Agenda item

CYNLLUN HEDDLU A THROSEDDU

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel ddrafft o 'Gynllun Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys 2021-2025' yr oedd yn ofynnol i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ei gyhoeddi yn unol ag Adran 7(1) o Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011.

Cyflwynodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu y Cynllun drafft gan ychwanegu y byddai unrhyw adborth gan y Panel yn cael ei ystyried cyn ei gyhoeddi.

Codwyd y materion canlynol:

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch a oedd y Comisiynydd yn cyfeirio at fwy o swyddogion 'ar ddyletswydd' yn y datganiad ar dudalen 3, sef ei bod yn 'hanfodol bod yr adnoddau hyn yn weladwy', ymatebodd y byddai yna'n wir fwy o swyddogion yn weladwy ac y byddai gan swyddogion ymateb rheng flaen rhwng 30%-40% yn fwy o amser i batrolio a phlismona'n fwy rhagweithiol. Roedd y gwelededd cynyddol hefyd yn cynnwys ymgysylltu â'r gymuned;  

·       Sicrhaodd y Comisiynydd y Panel fod gan y Llu bartneriaethau gwaith cryf a chadarn ledled Cymru;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod rhai o'r blaenoriaethau a restrir yn y Cynllun drafft megis agweddau sy'n ymwneud â'r System Cyfiawnder Troseddol yn debygol o fod y tu hwnt i reolaeth y Comisiynydd. Mewn ymateb, dywedodd y Comisiynydd fod dadl yn cael ei chyflwyno'n genedlaethol y dylai fod gan Gomisiynwyr yr Heddlu fwy o bwerau o fewn y system cyfiawnder troseddol. Ychwanegodd, fodd bynnag, fod y partneriaethau cyfiawnder troseddol lleol yng Nghymru yn gryf iawn a'i fod yn hyderus y byddai gwelliannau. Pwysleisiodd hefyd yr angen i fuddsoddi mewn atal troseddu ac ymyriadau cynnar;

·       Nodwyd bod y Prif Gwnstabl wedi rhoi adborth ar y Cynllun drafft ac y byddai trafodaethau o ran y meysydd blaenoriaeth a'u hadnoddau;

·       Mewn ymateb i bryder a amlygwyd yn y Cynllun drafft sef fod gan Heddlu Dyfed-Powys un o'r cyfraddau uchaf o ddioddefwyr sy'n tynnu'n ôl o'r broses cyfiawnder troseddol, nododd y Comisiynydd ei fod yn gobeithio y byddai rhoi'r dioddefwr yng nghanol y system cyfiawnder troseddol a phennu hyn fel blaenoriaeth, gobeithio, yn arwain at weld y sefyllfa'n gwella;

·       Roedd y Comisiynydd, mewn ymateb i ymholiad, yn obeithiol y byddai newidiadau gweithredol sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd yn sicrhau bod digon o bresenoldeb yr heddlu mewn ardaloedd gwledig;

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch a fyddai'r Comisiynydd yn gallu cyflawni Blaenoriaeth 3 yn y Cynllun drafft yng ngoleuni'r ffaith ei fod yn dibynnu ar bartneriaid eraill, cydnabu fod ei bwerau'n gyfyngedig ond ei fod mewn sefyllfa i gychwyn ac eirioli newid, yn enwedig drwy ei fod yn gadeirydd ar y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol

·       Mewn ymateb i sylw, dywedodd y Comisiynydd y byddai'n hapus i'r Panel ymchwilio i effeithiolrwydd ei fuddsoddiad mewn gwasanaethau ieuenctid gyda'r nod o wella'r gwasanaeth ymhellach;

·       Derbyniodd y Comisiynydd y gellid ehangu'r cyfeiriad at 'Gefnogi gwaith Canolfan Seibergadernid Cymru' i egluro natur y cymorth hwnnw;

·       Cyfeiriodd y Comisiynydd at gamau sy'n cael eu cymryd ganddo i leihau'r ôl troed carbon;

·       Cydnabu'r Comisiynydd y byddai'n rhoi mwy o ffocws ar effeithlonrwydd ac arbedion gyda setliadau cyllideb heriol yn y dyfodol;

·       Talodd y Comisiynydd deyrnged i waith y trydydd sector.

 

Gwahoddwyd y Panel i anfon unrhyw sylwadau pellach ar y Cynllun drafft at swyddog Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar unrhyw faterion a godwyd uchod ac a nodwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, y dylid cymeradwyo'r Cynllun drafft.

 

Dogfennau ategol: