Agenda item

RHAGLEN TRAWSNEWID TREFI

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r unigolion a'r busnesau a nodir yn yr adroddiad o dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad yn amlinellu blaenraglen o brosiectau adfywio posibl, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, caffael eiddo posibl, astudiaethau adfywio, gwaith dylunio, digwyddiadau, cymorth busnes ac ati, a fydd, yn amodol ar gymeradwyaeth, yn sail i geisiadau yn y dyfodol am gymorth gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r flaenraglen waith o weithgarwch adfywio a gyflwynwyd a bod y cais tua £1.65m yn sail i geisiadau yn y dyfodol o dan y Rhaglen Trawsnewid Trefi.

 

 

 

Dogfennau ategol: