Agenda item

YMATEB I LLIFOGYDD MEWN ARGYFWNG - TREFNIADAU DIGWYDDIADAU STORM

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar Ymateb i Lifogydd Mewn Argyfwng - Trefniadau Digwyddiadau Storm. Roedd yr adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, yn darparu gwybodaeth fanwl am sut mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn delio â digwyddiadau stormydd sy'n achosi llifogydd eang ac yn ymateb iddynt ac yn cynnwys y camau y gellid eu disgwyl gan y Cyngor.

 

Ystyriodd aelodau'r Pwyllgor yr egwyddorion a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer ymateb i lifogydd yn ystod y cam ymateb i argyfwng.

 

Nododd yr Aelodau fod y patrwm o ran stormydd gaeaf amlach a oedd yn gofyn am ymateb brys wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. 

 

Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar brif agweddau'r cam gweithredol ar gyfer ymateb i argyfwng a gwybodaeth am y gwaith glanhau ffisegol uniongyrchol a oedd yn rhan o'r cam adfer ac yn ogystal, roedd yn cyfeirio at agweddau ehangach y cam ymateb ac adfer ar ôl y digwyddiad.

 

Mewn ymateb i storm a arweiniodd at lifogydd sylweddol, nodwyd y camau penodol canlynol i reoli digwyddiad o'r fath:

 

· Y cam cynllunio cyn y storm;

· Cam ymateb adweithiol ar unwaith yn ystod llifogydd;

·Cam ymateb ac adfer yn syth ar ôl y digwyddiad.

 

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r cynnwys canlynol yn yr adroddiad:

 

·       Asiantaethau partner

·       Timau Llifogydd Argyfwng Cyngor Sir Caerfyrddin (trosolwg)

·       Cyfrifoldebau a Swyddogaethau Statudol (yn gysylltiedig â llifogydd)

·       Proses Arfaethedig Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Ymateb i Lifogydd .

·       Cyfrifoldeb Perchenogion Eiddo Preifat

·       Camau Gweithredu Hirdymor ar ôl storm

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/ymholiadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd diolch i'r Swyddogion am lunio adroddiad cynhwysfawr a oedd yn rhoi gwybodaeth a oedd wedi'i nodi'n glir.

 

·       Gofynnwyd am eglurhad ar lefel cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o ran yr afon a achosodd y llifogydd sylweddol ym Mhensarn, Caerfyrddin.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod llifogydd o brif afon yn gyffredinol yn dod o dan gyfrifoldeb CNC o dan ymbarél swyddogaethau llifogydd ac amgylcheddol ehangach Llywodraeth Cymru.  Mewn perthynas â'r llifogydd ym Mhensarn, dywedwyd bod y llifogydd wedi'u hachosi gan gyfuniad o ffactorau gan gynnwys y ffaith nad oedd d?r glaw yn gallu llifo o'r tu ôl i'r amddiffynfa rhag llifogydd oherwydd lefel d?r uchel afon Tywi.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff wrth y Pwyllgor fod y Cyngor yn ceisio cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud rhagor o waith i archwilio'r hyn y gellir ei wneud i leddfu'r problemau llifogydd yn ardal Pensarn, Caerfyrddin.

 

·       Gwnaed sylw bod y wybodaeth a roddwyd am y cynnydd yn nifer y stormydd ac effaith hynny ar gymunedau yn peri gofid ac yn debygol o fod oherwydd newid yn yr hinsawdd. 

 

Nodwyd er bod gan ddeiliaid tai a busnesau eu cyfrifoldebau eu hunain, gofynnwyd pa waith oedd yn cael ei wneud i annog cymunedau ac yn enwedig cymunedau agored i niwed i gael cynllun mewn argyfwng a wardeiniaid argyfwng hyfforddedig?  Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff ei bod yn bwysig i gymunedau geisio bod mewn sefyllfa gref i drefnu hunangymorth ac esboniodd yr ymgysylltwyd â'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt fwyaf yn dilyn Storm Callum. Yn dilyn trafodaeth ddiweddar gyda CNC ynghylch materion llifogydd, dywedwyd wrth yr Aelodau, er na fyddai CNC yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith yn y dyfodol, fod modd cynorthwyo cymunedau i sefydlu eu pwyllgorau amddiffyn rhag llifogydd eu hunain.  Er y byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda CNC i gefnogi hyn, anogwyd Cynghorwyr i godi'r opsiwn hwn gyda'u Cynghorau Tref a Chymuned.

 

·       Wrth awgrymu bod cydberthynas uniongyrchol rhwng newid yn yr hinsawdd a'r cynnydd diweddar mewn stormydd, cyfeiriwyd at Gynhadledd Newid yn yr Hinsawdd (COP26) sydd ar y gweill yn Glasgow ym mis Tachwedd 2021.  Cynigiwyd bod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn ysgrifennu at y Prif Weinidog a'r Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd sy'n mynd i'r Gynhadledd COP 26 fel cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, i ofyn iddynt geisio lliniaru newid yn yr hinsawdd. Eiliwyd y cynnig hwn.  Pwysleisiwyd bod penderfyniadau gan arweinwyr yn ystod y misoedd nesaf yn hanfodol a byddent nid yn unig yn cefnogi uchelgais Cyngor Sir Caerfyrddin i leihau allyriadau carbon erbyn 2030, ond hefyd ar gyfer dyfodol Cymru a thu hwnt.

 

·       Cyfeiriwyd at y map llifogydd newydd a gyhoeddwyd gan CNC yn ddiweddar, gofynnwyd a oedd cynlluniau'n cael eu gwneud i wella amddiffynfeydd llifogydd yng ngoleuni'r map newydd?  Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff sicrwydd i'r Aelodau y byddai'r map newydd yn cael ei astudio a'i ddefnyddio i lywio strategaeth y Cyngor yn y dyfodol fel cynllun tymor hwy.  Ailadroddodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y byddai mapiau newydd CNC yn cael eu defnyddio wrth gynllunio'r strategaethau yn y tymor hwy o ran llifogydd ac effaith llifogydd.  Yn ogystal, dywedwyd wrth yr Aelodau fod y Tîm Blaen-gynllunio hefyd yn archwilio'r mapiau llifogydd newydd ar y cyd â TAN 15 o ran pa newidiadau fyddai eu hangen a sut y byddent yn cael eu cymhwyso i geisiadau cynllunio yn y dyfodol.

 

·       Mewn ymateb i bryder a godwyd mewn perthynas â'r ardaloedd arfordirol sy'n agored i niwed, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod Cynllun Rheoli Traethlin ar waith sy'n diffinio ardaloedd arfordirol a sut y cânt eu rheoli. Yn ogystal, dywedwyd bod yr holl asedau amddiffyn rhag llifogydd ar yr arfordir ac ar y priffyrdd yn cael eu harchwilio a bod trefniadau yn cael eu gwneud i'w hatgyweirio yn amodol ar yr arian sydd ar gael.

 

·       Roedd aelodau'r Pwyllgor yn canmol yr adroddiad cynhwysfawr ac yn gobeithio y byddai cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at wneud penderfyniadau pwysig yng Nghynhadledd COP 26 ym mis Tachwedd 2021, er mwyn unioni'r newid yn yr hinsawdd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

5.1 dderbyn yr adroddiad Ymateb i Lifogydd Mewn Argyfwng - Trefniadau Digwyddiadau Storm;

 

5.2fod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn ysgrifennu at y Prif Weinidog a'r Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd yn gofyn iddynt geisio lliniaru newid yn yr hinsawdd yng nghynhadledd COP 26 ym mis Tachwedd 2021, i gefnogi uchelgais Cyngor Sir Caerfyrddin i leihau allyriadau carbon erbyn 2030.

 

 

Dogfennau ategol: