Agenda item

ADRODDIAD DATGANIAD BLYNYDDOL 2021 Y CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD

Cofnodion:

[Sylwer: ystyriwyd yr eitem hon cyn eitem 6 ar yr Agenda]

 

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Datganiad Blynyddol 2021 y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ac a gefnogwyd gan gyflwyniad PowerPoint a gyflwynwyd gan Reolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd a oedd y gwariant isel o'i gymharu â Chynghorau eraill wedi'i briodoli'n uniongyrchol i'r rhwydwaith ffyrdd mawr yn Sir Gaerfyrddin?  Esboniodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod y gwariant a ddyrannwyd i briffyrdd yn cael ei briodoli drwy'r penderfyniadau ymwybodol a wnaed gan y Cyngor yn ystod y broses o bennu'r gyllideb ac y byddai'n cael effaith ar y rhwydwaith ffyrdd o dan gyfrifoldeb Cyngor Sir Caerfyrddin.  Byddai'r manylion a nodwyd yn yr adroddiad hwn yn cael eu hystyried wrth gyflwyno sylwadau yn erbyn y pwysau a'r gofynion eraill sy'n wynebu'r Cyngor.

 

·       Mynegwyd pryder bod y dull newydd o osod wyneb newydd wedi methu a bu'n rhaid ail-wneud y gwaith hwn a bod rhai ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin yn dal i aros i gael eu hatgyweirio ar ôl cyfnod hir o amser. Gofynnwyd am ragor o wybodaeth am y mater hwn. Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod gwaith gosod wyneb newydd ar y ffyrdd a gyflawnwyd gan gontractwyr yn gyfiawn ac y byddai unrhyw broblemau o ran deunyddiau yn cael eu cywiro ar draul y contractwyr.  Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth, mewn ymateb i'r materion penodol parhaus sy'n ymwneud ag arwynebau ffyrdd, y byddai'n cysylltu â'r Aelodau y tu allan i gyfarfod y Pwyllgor.

 

·       Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd mewn perthynas â newid goleuadau cyhoeddus i oleuadau LED, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Chludiant fod y rhaglen wedi'i chwblhau yn haf 2020 ac o ganlyniad i'r addasiadau, amcangyfrifwyd bod gostyngiad o 1200 tunnell o allyriadau carbon deuocsid wedi'i gyflawni.

 

·       Cyfeiriwyd at yr Ymchwiliadau Draenio yn yr adroddiad. O ran y darn"Mae'r arolygon hyd yma wedi dangos bod 32% o'n pibellau draenio naill ai wedi'u lleihau'n ddifrifol neu wedi'u blocio ac yn anniogel", mynegwyd prydery byddai d?r ychwanegol yn achosi amhariad ar arwynebau ffyrdd o ganlyniad i'r draeniau llai a'r draeniau sydd wedi'u blocio. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y ffigur o 32% yn peri pryder, dywedodd ei fod yn seiliedig ar sampl fach o arolygon draenio a gynhaliwyd ar hyd yr A484 a ffyrdd critigol eraill a oedd yn dueddol o gael problemau yn ystod tywydd gwael.  Y gobaith oedd y byddai canran uchel o bibellau sydd wedi'u blocio yn cael eu datrys drwy chwistrellu d?r pwysedd uchel, ond cydnabuwyd y gallai rhai rhwydweithiau draenio fod â phroblemau strwythurol ar hyd piblinellau ac felly byddai angen eu hasesu ymhellach. Ychwanegodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod ceisiadau cyfalaf wedi'u cyflwyno i helpu i fynd i'r afael â'r materion ac mewn ymateb i stormydd, a chyflynwyd ceisiadau pellach am arian gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael ag unrhyw ddifrod a achoswyd.

 

·       Cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd, mewn ymateb i ymholiad a godwyd yngl?n â'r cynnydd ar lwybr troed y Cardi Bach, fod y prosiect ar y cyd ar gam cynnal astudiaeth ddichonoldeb, fodd bynnag, nid oedd yn ymwybodol o sefyllfa bresennol y prosiect.  Byddai diweddariad yn cael ei anfon at y Cynghorydd lleol er gwybodaeth. 

 

·       Dywedwyd bod tyllau yn digwydd o ganlyniad i waith atgyweirio gan gwmnïau cyfleustodau.  Gofynnwyd a ystyriwyd bod y warant o 2 flynedd yn ddigon hir ac a ellid ymestyn hyn?  Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y warant 2 flynedd yn safon genedlaethol, ond roedd y Cyngor yn cynyddu ei ffocws ar y drefn arolygu o ran y gwaith cyfleustodau.  Er mwyn cynorthwyo gyda'r drefn arolygu, rhoddwyd gwybod i Aelodau'r Pwyllgor fod adnodd ychwanegol wedi'i sicrhau dros dro.

 

·       Cyfeiriwyd at y 3 opsiwn buddsoddi a amlinellwyd yn yr adroddiad.   Gofynnwyd a oedd unrhyw botensial y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfrannu tuag at y £6m yn 2022/23 fel y nodir yn opsiwn 3?  Eglurodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai'n sicr yn cynorthwyo gyda'r pwysau ar y rhaglen gyfalaf ehangach, ond rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru wrthi'n cynnal adolygiad priffyrdd a byddai canlyniad yr adolygiad yn pennu unrhyw arian yn y dyfodol.  Mewn perthynas â'r gyllideb, cydnabu'r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd fod cyflwr y ffyrdd yn effeithio ar bob aelod o'r cyhoedd ac anogodd pob Aelod i ystyried y rhwydwaith ffyrdd yn ystod y broses o bennu'r gyllideb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad Datganiad Blynyddol 2021 y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd.

 

Dogfennau ategol: