Cofnodion:
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol yr Awdurdod ar Ddiogelu Oedolion a Threfniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, a roddai wybodaeth am rôl, swyddogaethau a gweithgareddau'r Awdurdod o ran Diogelu Oedolion a Threfniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.
Fel y sefydliad statudol sy'n gyfrifol am ddiogelu oedolion, roedd yn ofynnol i'r Awdurdod gael trefniadau effeithiol i sicrhau bod oedolion agored i niwed yn cael eu diogelu rhag niwed. Roedd yr Awdurdod yn cyflawni ei rôl mewn partneriaeth agos â Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a sefydliadau statudol ac anstatudol eraill. Yr Awdurdod oedd hefyd y corff goruchwylio ar gyfer Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am rai o'r prosesau, arferion a gweithgareddau perfformio allweddol.
Fel y corff goruchwylio ar gyfer Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, sicrhaodd yr Awdurdod Lleol fod rhai o'r dinasyddion mwyaf agored i niwed yn cael eu diogelu'n briodol. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am y trefniadau DoLS presennol a'r newidiadau sydd i ddod.
Roedd yr adroddiad yn ymwneud â blwyddyn ariannol 2020/21 ac yn crynhoi cyd-destun cenedlaethol, rhanbarthol a lleol Diogelu Oedolion ac yn darparu amrywiaeth o wybodaeth gan gynnwys:-
· Y sefyllfa strategol ranbarthol a chenedlaethol
· Trefniadau gweithredol lleol
· Archwiliadau ac Arolygiadau
· Gwybodaeth am berfformiad a gweithgarwch
Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:
· Gofynnwyd am eglurhad yngl?n â'r sesiynau codi ymwybyddiaeth a gyflwynwyd gan y tîm.
Dywedodd yr Uwch-reolwr Diogelu / Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DOLS) fod y tîm wedi cyflwyno sesiynau hyfforddiant / codi ymwybyddiaeth rheolaidd ynghylch diogelu a bod y rhain yn sesiynau â thema i ymarferwyr. Dywedwyd bod y sesiwn wedi bod yn llwyddiannus ac wedi rhoi cyfleoedd i'r tîm ofyn cwestiynau pwysig ynghylch diogelu.
· Gofynnwyd pa effaith yr oedd Rôl y Swyddog Ymholiadau (Dyletswydd) newydd wedi'i chael ar y tîm craidd.
Dywedodd yr Uwch Reolwr Diogelu / DoLS mai amcan y rôl hon oedd helpu i sicrhau bod achosion yn cael eu datrys o fewn 7 diwrnod ac i atal uwchgyfeirio achosion. Teimlwyd bod y rôl hon wedi lleihau nifer yr achosion a uwchgyfeiriwyd.
· Cyfeiriwyd at adroddiad Archwilio Cymru a soniodd fod Sir Ddinbych wedi'i chydleoli ag asiantaethau partner. Gofynnwyd a oedd Sir Gaerfyrddin yn ystyried rhoi'r model hwn o weithio ar waith.
Dywedodd swyddogion fod ymchwil wedi dangos nad oedd ateb delfrydol ac nad oedd cydleoli o reidrwydd yn arwain at ganlyniadau gwell. Dywedwyd mai'r allwedd i gyflawni canlyniadau cadarnhaol oedd drwy sicrhau bod seilwaith ar waith i hwyluso cyfathrebu ac ymatebion da.
· Gofynnwyd i swyddogion pam mai anaml iawn y defnyddiwyd y Gorchymyn Cymorth Amddiffyn Oedolion a oedd ar gael ers 2014.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor y gallai achosion o dan rai amgylchiadau gael eu datrys o dan ddeddfwriaeth y Ddeddf Iechyd Meddwl neu drwy'r Llys Gwarchod gan olygu nad oedd angen gorchmynion cymorth.
· Cyfeiriwyd at y pum argymhelliad a wnaed gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol
Dywedodd swyddogion mai'r argymhellion oedd rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu strategaethau a chanllawiau.
· Gofynnwyd a oedd y gallu i gael mynediad i gartrefi gofal wedi gwella.
Dywedodd yr Uwch-reolwr Diogelu / DoLS fod mynediad i gartrefi gofal wedi bod yn heriol yn ystod y cyfyngiadau symud ond bod y sefyllfa bellach wedi gwella. Dywedwyd bod canllawiau hefyd wedi'u newid a bod yr Awdurdod bellach yn mynnu asesiadau wyneb yn wyneb.
· Gofynnwyd pa mor hawdd oedd cael gafael ar ddata a'i rannu rhwng y gwahanol asiantaethau.
Er nad oedd systemau TG wedi'u hintegreiddio, dywedodd swyddogion fod protocolau rhannu data a oedd yn golygu bod asiantaethau'n rhannu gwybodaeth berthnasol a chymesur a oedd yn caniatáu i benderfyniadau gwybodus ac asesiadau risg gael eu gwneud.
· Cyfeiriwyd at y gostyngiad yn nifer yr ymholiadau a wnaed o fewn 7 diwrnod yn chwarter 4. Gofynnwyd a oedd hyn yn bryder a beth oedd y rhesymau dros y gostyngiad.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor y dylai ymholiadau diogelu fel arfer cael eu gwneud o fewn 7 diwrnod; fodd bynnag, ni ddylid eu rhuthro. Mae sawl ffactor wedi cyfrannu at y duedd ar i lawr gan gynnwys cymhlethdod sefyllfaoedd a'r diffyg staff oedd ar gael mewn asiantaethau partner yn ystod y pandemig. Dywedwyd bod y sefyllfa eisoes wedi gwella eleni.
· Mynegwyd pryder ynghylch nifer yr ymholiadau ynghylch cartrefi gofal.
Dywedodd swyddogion fod cartrefi gofal yn dda am hunan-adrodd er bod y rhain mewn llawer o achosion yn bryderon lefel isel ac nid yn ddifrifol. Dywedwyd hefyd fod gan Sir Gaerfyrddin nifer uchel o gartrefi gofal a fyddai'n effeithio ar yr ystadegau.
· Gofynnwyd pam fod nifer y ceisiadau a dderbyniwyd ond na ddyrannwyd aseswyr ar gyfer chwarter 4 yn dal i fod yn uchel.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod dyfarniad Gorllewin Swydd Gaerlleon yn 2014 wedi arwain at ôl-groniad o achosion dros nos ond rhoddwyd sicrwydd bod gan yr Awdurdod broses drylwyr o sgrinio i sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed yn cael blaenoriaeth. Y gobaith oedd, gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, y byddai'r asesiadau'n cael eu cwblhau o fewn 3 mis.
· Gofynnwyd faint o bwysau y bydd y Trefniadau Amddiffyn Rhyddid newydd yn ei roi ar y gwasanaeth gan y bydd bellach yn berthnasol i bobl ifanc 16 ac 17 oed.
Dywedodd swyddogion y rhagwelwyd y byddai'r niferoedd yn cynyddu, ond byddai fframwaith Trefniadau Amddiffyn Rhyddid hefyd yn symleiddio'r asesiad. Wrth baratoi ar gyfer gweithredu Trefniadau Amddiffyn Rhyddid, roedd y rhanbarth wedi cytuno i gynnal ymarfer cwmpasu sy'n ceisio rhoi gwybod faint o bobl fyddai â hawl i'r trefniadau diogelu. Y gobaith oedd y byddai'r ymarfer hwn yn helpu i ragweld y galw ac unrhyw oblygiadau cysylltiedig o ran hyfforddiant/adnoddau.
· Gofynnwyd sut y gallem fod yn sicr bod y canlyniadau a gyflawnwyd yn gadarn.
Nododd swyddogion bwysigrwydd dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth sefydlu'r lefel briodol o gymorth a bod gan bob achos gynllun gweithredu ac argymhelliad o ran ymchwiliad.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
Dogfennau ategol: