Agenda item

ADOLYGIAD O UCHAFSWM TABL PRISIAU CERBYDAU HACNAI.

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am gais a dderbyniwyd i gynyddu uchafswm y tabl prisiau presennol ar gyfer cerbydau hacnai.  Roedd y cais yn cynnig ailstrwythuro uchafswm y tabl prisiau presennol ar gyfer cerbydau hacnai fel a ganlyn:-

 

1.    cynyddu'r tâl cychwynnol ar y mesurydd o £0.60c ar Dariff 1, Tariff 2, a Thariff 3.

 

2.    cynyddu'r Taliadau Ychwanegol ar gyfer cerbydau sy'n cario 5-8 o deithwyr. Ar gyfer pob teithiwr sy'n fwy na PHEDWAR codi tâl o£1 am bob teithiwr (Ar gyfer Teithwyr 5-8).  Mae hyn yn gynnydd o £0.75 y pen.

 

3.    cynyddu'r ffi halogi am faeddu'r Cerbyd i £60. Mae hwn yn gynnydd o £10.00

 

4.    cynyddu'r Ffi Archebu i £5.00 (os yw'r daith yn cychwyn mwy na 4 milltir o ganolfan y gweithredwr). Mae hyn yn gynnydd o £2.00 ac mae hefyd yn newid pellter y daith o fwy na 5 milltir i fwy na 4 milltir.

 

5.    Bydd y pris Tariff 1 ar y mesurydd yn cael ei ddyblu ar gyfer hurio sy'n cychwyn Ddydd Nadolig a Dydd Calan.  Bydd hyn yn parhau a bydd yn seiliedig ar y tariff y cytunwyd arno ar gyfer Tariff 1.

 

Dywedwyd mai'r tro diwethaf y newidiwyd y tariff oedd mis Mai 2011 ac oherwydd yr argostau cynyddol a ysgwyddwyd gan y fasnach dacsis, derbyniwyd cais i gynyddu uchafswm y tabl prisiau presennol yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, Adran 65 Tabl Prisiau Cerbydau Hacnai

 

Rhoddodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu fanylion am ystadegau a dangosyddion sy'n berthnasol i'r fasnach dacsis ers 2011 a oedd yn cynnwys y cynnydd mewn costau tanwydd, isafswm cyflog, premiymau yswiriant ac yn fwy diweddar y cynnydd yng nghostau cerbydau, cydrannau, nwyddau a gwasanaethau ers Brexit a'r Pandemig. Wrth ystyried y wybodaeth a ddarparwyd, dywedwyd bod y sefyllfa gyffredinol yn dangos gostyngiad ariannol clir ac amlwg yn y fasnach dacsis yn Sir Gaerfyrddin a oedd wedi bod yn gweithredu ar golled ers y cynnydd diwethaf yn 2011.

 

Bu'r Aelodau yn ystyried uchafswm y tabl prisiau presennol ar gyfer cerbydau hacnai a'r ailstrwythuro arfaethedig fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau yr ymgynghorwyd â 550 o aelodau o'r fasnach dacsis yn Sir Gaerfyrddin ar uchafswm y tabl prisiau arfaethedig ar gyfer cerbydau hacnai, cafwyd 80 o ymatebion a dywedodd 79 ohonynt eu bod yn hapus â'r cynnydd arfaethedig yn y tariff.  Yn ogystal, cafodd yr Aelodau ddiweddariad ar lafar o sylwadau'r ymatebwyr.

 

Cyfeiriwyd at yr ymatebion a gafwyd yngl?n â'r gyfradd ar gyfer Noswyl Nadolig/Dydd Nadolig a Nos Galan/Dydd Calan.  Mewn ymateb i ymholiad ynghylch diwygio'r tariff, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Uwch Swyddog Trwyddedu wrth y Pwyllgor na fyddai unrhyw welliannau yn ystod y cam hwn wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad cychwynnol ag aelodau o'r fasnach dacsis felly, awgrymwyd y byddai'r ymgynghoriad cyhoeddus yn gyfle i aelodau'r cyhoedd a'r fasnach dacsis ddarparu unrhyw ddiwygiadau a awgrymir i uchafswm y tabl prisiau ar gyfer cerbydau hacnai drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus.  Yn unol â hynny, byddai canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu hadrodd i'r Pwyllgor maes o law.

 

Cafodd yr ymgeisydd gyfle i gyflwyno sylwadau o blaid ei gais o flaen y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

5.1 ad-drefnu uchafswm y tabl prisiau presennol ar gyfer teithiau Cerbydau Hacnai i ddarparu ar gyfer yr argostau cynyddol i berchenogion tacsis;

 

5.2 bod y diwygiadau i'r tabl prisiau presennol fel y nodir yn yr adroddiad yn cael eu cyhoeddi yn y papurau newydd lleol, gan roi 14 diwrnod i unrhyw unigolion i gyflwyno gwrthwynebiadau, yn unol ag Adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. Os na fydd unrhyw wrthwynebiadau, caiff y tariffau eu rhoi ar waith

 

 

Dogfennau ategol: