Agenda item

CYLLID LLYWODRAETH Y DU

Cofnodion:

[SYLWER: Gan fod y Cynghorydd C. A. Davies wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y cyfarfod.]

 

Cafodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chyfleoedd cyllido Llywodraeth y DU a fyddai'n effeithio ar Sir Gaerfyrddin.

 

Nodwyd, wrth gyhoeddi cyllideb Llywodraeth y DU ar 3 Mawrth 2021, y  cyhoeddodd Canghellor y DU nifer o fentrau a rhaglenni cyllido newydd. Roedd yr adroddiad yn rhoi sylw i ddwy o'r rhaglenni newydd, Cronfa Codi'r Gwastad a'r Gronfa Adfywio Cymunedol.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod £800m ar gael trwy Gronfa Codi'r Gwastad i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon dros bedair blynedd. Byddai'r Gronfa yn buddsoddi mewn ystod o flaenoriaethau buddsoddi lleol gan gynnwys cynlluniau trafnidiaeth lleol, prosiectau adfywio ac asedau diwylliannol. Byddai ymgeiswyr yn cael eu hannog i gynnwys cyfraniad ariannol lleol  sydd o leiaf 10% o gyfanswm y costau. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod Cronfa Codi'r Gwastad yn gronfa gyfalaf yn unig, a weinyddir gan Drysorlys Ei Mawrhydi (HMT), y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) a'r Adran Drafnidiaeth (DfT). Byddai cyllid yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol trwy Awdurdodau Lleol, ac ymgynghorir â Llywodraeth Cymru wrth asesu cynigion perthnasol. 

 

Mae nifer y cynigion y gallai awdurdod lleol eu gwneud yn seiliedig ar nifer yr Aelodau Seneddol yn ei ardal; gan fod Sir Gaerfyrddin yn rhan o 3 etholaeth seneddol wahanol, byddai cyfle i gyflwyno hyd at 3 chais yn cwmpasu'r Sir (2 mewn perthynas ag etholaethau yn gyfan gwbl yn Sir Gaerfyrddin ac 1 ar y cyd lle mae'r etholaeth yn un drawsffiniol). O ran Gorllewin Caerfyrddin, (etholaeth ar y cyd â De Sir Benfro), byddai angen ymgysylltu â Chyngor Sir Penfro a chyflwyno cynnig ar y cyd. Yn ogystal, gallai Awdurdodau Lleol gyflwyno un cais o ran trafnidiaeth. Byddai ceisiadau o ran trafnidiaeth yn unig yn cael eu dyrannu'n annibynnol ar ffiniau etholaeth ac yn destun proses achos busnes fanylach. Nodwyd bod yn rhaid cyflwyno ceisiadau am y rownd gyntaf o gyllid i Lywodraeth y DU erbyn 18 Mehefin 2021.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd y byddai'r Gronfa Adfywio Cymunedol gwerth £220m yn rhoi cymorth i gymunedau dreialu prosiectau a dulliau newydd cyn Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a fyddai'n cael ei lansio yn 2022. Dywedodd yr Arweinydd y byddai'r gronfa'n gyllid refeniw o 90% a bod angen cwblhau'r holl brosiectau yn ariannol erbyn 31 Mawrth 2022. Byddai'r Gronfa yn broses gystadleuol ac ni fyddai unrhyw gymhwysedd yn cael ei osod ymlaen llaw.  Roedd Llywodraeth y DU wedi nodi 100 o leoedd â blaenoriaeth a nodwyd Sir Gaerfyrddin ymhlith y 100 lle hyn. Roedd Sir Gaerfyrddin hefyd wedi'i nodi fel awdurdod arweiniol a byddai disgwyl iddi wahodd cynigion am brosiectau a gwerthuso a blaenoriaethu rhestr fer o brosiectau hyd at uchafswm o £3 miliwn y lle. Byddai'r rhestr fer o brosiectau yn cael ei chyflwyno i'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol erbyn 18 Mehefin 2021.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

10.1    gymeradwyo'n ôl-weithredol y broses a sefydlwyd ar gyfer y Gronfa Adfywio Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin.

10.2    ystyried a chymeradwyo'r ceisiadau a gyflwynwyd dan Gronfa Codi'r Gwastad.

 

Dogfennau ategol: