hwn lle'r oedd gofal yn cael ei ddarparu ar unwaith. Roedd y gwasanaeth tymor byr yn rhoi cyfle i asesu anghenion cyn penderfynu ar y pecyn gofal tymor hwy.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
Dogfennau ategol: