Agenda item

STRATEGAETH CASGLU GWASTRAFF O DY I DY YN Y DYFODOL

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad ar Strategaeth Casglu Gwastraff o D? i D? yn y Dyfodol a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd. Roedd yr adroddiad yn darparu opsiynau a'r llwybr ar gyfer darparu gwasanaethau casglu gwastraff a deunydd ailgylchu o d? i d? yn y dyfodol.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth mewn perthynas â'r ystyriaethau, y mesurau, yr opsiynau strategaeth ac yn ceisio barn y Pwyllgor ar yr ystyriaethau gwasanaeth canlynol:

 

· symud i gasgliadau ailgylchu wythnosol;

· newid i gasgliadau gwastraff gweddilliol cyfyngedig bob tair wythnos;

· casglu gwydr o d? i d?;

· y dull o gasglu deunydd ailgylchu.

 

Rhoddwyd gwybod mai un o'r rhesymau dros newid oedd, er bod y model gwasanaeth cyfredol wedi galluogi'r Awdurdod i ragori ar y targed statudol o 64%, fod angen newid pellach i gyflawni'r targed o 70% o 2024/25 a'r targed posibl o 80% erbyn 2030.


 

Yn ogystal â’r adroddiad, derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad ategol a gyflwynwyd gan y Rheolwr Gwasanaethau Amgylcheddol ar ‘Llunio Dyfodol y Casgliadau Gwastraff yn Sir Gaerfyrddin’. Roedd y cyflwyniad yn darparu gwybodaeth mewn perthynas â'r ystyriaethau ac yn ymdrin â'r canlynol: -

 

·       Perfformiad

·       Heriau

·       Heriau Gweithredol

·       Halogiad

·       Polisi

·       Tu hwnt i ailgylchu

·       Glasbrint Llywodraeth Cymru ar Gasgliadau Gwastraff

·       Cerbyd wrth ymyl y palmant

·       Opsiynau Gwasanaeth Ailgylchu

·       Amlder Ailgylchu

·       Canlyniadau a chasgliadau

·       Gweithlu ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd y gwasanaeth bellach yn addas at y diben ac roedd heriau gweithredol yn bod o achos hynny.  Yn ogystal, dywedwyd mai Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd oedd yr unig Awdurdod yng Nghymru nad yw'n darparu gwasanaeth ailgylchu sych wythnosol, nac yn casglu gwydr o ymyl y palmant.

 

Mewn perthynas â'r dull, dull casglu Glasbrint (Kerbsort) oedd yr unig ddull casglu a allai o bosibl sicrhau cymhorthdal cyllido Llywodraeth Cymru.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·       Dywedwyd y byddai'r casgliad gwydr arfaethedig newydd wrth ymyl y palmant yn lleihau'r angen am ganolfannau  ailgylchu gwydr a oedd yn cael eu defnyddio fwyfwy fel lleoliad ar gyfer tipio anghyfreithlon.

 

·       Mewn ymateb i bryder a godwyd mewn perthynas â'r newid ynghylch casglu cewynnau a gwastraff anymataliaeth bob pythefnos yn lle bob wythnos, eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Gwastraff y cysylltir â phob cleient Cynnyrch Hylendid Amsugnol ac asesu ei anghenion gyda'r potensial i ddarparu biniau olwyn os yw'n angenrheidiol.  Adroddwyd y gallai fod 16,000 o gleientiaid Cynnyrch Hylendid Amsugnol ac y byddai cost casgliadau wythnosol yn sylweddol.

 

·       Gofynnwyd, pa ddull oedd yr opsiwn a ffefrir? Dywedodd  Rheolwr y Gwasanaethau Gwastraff mai mater i'r Pwyllgor a'r Cyngor oedd archwilio a chytuno ar y dull a ffefrir.  Fodd bynnag, mewn perthynas â chost, dywedwyd mai dull casglu'r Glasbrint (Kerbsort) oedd yr unig ddull casglu a allai o bosibl sicrhau cymhorthdal cyllido Llywodraeth Cymru.  Yn ogystal, roedd cynnig casglu Glasbrint yn cynnig y budd carbon mwyaf.

 

·       Mewn perthynas â'r gwasanaeth casglu gwydr wrth ymyl y palmant, codwyd pryder y byddai bocsys o wydr a adawyd wrth ymyl y palmant yn annog fandaliaeth.  Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod ymyrraeth ar wastraff ar hyn o bryd er gwaethaf y dull a ddefnyddiwyd. Fodd bynnag, roedd angen bod yn effro i ddigwyddiadau o'r fath ac er mwyn rheoli hyn, roedd angen cyfathrebu clir a gweithredu rheolaeth briodol o'r meysydd hynny lle mae fandaliaeth yn digwydd.


 

·       Mewn ymateb i ymholiad a godwyd mewn perthynas â maint y cerbyd casglu Glasbrint Kerbsort, esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Amgylcheddol y byddai cerbydau llai ar gael i wneud casgliadau mewn ardaloedd gwledig i gyd-fynd â'r cerbydau mwy. Mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch addasrwydd y cerbydau bach mewn ardaloedd gwledig i'w defnyddio ar ffyrdd cul, nododd y Rheolwr Gwasanaethau Amgylcheddol fod y defnydd o gerbydau llai mewn ardaloedd cyfyngedig wedi bod yn llwyddiannus mewn Awdurdodau eraill.

 

·       Gwnaed ymholiad ynghylch faint o le oedd yn yr adrannau yn y cerbyd Casgliad Glasbrint a ddefnyddir i gadw deunyddiau ar wahân a beth fyddai'n digwydd pe bai un ohonynt yn llanw cyn y lleill? Roedd y Rheolwr Gwasanaethau Amgylcheddol yn cydnabod fod hyn yn debygol o ddigwydd yn enwedig yn achos cardbord, felly byddai angen gwneud dyluniad trylwyr o'r dull a'i weithrediad cyn dechrau.

 

·       Codwyd pryder, pe bai'r casgliad bagiau du yn cael ei leihau i un yr wythnos, gallai hyn annog cynnydd mewn halogiad.  Esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol mai’r gweithwyr casglu fyddai’n didoli wrth ymyl y palmant i ddechrau,, byddai unrhyw groeshalogi a nodwyd yn cael ei reoli trwy lythyr esboniad at ddeiliad y t? gan nodi'r rhesymau dros beidio â chasglu, a byddai’r gwastraff oedd yn peri problem yn cael ei adael yno.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch proses ymgynghori, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol y byddai proses ymgynghori lawn yn cael ei chynnal gyda'r cyhoedd a'r staff i geisio eu barn.

 

·       O achos bod rhai eiddo yn agos i'w gilydd, dywedwyd y gallai blychau casglu achosi problem o ran lle wrth ymyl y palmant.  Esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol fod yna nifer o opsiynau o ran dylunio cynwysyddion didoli yn ymyl y ffordd. Enghraifft ohonynt fyddai un o arddull troli ac o bosibl cyflwyno pwyntiau codi cymunedol y byddai'r ddau ohonynt ynlleihau’r cynwysyddion gwastraff oedd wedi’u gwasgaru wrth ymyl y palmant.

 

·        Mewn ymateb i bryder a godwyd ynghylch lleihau casgliadau bagiau du, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Gwastraff ac Amgylcheddol fod modd ailgylchu dros 40% o gynnwys gwastraff bagiau du ac os byddaicartrefi yn rheoli ailgylchu gwastraff yn llwyddiannus, dylai casgliad bob 3 wythnos fod yn ddigon.

 

·       Codwyd pryder ynghylch y tebygolrwydd y bydd cynnydd mewn tipio anghyfreithlon yn y sir oherwydd y gostyngiad mewn casgliadau bagiau du.  Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol o ran newid gwasanaeth ac i leihau achosion o dipio anghyfreithlon, byddai staff ychwanegol i reoli cyfathrebiadau, ymgysylltu â'r cyhoedd a gorfodi.


 

·       Mewn ymateb i sylw ynghylch lleoli a hyd yr amser y mae gwastraff c?n/cathod yn cael ei fagio mewn bagiau du cyn ei gasglu, dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y gallai'r mater hwn ddod yn broblem ac felly byddai'n edrych sut roedd Awdurdodau eraill wedi rheoli'r mater hwn gyda'r bwriad o gynnwys datrysiad priodol yn nyluniad system y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL y dylai'r Bwrdd Gweithredol barhau i ddatblygu ac ymgynghori ar opsiynau priodol i gyflawni'r targedau statudol a mynd i'r afael â heriau fel y'u cynhwysir yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: