Agenda item

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 1 2021/22 (1 EBRILL I 30 MEHEFIN 2021) YN ARBENNIG I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN.

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 2021/22 ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Mehefin 2021 a gyflwynwyd gan Aelodau'r Bwrdd Gweithredol – yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd, Tai, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Cymunedau a Materion Gwledig ac Adnoddau mewn perthynas â'r meysydd sydd o fewn eu portffolios a chylch gwaith y Pwyllgor.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol ac ar gyflawni'r 13 Amcan Llesiant. Nododd y Pwyllgor mai 2021/22 oedd y flwyddyn gyntaf y byddai'r Cyngor yn ei hunanarfarnu ac yn adrodd arni o dan delerau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn enwedig Rhan 6 sy'n ymwneud â Pherfformiad a Llywodraethu.

 

 Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod cynllun ffyrlo'r llywodraeth yn dod i ben ar 30 Medi 2021 ac at ba effaith y gallai hynny ei chael ar Gyngor Sir Caerfyrddin a busnesau mewn perthynas â cholli swyddi.

 

Cadarnhawyd y byddai diwedd y cynllun ffyrlo yn effeithio ar y Sir, ond roedd y Cyngor yn rhagweithiol yn hynny o beth ac yn ddiweddar, ar y cyd â'i bartneriaid, cynhaliodd ffair swyddi ym mhob un o brif drefi'r Sir sef Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli a oedd wedi cael ymateb da. Er mai'r gobaith oedd y byddai cyfraddau cyflogaeth yn cynyddu, derbyniwyd y byddai rhai sectorau'n cael eu heffeithio'n fwy nag eraill e.e. lletygarwch.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd yr amcangyfrifir y gallai hyd at filiwn o swyddi ar draws y DU fod mewn perygl o ddod â ffyrlo i ben, gyda 3,500 o'r rheiny yn Sir Gaerfyrddin. Er bod targedau cyflogaeth y Cyngor yn cynnwys y 3,500 hynny, byddai angen asesu'r effaith lawn o dynnu'r cynllun yn ôl dros y misoedd nesaf.

·       Gyda golwg ar gwestiwn ynghylch digartrefedd, sicrhawyd y Pwyllgor, pan oedd pobl yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref, fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau y gellid eu hail-gartrefu yn eu hardal leol. Lle nad oedd hynny'n bosibl, roedd rhaid darparu llety dros dro a gallai hynny fod wedi'i leoli mewn mannau eraill yn y Sir. Ar hyn o bryd, roedd y Cyngor yn cartrefu 115 o bobl mewn llety dros dro ac roedd 95 ohonynt yn bobl sengl a byddai angen i'r Cyngor fynd i'r afael ag argaeledd llety un person fel rhan o'i raglen adeiladu tai. Pwysleisiwyd hefyd, po gynharaf y byddai person yn ei gyflwyno ei hun fel rhywun sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, y mwyaf o gyfleoedd fyddai ar gael i'r Cyngor i weithio gyda nhw a landlordiaid i ddod o hyd i ateb i'w hangen am d?.

 

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod cynigion yn cael eu datblygu ar hyn o bryd ar ddarparu ystod o gynigion llety dros dro ar gyfer y Sir, a fyddai'n cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor/Cyngor maes o law

·       Gyda golwg ar gwestiwn ynghylch y defnydd o gyfraniadau ariannol a godwyd trwy gytundebau cynllunio Adran 106 â datblygwyr, rhoddodd y Rheolwr Blaen-gynllunio amlinelliad i'r Pwyllgor o'r broses a'r gofynion cyfreithiol ar gyfer ymrwymo i gytundebau o'r fath a'r gwaith o'u casglu a'u dyrannu wedi hynny. Pwysleisiodd mai dim ond at y dibenion a nodir yn y Cytundebau y gellid dyrannu unrhyw gyfraniadau a dderbyniwyd, er enghraifft tai fforddiadwy, gwella priffyrdd, dibenion hamdden neu addysg ac na ellid eu defnyddio at unrhyw ddiben arall. Wrth ymateb yn benodol i'r defnydd o arian a gasglwyd ar gyfer tai fforddiadwy, byddai'r ffocws ar ddyrannu'r cyfraniadau a dderbyniwyd o fewn ardal y datblygiad, ond os na fyddai modd ei ddefnyddio'n lleol am ryw reswm, gellid ei ddyrannu mewn mannau eraill ar sail ddilyniannol.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch adroddiad diweddar Archwilio Cymru ar Is-adran Gynllunio'r Cyngor, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Cyngor wedi sefydlu Bwrdd Ymyrraeth i fynd i'r afael â'r materion a godwyd. Roedd hynny eisoes wedi cyflawni gwelliannau mewn perfformiad ac roedd yn ymdrechu i wella ymhellach dros y misoedd nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: