Agenda item

ADRODDIAD AWDIT CYMRU: ADFYWIO CANOL TREFI YNG NGHYMRU

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan y Pennaeth Adfywio, ar ran Arweinydd y Cyngor, ar Adroddiad Cenedlaethol Archwilio Cymru ar Adfywio Canol Trefi yng Nghymru. Gwnaeth yr adroddiad 6 argymhelliad a galwodd am bob lefel o lywodraeth yng Nghymru i helpu i wneud canol trefi'n gynaliadwy. Roedd Argymhellion 4 a 6 yn ymwneud â llywodraeth leol ac yn dweud:-

 

“Argymhelliad 4

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi hyfforddiant i bob un o'r 22 awdurdod lleol ar y ffordd orau o ddefnyddio pwerau gorfodi, cymorth ariannol ac adennill dyledion sy'n bodoli eisoes, ond nid ydynt yn cael eu defnyddio'n gyson nac yn effeithiol i gefnogi adfywio. Rydym yn argymell bod awdurdodau lleol yn cymryd camau priodol, gan ddefnyddio'r pwerau a'r adnoddau presennol hyn sydd ar gael i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i ganol trefi drwy:

 

·       ddefnyddio dulliau gorfodi amgen cyn defnyddio gorchmynion Prynu Gorfodol pan fydd popeth arall yn methu;

·       integreiddio strategaethau gorfodi gyda strategaethau adrannol ehangach ar draws timau tai, iechyd yr amgylchedd, cynllunio ac adfywio i wneud defnydd mwy effeithiol o sgiliau ac adnoddau sy'n bodoli eisoes; a

·       sicrhau bod capasiti a'r arbenigedd cywir i ddefnyddio'r ystod lawn o bwerau, gan gydweithio â chynghorau eraill i sicrhau canlyniadau da.

 

Argymhelliad 6

Mae canol trefi'n newid, ac mae angen i awdurdodau lleol fod yn barod i dderbyn y newidiadau hyn a chynllunio i reoli'r newidiadau hyn. Rydym yn argymell bod awdurdodau lleol yn defnyddio ein hofferyn adfywio i hunanasesu eu dulliau presennol o nodi lle mae angen iddynt wella eu gwaith ar adfywio canol trefi".

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod y Cyngor wedi paratoi Cynllun Gweithredu mewn ymateb i adroddiad Archwilio Cymru, fel y nodir yn yr adroddiad i'r Pwyllgor ei ystyried a'i gymeradwyo.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Cyfeiriwyd at y lefel isel o gyfranogiad gan fusnesau yng nghyfarfod diweddar y Fenter 10 Tref ar gyfer Cross Hands. Cadarnhawyd nad oedd y lefel isel yn adlewyrchiad o’r canol trefi eraill a bod swyddogion yn gweithio gyda busnesau yn yr ardal i annog mwy o gyfranogiad ac ymgysylltu.

·        Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â'r Cyd-fentrau, Llywodraeth Cymru a busnesau lleol mewn dull pendant a chydgysylltiedig fel rhan o'r Fenter 10 Tref. Er y byddai gan bob tref ddull annibynnol o ran yr hyn sy'n cael ei ystyried yn fuddiol i'r dref e.e. darparu unedau busnes, lleoedd parcio, mwy o ddarpariaeth fanwerthu ac ati, a fyddai'n cael ei archwilio'n unigol ar gyfer pob tref, byddai rhyngddibyniaeth hefyd rhwng y trefi. Yn unol â hynny, byddai swyddogion yn cydgysylltu'r fenter rhwng y trefi er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf posibl.

·        O ran cyllid, er bod y Cyngor Sir wedi rhoi swm o'r neilltu yn ei raglen gyfalaf, nid oedd unrhyw gyllid penodol arall ar gael ond roedd gwaith yn mynd rhagddo i dynnu arian i lawr o ffynonellau eraill i helpu i gefnogi'r fenter a rhoi argymhellion yr adroddiad ar waith. Roedd y rheiny'n cynnwys, er enghraifft, gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar Gyllid Canol Trefi a chael cyllid o Gronfa Codi'r Gwastad a Chronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU. Gallai ffyrdd eraill o wella bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi fod ar ffurf ymyrraeth o ran sgiliau a hyfforddiant ac ati sy'n cael ei darparu fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe ynghyd â darparu mwy o eiddo preswyl a thrwy hynny gynyddu'r incwm gwario a chynorthwyo o ran economi'r nos.

·        Cydnabuwyd mai un o'r heriau sy'n wynebu canol trefi oedd denu siopwyr i ffwrdd o siopa ar y rhyngrwyd.

·        Cymeradwywyd argymhelliad A3 adroddiad Archwilio Llywodraeth Cymru i 'cydgrynhoi cyllid i leihau biwrocratiaeth drwy symleiddio prosesau ac amodau grant a chwtogi cymaint â phosibl ar geisiadau am wybodaeth a deunyddiau ategol'.

·        Mewn ymateb i argymhelliad A1 yr adroddiad Archwilio i Lywodraeth Cymru ei ystyried mewn perthynas ag Ardrethi Annomestig Cenedlaethol, cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio, er bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am gasglu ardrethi busnes, mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am eu pennu. Er i wyliau’r taliadau Ardrethi Annomestig Cenedlaethol a gyflwynwyd fel rhan o'r rheoliadau Covid ddod i ben ym mis Mawrth 2022, ni chafwyd unrhyw arwydd gan Lywodraeth Cymru ynghylch unrhyw gynigion y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Archwilio Cymru a bod Cynllun Gweithredu Sir Gaerfyrddin mewn ymateb iddo yn cael ei gymeradwyo.

Dogfennau ategol: