Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD CABINET DROS ADDYSG A PHLANT

A allai'r Aelod Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ysgol newydd Ysgol Dewi Sant?

Cofnodion:

“A allai'r Aelod Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ysgol newydd Ysgol  Dewi Sant?”

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies - yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant:-

 

Wel, diolch. Rydym wedi cyrraedd y 4ydd cwestiwn a nawr o'r diwedd mae'r Cynghorydd James yn gofyn cwestiwn sy'n berthnasol i'w ward. Y ward y mae'n ei chynrychioli.

 

Hoffwn ddweud hyn yn gyntaf oll am Ysgol Dewi Sant - agorwyd yr ysgol ar y 1af o Fawrth 1947.  Rwy'n si?r eich bod chi wedi cyfrif, fel finnau, y bydd yr ysgol hon yn 75 oed, yn dathlu 75 mlynedd o addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n ben-blwydd pwysig. Ond yr hyn sy'n ei gwneud yn bwysicach yw'r ffaith mai hon oedd yr ysgol Gymraeg gyntaf i gael ei hagor gan unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru. Crëwyd hanes yma yn Sir Gaerfyrddin a diolch i weledigaeth y Cynghorwyr bryd hynny a diolch i'r ymgyrch yn Llanelli a arweiniwyd gan aelodau o'r Blaid Lafur. Y Blaid Lafur bryd hynny oedd yn arwain y ffordd ac yn agor ysgol Gymraeg i 34 o blant, gan dorri tir newydd. Heddiw, mae ychydig yn brin o 500 o blant ar y gofrestr.

 

Yn awr, mae'r un blaid Lafur a gafodd y weledigaeth ym 1947 wedi gwrthwynebu cynlluniau'r weinyddiaeth i roi cartref newydd i'r ysgol hon ar bob cyfle. Safle a ddewiswyd nid gennym ni ein hunain fel Cynghorwyr ond gan arbenigwyr.

 

Byddai'r plant a'u hathrawon bellach mewn ysgol newydd pe bai'r weinyddiaeth hon wedi cael ei ffordd a byddent yn gallu dathlu'r pen-blwydd hwn mewn steil. Yn hytrach, maent mewn hen ysgol, sy'n anaddas ar gyfer gofynion yr unfed ganrif ar hugain. Diolch Rob. Mae'r gwaith o ddewis safle pwrpasol yn anodd, ond mae'r gwaith yn parhau, ac rydym yn gweithio'n galed ar hyn. Rydym yn gweithio gydag Adran yr Amgylchedd gan fod yn rhaid ystyried yr holl ffactorau, megis trafnidiaeth a'r amgylchedd, topograffeg, argaeledd ac ati. Mae'n rhaid gwneud y gwaith hwn yn drylwyr. Dyna sy'n digwydd ar hyn o bryd.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Rob James

 

"Rwy'n rhannu barn yr Aelod Cabinet o ran pwysigrwydd Dewi Sant yn yr ardal a hefyd gan ei bod yn yr ysgol Gymraeg gyntaf. Mae dwy flynedd wedi bod ers iddo dynnu'n ôl gynlluniau i adeiladu ysgol newydd er gwaethaf nifer o ymdrechion yr wyf wedi'u gwneud i annog y Cyngor hwn i ymgynghori ar y safle newydd. Mae'r ysgol a'r gymuned yn dal yn y tywyllwch. Nawr, yr hyn yr ydym yn chwilio amdano yw dyddiad pendant ynghylch pryd y bydd yr ymgynghoriad hwn yn dechrau, felly a allwch chi ddweud wrth y bobl sy'n gysylltiedig â'r ysgol hon pryd y byddant yn clywed am y cynigion ar gyfer yr ysgol newydd.”

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies - yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant:-

 

"Mae mor annheg ar y plant a'r staff hynny eu bod nhw'n dal yn yr adeilad hwnnw. Ac unwaith eto, rwy'n pwyntio bys atoch chi Rob James. Pam yr holl amser hwn?  Rwy'n mynnu bod yr holl elfennau yr wyf wedi'u nodi yn cael eu hystyried mor fanwl â phosibl er mwyn osgoi, ie osgoi unrhyw wrthwynebiad posibl yn y dyfodol. Gwrthwynebiad a fydd yn arwain at fwy o oedi, a dyna pam mae gwaith yn cael ei wneud yn drylwyr ac rwy'n aros nawr i Gam 1 y gwaith gael ei gwblhau yn fuan iawn.”