Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Perfformiad Adrannol Chwarter 2 2021/22 (1 Ebrill hyd at 30 Medi 2021) sy'n berthnasol i'r maes craffu hwn.
Roedd yr adroddiad yn dangos cynnydd y camau a'r mesurau oedd yn gysylltiedig â'r Strategaeth Gorfforaethol a'r 13 Amcan Llesiant fel roedd ar ddiwedd Chwarter 2 - 2021/22.
Nodwyd bod dyletswydd gyffredinol ar yr Awdurdod i wneud trefniadau i fonitro perfformiad ac i ddangos i ddinasyddion, i aelodau ac i reoleiddwyr sut y rheolwyd perfformiad, a bod ymyriadau priodol yn cael eu gweithredu
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:
Mesurau nad ydynt yn Cydymffurfio â'r Targed
· O ran ymatebion i geisiadau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, nodwyd bod camau'n cael eu cymryd i wella cyfraddau ymateb adrannau i geisiadau am wybodaeth, ond cydnabuwyd bod y pwysau sydd ar adrannau i ddelio â materion sy'n ymwneud â Covid wedi effeithio ar ganlyniadau Chwarter 2. Roedd gwelliannau hefyd yn cael eu gwneud i systemau gweinyddol y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Awgrymwyd, o ystyried yr uchod, fod y geiriau 'dim yn bosibl' yn cael eu newid i 'ar y gweill’ o dan yr adran 'Camau Adferol' yn yr adroddiad ar gyfer y mesur hwn;
· Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y data presennol yn dangos gostyngiad ymylol, ond tuedd ar i lawr, o ran absenoldeb salwch. Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) er bod yr Awdurdod wedi'i atal rhag gofyn i weithwyr a oeddynt wedi cael brechiad rhag y ffliw, ei fod yn hyrwyddo manteision brechiadau o'r fath yn unol â pholisi brechu'r Awdurdod. Awgrymwyd y byddai'n ddefnyddiol cynnwys cyfeiriad at ganran y staff sy'n sâl ym mhob chwarter;
· Cyfeiriwyd at y cynnydd a ragwelir yng nghostau byw a phrisiau ynni o fis Ebrill 2022 a mynegwyd pryder ynghylch a oedd gan yr Awdurdod ddigon o staff i gynorthwyo pobl a allai geisio cymorth neu'r rheiny a allai fod angen cymorth. Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod llwyth gwaith y staff yn cael ei fonitro'n agos a bod swyddi ychwanegol yn cael eu hysbysebu ar hyn o bryd;
· Gofynnwyd a oedd map yn nodi pa mor gyffredin yw tlodi yn Sir Gaerfyrddin. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Faterion Cymunedol a Gwledig fod Gr?p Trechu Tlodi'r Awdurdod yn ystyried materion yn ymwneud â thlodi gwledig a threfol a'i fod yn helpu i nodi pobl yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt i nodi'r gwasanaethau a'r budd-daliadau yr oedd ganddynt hawl iddynt;
· Cytunodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol i fynd ar drywydd pryderon ynghylch oedi gan y Swyddfa Brisio o ran ceisiadau i ailasesu'r dreth gyngor;
· Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod data cynllunio'r gweithlu yn tynnu sylw at y ffaith fod gan yr Awdurdod weithlu sy'n heneiddio a bod prentisiaethau, ochr yn ochr â gwaith gydag ysgolion, yn cael eu hystyried yn ffordd bwysig o ddenu pobl ifanc i wasanaeth y cyngor yn ogystal â'r cynllun hyfforddai graddedig. O ran cynllunio'r gweithlu, cyfeiriwyd at yr Academi Ofal a oedd ar fin cael ei lansio a fyddai, gobeithio, yn denu pobl a oedd am weithio yn sector gofal yr Awdurdod;
Mesurau sy'n Cydymffurfio â'r Targed / materion eraill
· Gan ymateb i bryder a leisiwyd ynghylch yr amser y bu'n rhaid i aelodau'r cyhoedd ac i aelodau aros cyn cael gafael ar staff y ganolfan alwadau yn ystod y pandemig presennol a'r cyfnodau o dywydd gwael, bu i'r Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau gydnabod bod nifer y galwadau a dderbyniwyd yn sylweddol uwch na'r lefelau cyn y pandemig a hefyd roedd llawer o'r galwadau yn hirach ac yn fwy cymhleth. Ychwanegodd fod yr Awdurdod yn parhau i geisio recriwtio staff ychwanegol i'r ganolfan alwadau a'i fod yn adolygu ei gweithrediadau. Nodwyd y gallai'r cyhoedd hefyd gysylltu â'r Cyngor drwy ei wefan a'i gyfryngau cymdeithasol. Cytunodd y Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau i ymchwilio i briodoldeb cyflwyno mesur sy'n ymwneud ag amserau ymateb i ymholiadau'r cyhoedd gan gynnwys y rhai a ddaw i law y tu allan i oriau i'r oriau arferol;
· Cytunodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) i gadarnhau gyda Rheolwr y Rhaglen TIC a fyddai adborth yn cael ei roi i breswylwyr ac i ddefnyddwyr gwasanaethau a oedd wedi ymateb i ymgynghoriadau ac a oedd yn rhan o'r gwaith o nodi blaenoriaethau a phrosiectau TIC yn y dyfodol;
· Cytunodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith i ystyried awgrym y dylid ceisio barn Cynghorwyr sydd newydd eu hethol yn 2017 o ran paratoi'r rhaglen ymsefydlu aelodau yn dilyn yr etholiadau sydd i ddod.
Gofynnodd y Cadeirydd i'r swyddogion gyfleu i'w timau werthfawrogiad y Pwyllgor am eu gwaith yn ystod y cyfnod anodd hwn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: