Agenda item

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Cofnodion:

·       Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad dwysaf, ar ran yr Aelodau Etholedig a'r Uwch-swyddogion, i'r Cynghorydd Jane Tremlett a'i theulu ynghylch eu colledion diweddar;

 

·       Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Jim Jones yn ôl yn dilyn ei salwch diweddar;

 

·       Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Edward Thomas am ei wahoddiad i de prynhawn yn Llandeilo ar 23 Hydref 2021;

 

·       Dywedodd y Cadeirydd wrth y Cyngor ei fod ef a'i wraig Joyce, ar 30 Hydref 2021, wedi mwynhau perfformiad o 'Joseph and his Amazing Technicolour Dreamcoat' gan Theatr Ieuenctid Porth Tywyn. Diolchodd i'r Theatr Ieuenctid am y gwahoddiad;

 

·       Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r Cynghorydd Ann Davies a'i thîm ar eu llwyddiant yn Seremoni Wobrwyo Flynyddol Mudiad Meithrin yn ddiweddar;

 

·       Dywedodd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Ken Lloyd, ei fod wedi cynrychioli'r Cadeirydd yn ddiweddar yn lansiad Apêl Flynyddol y Pabi yn nhref Caerfyrddin a noson elusennol gyda Maer Llanelli;

 

·       Cyhoeddodd y Cynghorydd Ann Davies fod y Cyngor unwaith eto wedi derbyn achrediad gan Ymgyrch y Rhuban Gwyn i gydnabod y gwaith yr oedd wedi'i wneud ac yn bwriadu ei wneud. Byddai'r Cyngor, fel rhan o'i ymrwymiad, yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd 2021 fel yr oedd wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac anogodd y Cynghorydd Davies yr holl aelodau i ymrwymo i addewid Ymgyrch y Rhuban Gwyn;

 

·       Diolchodd y Cynghorydd Jeanette Gilasbey i bawb, gan gynnwys y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r gwasanaethau brys, a oedd wedi helpu'r trigolion yn dilyn y llifogydd diweddar yng Nghydweli;

 

·       Llongyfarchodd y Cynghorydd Hazel Evans Nicola Olsson, Swyddog Cynorthwyol Diogelwch Ffyrdd, ar y wobr a dderbyniodd gan Gymdeithas Ceffylau Prydain i gydnabod y gwaith yr oedd wedi'i wneud i ddatblygu arwydd ffordd i ddiogelu ceffylau. Ers hynny, roedd yr arwydd wedi'i gymeradwyo gan Bartneriaeth Diogelwch Ffyrdd Cymru;

 

·       Llongyfarchodd a diolchodd y Cynghorydd Hazel Evans i bawb a fu'n rhan o'r cais llwyddiannus i'r Gronfa Codi'r Gwastad gan Lywodraeth y DU am £16.7 miliwn ar gyfer Llwybr Beicio Dyffryn Tywi, gan gynnwys Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Diolchodd y Cynghorydd Evans hefyd i'r holl swyddogion a oedd yn gyfrifol am baratoi a chyflwyno'r cais a thalodd deyrnged i'r Tîm Rheoli Corfforaethol a'r Cabinet am eu gweledigaeth i gefnogi'r prosiect;

 

·       Llongyfarchodd y Cynghorydd Rob James gr?p o Gynghorwyr Sir yn Llanelli, dan arweiniad y Cynghorydd Rob Evans, a oedd wedi camu i'r adwy i werthu pabïau ar ran y Lleng Brydeinig Frenhinol pan nad oedd cyn-filwyr yn gallu gwneud hynny;

 

·       Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd, gyda chaniatâd y Cadeirydd, y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran Covid yn Sir Gaerfyrddin. Ddydd Llun cofnododd Sir Gaerfyrddin 483.1 achos i bob 100,000, o'i gymharu â 537.2 i bob 100,000 yn y 7 diwrnod blaenorol – gostyngiad o 54.1 achos i bob 100,000. Y ffigur ar 11 Hydref 2021 oedd 579.5 i bob 100,000 ac, yn ystod y 4 wythnos diwethaf felly, bu gostyngiad o tua 100 achos i bob 100,000. Er bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir, ystyriwyd bod llawer i'w wneud o hyd, yn enwedig wrth i'r gaeaf nesáu, ac anogwyd pobl i fod yn ofalus. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, anogodd y Dirprwy Arweinydd bawb i gael y ddau frechiad Covid a'r brechiad atgyfnerthu pan ddywedir wrthych am wneud hynny, cael prawf a hunanynysu os byddwch yn datblygu symptomau, cofio bod yr awyr agored yn fwy diogel wrth wneud cynlluniau i gwrdd â phobl eraill, cadw eich pellter pan allwch wneud hynny, golchi eich dwylo a gwisgo gorchudd wyneb. Anogwyd pobl hefyd i fanteisio ar gynnig brechlyn y ffliw gan fod y siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda Covid a'r ffliw yn cael ei lleihau'n fawr ar ôl cael eich brechu, yn ogystal â'r risg y byddwch yn lledaenu'r feirws;

 

·       Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at yr Apêl Teganau Nadolig a lansiwyd yn y cyfarfod diwethaf, gan nodi y byddai unrhyw gefnogaeth a rhoddion yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.