Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD CABINET DROS ADDYSG A PHLANT

Yn ôl yr hyn a ddeallwn, bu cynnydd mawr mewn costau deunyddiau a llafur ers y pandemig, sydd â goblygiadau sylweddol i'ch rhaglen gyfalaf, gan gynnwys y Rhaglen Moderneiddio Addysg. A allwch gadarnhau a fydd yr holl gynigion ynghylch ysgolion yng nghyllideb y llynedd yn cael eu datblygu fel y bwriadwyd yn wreiddiol?

Cofnodion:

“Yn ôl yr hyn a ddeallwn, bu cynnydd mawr mewn costau deunyddiau a llafur ers y pandemig, sydd â goblygiadau sylweddol i'ch rhaglen gyfalaf, gan gynnwys y Rhaglen Moderneiddio Addysg.  A allwch gadarnhau a fydd yr holl gynigion ynghylch ysgolion yng nghyllideb y llynedd yn cael eu datblygu fel y bwriadwyd yn wreiddiol?”

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies - yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant:-

 

“Fel y gwyddoch, rhoddwyd cryn sylw i hyn yn ein trafodaeth ddoe ar y gyllideb addysg a soniwyd hefyd am yr adolygiad o'r rhaglen Moderneiddio Addysg. Caiff y Rhaglen Moderneiddio Addysg, fel rhan o gyllideb ehangach y Cyngor, ei monitro a'i hadolygu'n barhaus ac mae hyn yn hanfodol.  Mae'n bwysig ein bod ni fel y Cabinet yn gallu craffu ar ein prosiectau a'r gyllideb. Mae'r rhaglen hon yn eithriadol o bwysig i ni ac rydym yn gweithio'n dda gyda'r llywodraeth yng Nghaerdydd i adeiladu ysgolion ac yn ddiweddar agorwyd tair ysgol newydd sef Rhys Pritchard, Llanymddyfri, Llangadog a Phum Heol. Adeiladau newydd addas a chynaliadwy i'n dysgwyr. Mae ein plant yn Sir Gaerfyrddin yn haeddu hyn, maen nhw'n haeddu'r gorau.

 

Fodd bynnag, rwy'n si?r nad oes angen i mi atgoffa'r Cynghorydd James bod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar bopeth y mae'r Cyngor wedi bod yn ei wneud gyda gwaith adeiladu yn dod i ben o ganlyniad i gyfyngiadau ar symud. Fe'n gorfodwyd i adleoli staff er mwyn mynd i'r afael â blaenoriaethau fel Cyngor. Rydym wedi cael dwy flynedd heriol dros ben. Mae costau wedi cynyddu'n sylweddol o ganlyniad i'r pandemig a hefyd Brexit. Allwn ni ddim anghofio hynny. Mae prisiau wedi mynd drwy'r to, a bod yn onest, maen nhw wedi mynd yn uwch na hynny a dyna pam y gwnaethom gymryd rhan mewn adolygiad gan Lywodraeth Cymru. Adolygiad ar gostau, ar gostau uwch ein rhaglenni.  O ganlyniad, cytunodd y Llywodraeth ar gynnydd yn y dyraniad grant er mwyn inni fynd i'r afael â rhai o'r materion ychwanegol ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar amdano. 

 

Mae'r adolygiad hwn o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg yn adolygiad y gofynnais i amdano'n bersonol. Hyd nes y bydd yr adolygiad wedi'i gwblhau, ni allaf gadarnhau a fydd yr holl ysgolion a'r holl gynigion yng nghyllideb y llynedd yn cael eu datblygu.  Oherwydd fel rhan o'r adolygiad hwn rydym yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r rhaglen.  Bydd yn rhaid inni edrych ar ddatblygu cynaliadwy a charbon set-net. Bydd yn rhaid inni edrych ar gyfyngiadau ariannol, chwyddiant mewn perthynas ag adeiladu.  Fel yr wyf eisoes wedi sôn, rhaid inni adolygu ac ail-brisio popeth a wnawn.  Rhaid inni edrych ar addasrwydd a chyflwr ein hadeiladau a newidiadau i dueddiadau disgyblion.

 

Rwy'n dweud unwaith eto, hyd nes y bydd yr adolygiad hwn wedi'i gwblhau, ni allaf gadarnhau a fydd yr holl gynigion ynghylch ysgolion yng nghyllideb y llynedd yn cael eu datblygu. Diolch y Cynghorydd James.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Rob James

 

“Mae pymtheg o ysgolion newydd wedi'u nodi fel rhan o'r gyllideb ddrafft, ond eto nid ydynt wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru am gyllid. Er hynny, dyrannwyd cyllid cyfalaf y flwyddyn nesaf i'w wario ar y prosiectau hyn. A ydych yn derbyn, gyda'ch adolygiad a chyda diffyg cyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru na fydd y prosiectau hyn yn cael eu datblygu y flwyddyn nesaf?”

 

Ymateb y Cynghorydd Glynog Davies - yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant:-

 

"Na, nid wyf yn derbyn hynny oherwydd mae'n rhaid i'r adolygiad hwn ddigwydd nawr ac mae'n rhaid i mi gael ymatebion yr adolygiad cyn i mi wneud unrhyw benderfyniadau pellach."