Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD CABINET DROS ADDYSG A PHLANT

Bwriedir adeiladu ysgolion newydd yn Rhydaman ers nifer o flynyddoedd, a dyrannodd y weinyddiaeth Lafur flaenorol gyllid cyfalaf ar gyfer y prosiect cyn 2015. A allai'r Aelod Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion newydd Rhydaman?

Cofnodion:

“Bwriedir adeiladu ysgolion newydd yn Rhydaman ers nifer o flynyddoedd, a dyrannodd y weinyddiaeth Lafur flaenorol gyllid cyfalaf ar gyfer y prosiect cyn 2015.  A allai'r Aelod Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion newydd Rhydaman?”

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies - yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant:-

 

"Unwaith eto, diolch i'r Cynghorydd James. Ni allaf fynd yn ôl i'r cyfnod cyn 2015 gan mai yn 2017 yr ymunais i â'r Cabinet. Unwaith eto, rwy'n ymwybodol iawn bod y cynllun ym Mand A yn wreiddiol ac roedd hyn yn weithredol rhwng 2014 a 2019.  Ond, yn ôl yn 2016, penderfynwyd symud y prosiect i Fand B sef blwyddyn cyn i mi ddod yn gyfrifol am y portffolio. Fodd bynnag, wrth i'r cynllun ar gyfer Rhydaman gael ei ddatblygu rwy'n cadw llygad ar bopeth sy'n digwydd

 

Fe welwyd cynnydd yn nifer y disgyblion, yn rhannol oherwydd y galw am addysg gynradd Gymraeg yn ardal Rhydaman.  Mae hyn yn beth da.

 

Gwelwyd bod safle presennol Bro Banw a'r Ysgol Gymraeg yng nghanol y dref yn annigonol ac roedd yn dipyn o her dod o hyd i dir addas i ymdopi â'r cynnydd hwnnw.  Cofiwch wrth gwrs fod nifer y plant o oedran cynradd yn fawr iawn. Mae dros 1000 ohonynt, felly roedd yn rhaid i ni ystyried pob math o opsiynau – a'r hyn sy'n addas ar gyfer adfywio tref a chymuned Rhydaman.  Hefyd oherwydd maint y prosiect rydym yn ystyried popeth fel prosiect posibl ar gyfer y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM). Rwyf am bwysleisio hyn eto, ymddiheuriadau am ailadrodd fy hun, ond efallai nad yw pawb wedi clywed hyn. Ond mae trefnu addysg gynradd yn Rhydaman yn flaenoriaeth. Rwyf wedi dweud hyn mewn sawl cyfarfod. Mae'n flaenoriaeth i mi ac mae'n flaenoriaeth i'r weinyddiaeth ac mae'n rhan o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg bresennol. Dywedais hyn yn glir yng nghyfarfod y Cabinet ar y 6ed o Ragfyr. Rydych newydd dderbyn y cofnodion. Roedd yn gyfarfod cyhoeddus a gall aelodau'r wrthblaid fod yn bresennol ac ymuno â'r cyfarfod hwnnw. Dywedais bryd hynny, yn gwbl glir, y byddai'r cynlluniau megis Heol Goffa, Bryngwyn, Pen-bre, Dewi Sant, Rhydaman a Llandeilo yn mynd yn eu blaen yn gyflym. Rwyf am ddweud hyn unwaith eto. Bydd y cynlluniau hyn yn mynd yn eu blaen yn gyflym. Rydym yn datblygu'r prosiectau nawr. Nid wyf am ddweud eto sut mae'r pandemig wedi arafu pethau oherwydd byddaf yn ailadrodd fy hun. Ond mae popeth wedi oedi oherwydd hynny.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Rob James

 

"Fel y mae Glynog eisoes wedi dweud, gwnaeth Plaid leihau'r flaenoriaeth ar gyfer Rhydaman pan ddaethon nhw i rym yn 2015 o A i B.  Yn y gyllideb ddiwethaf dyrannwyd £500,000 i'r ddwy ysgol i lunio cynigion gyda £5 miliwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer biliau eleni. Mae'n amlwg nad yw hyn yn digwydd gan nad yw'r cynlluniau wedi'u datblygu. Allwch chi egluro sut y gwariwyd y £500,000 y llynedd ac nid ydym ddim agosach at gael ysgolion newydd yn Rhydaman?”

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies - yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant:-

 

"Fel y dywedais wrth y Cynghorydd James, rydym yn datblygu'r prosiect yn gyflym. Mae'n digwydd nawr ac mae datblygu unrhyw brosiect yn costio arian. Mae'r gwaith hwn yn bendant yn parhau, beth bynnag yr ydych chi am ei ddweud.  Rydym yn byw yn yr ardal hon ac rydym yn gwybod ein bod o ddifrif am ysgolion newydd ar gyfer Tref Rhydaman.”