Agenda item

Y CYNNIG ADDYSG AWYR AGORED YN SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ar y cynnig Addysg Awyr Agored yn Sir Gaerfyrddin, yn dilyn ymweliad safle blaenorol gan y Pwyllgor Craffu â Chanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn. Roedd yr adroddiad yn rhoi cyd-destun i'r cynnig presennol, gan gynnwys adolygiad o asedau, adnoddau ariannol, gweithgarwch staffio a dibenion ynghyd â thynnu sylw at yr effaith a'r heriau a oedd yn gysylltiedig â delio â Covid-19 a sut y byddai angen i'r gwasanaeth ailfodelu a datblygu yn y tymor byr/tymor canolig ac yn y tymor canolig/tymor hir yn unol â'r adnoddau presennol. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys 8 argymhelliad i'r Pwyllgor eu hystyried.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriodd y Pwyllgor yn unfrydol at werth y cyfleuster presennol ym Mhentywyn i'r Sir gyfan ac at y profiad y mae'n ei roi i blant ysgol. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi'n llwyr bod y cyfleuster yn parhau i weithredu a bod angen nodi cyfalaf a ffynonellau cyllid eraill i sicrhau'r ddarpariaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Hamdden at yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ac at un o'r opsiynau, sef archwilio diben y ddarpariaeth. Roedd y ganolfan ym Mhentywyn wedi'i diffinio'n glir fel adnodd addysg i blant yn Sir Gaerfyrddin a oedd, yn ei dro, yn creu ei anawsterau a'i heriau ei hun o ran derbyn grantiau a chyllid allanol. Roedd cyfleoedd masnachol posibl i bobl ddefnyddio cyfleusterau'r ganolfan y tu allan i dymhorau ysgol a allai fod yn ffordd o dderbyn grantiau twristiaeth ac adfywio. Rhoddwyd sicrwydd bod yr holl ffynonellau cyllid grant posibl yn cael eu harchwilio wrth i'r cyfle godi.

·       O ran ailagor y ganolfan ar ôl Covid, cynhaliwyd ymgynghoriad a chafwyd adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr a oedd yn gwerthfawrogi ei darpariaeth ac yn cefnogi ei gweithrediad parhaus. Er y gobeithiwyd y gallai'r ganolfan ailagor o fis Ebrill 2022, roedd hynny'n dibynnu ar reoliadau Llywodraeth Cymru a bod yr ysgolion yn hyderus i ddefnyddio'r cyfleuster.  Hefyd gallai unrhyw gynlluniau ailagor o'r fath fod yn wahanol i weithrediadau blaenorol ar y safle wrth i'r cyfleusterau gael eu defnyddio gan un ysgol ar y tro yn lle sawl ysgol.

·       Er ei fod yn cydnabod bod y ganolfan yn ased gwerthfawr, atgoffwyd y Pwyllgor ei fod yn adnodd sy'n heneiddio a bod arolwg blaenorol o gyflwr y ganolfan wedi amcangyfrif y byddai angen gwneud gwaith gwerth tua £5-6m i fodloni gofynion modern. Felly, roedd yn hanfodol i'r Cyngor archwilio opsiynau eraill i ddarparu cyfleusterau oddi ar y safle a pheidio â chyfyngu ar ei defnydd i addysg yn unig. Byddai angen llunio cynllun asedau y cytunwyd arno fel rhan o'r cam nesaf ac yn y tymor hir byddai angen ystyried y posibilrwydd o addasu'r ganolfan at ddibenion gwahanol a llunio trefniant partneriaeth, o bosibl gyda'r hostel newydd ym Mhentywyn. Rhagwelwyd y byddai'r cynllun asedau yn cael ei gwblhau yn ystod y misoedd nesaf gyda'r bwriad o gwblhau cyfeiriad y ganolfan yn y dyfodol cyn gynted â phosibl wedi hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

8.1

bod yr adroddiad a'r argymhellion ar gyfer y Cynnig Addysg Awyr Agored yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu mabwysiadu.

8.2

bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i nodi ffynonellau cyllid / grant eraill i helpu i gyllido gwelliannau i Ganolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn ac os yw'n briodol, bod hynny'n cynnwys archwilio diffiniad y ganolfan fel adnodd addysgol yn unig.

 

Dogfennau ategol: