Cofnodion:
Gan gyfeirio at gofnod 5 cyfarfod y Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd oedd wedi ei gynnal ar 10 Mehefin 2019, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad terfynol Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gyflwynwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd John James. Sefydlwyd y gr?p i adolygu Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol y Gwasanaethau Safonau Masnach.
Prif nodau'r gr?p ar gyfer yr adolygiad oedd archwilio a oedd y portffolio o atal troseddau, cefnogi dioddefwyr a gweithgareddau addysg a gyfunwyd o fewn y Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol yn darparu strategaeth effeithiol i helpu i frwydro yn erbyn twyll a hyrwyddo amcanion iechyd a llesiant corfforaethol yn sgil Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
Diolchodd y Bwrdd Gweithredol i'r Pwyllgor, Swyddogion a'r Cadeirydd am eu gwaith ar yr adroddiad ac ychwanegodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd y byddai'n sicrhau bod ei ganfyddiadau'n cael eu rhannu â'r tîm diogelu, yn enwedig gan fod llawer o sgamiau'n targedu'r henoed.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo adroddiad terfynol ac argymhellion adolygiad Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd o Gynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol y Gwasanaethau Safonau Masnach.
Dogfennau ategol: