Agenda item

CYNLLUN BUSNESS ADRANNOL

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cynllun Busnes yr Adran Addysg & Phlant 2021/22.

 

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gynllun busnes adrannol y Gwasanaethau Addysg a Phlant ar gyfer 2021/2022 a oedd yn nodi sut mae'r gwasanaeth yn helpu i gyflawni'r Strategaeth Gorfforaethol.

 

Oherwydd pandemig COVID-19, roedd y cynllun a gyflwynwyd yn fersiwn fyrrach nad oedd yn cynnwys yr adran adolygu gan ei bod wedi'i chynnwys yn yr asesiadau o effaith COVID-19 ar wasanaethau a gyflwynwyd yn flaenorol i'r Pwyllgor i'w hystyried.

 

Nodwyd bod effaith y pandemig a Brexit wedi creu llawer o ansicrwydd o ran llywio cynlluniau yn y dyfodol ac, yn sgil hynny, gallai'r cynllun busnes newid.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at y tabl ar dudalen 51 o'r pecyn agenda a gofynnwyd i'r swyddogion pam nad oedd yr amgylchedd wedi cael sylw oherwydd siawns bod yr adran wedi'i heffeithio e.e. Llwybrau Diogel i’r Ysgol. Pwysleisiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod yr amgylchedd yn ffactor pwysig ym maes addysg. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod y blychau perthnasol dim ond yn cael eu ticio os oes camau gweithredu penodol ar gyfer yr adran yn y Cynllun Llesiant. Mae'r adran yn cyfrannu tuag at lawer o agweddau ar waith amgylcheddol yn ein hysgolion. Ychwanegodd y byddai'n cydlynu â'r swyddogion perthnasol ynghylch rhoi gwybod am yr amcan penodol hwnnw, gan gynnwys y mesurau a'r camau gweithredu allweddol;

·         Cyfeiriwyd at y datganiad yn y cynllun y bydd y ddarpariaeth ôl-16 oed yn cael ei hadolygu er mwyn creu darpariaeth gynaliadwy, a mynegwyd pryder bod hyn yn awgrymu nad oedd y ddarpariaeth yn bodoli ar hyn o bryd. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod adolygiad o'r ddarpariaeth ôl-16 oed wedi'i gynnal pan ddaeth i'r amlwg nad oedd niferoedd y chweched mewn rhai ysgolion yn gynaliadwy, ac felly, nid oeddent yn gallu cynnig yr amrywiaeth o bynciau gofynnol. Ychwanegodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod y ddarpariaeth ôl-16 oed yn faes allweddol gan ei fod yn pontio o addysg statudol i addysg bellach i'r gweithle, ac mae llawer o waith yn cael ei wneud yn y maes hwn. Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar y pwnc hwn yn y dyfodol agos;

·         Cyfeiriwyd at allu cymunedau i ddefnyddio cyfleusterau ysgolion a'r heriau cysylltiedig a gofynnwyd i'r swyddogion pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran y cytundeb model. Eglurodd y Pennaeth Mynediad i Addysg, o ran gwneud y defnydd gorau o gyfleusterau i gefnogi gweithgarwch ehangach yn y gymuned, fod swyddogion yn ceisio sicrhau bod prydlesau priodol ar waith ar hyn o bryd i ddiogelu'r ysgolion a'r Awdurdod Lleol;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith fod pryderon wedi'u mynegi yn flaenorol ynghylch termau mewn perthynas â'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, a gofynnwyd i swyddogion a fyddai'r Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am fynd i'r afael â'r pryderon hynny. Esboniodd y Pennaeth Mynediad i Addysg y byddai angen cymeradwyo unrhyw brosiect a nodir ar gyfer y Model Buddsoddi Cydfuddiannol ac y byddent yn cael eu hadrodd i'r Pwyllgor Craffu;

·         O ran Cynllun Adrannol y Gwasanaethau Plant, cyfeiriwyd at y ffaith nad oedd y canrannau yn yr adroddiad yn rhoi unrhyw wybodaeth mewn gwirionedd. Esboniodd y Cyfarwyddwr nad ydynt yn gamau gweithredu, ond yn hytrach, targedau statudol ydynt a gyflwynir i Lywodraeth Cymru yn rheolaidd. Ychwanegodd fod y targedau yn cael eu defnyddio fel mesurau, felly dim ond problem fformatio ydoedd y byddai'n sicrhau ei bod yn cael sylw;

·         Mynegwyd pryder ynghylch yr elfennau risg amrywiol y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad a'r ffaith y dylai'r Pwyllgor roi sylw manwl i'r rhain dros y misoedd nesaf. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod adroddiad risg adrannol ar gael a bod trefniadau diogelu ar waith i gydnabod a mynd i'r afael â'r risgiau hynny. Ychwanegodd y gallai rannu'r ddogfen hon â'r Pwyllgor pe baent yn dymuno ei gweld;

·         O ran yr adolygiad sydd i'w gynnal o holl ystodau oedran a dyddiadau derbyn yr ysgolion, gofynnwyd i'r swyddogion a ydynt yn fodlon â'r gallu i gynnal yr adolygiad hwn. Esboniodd y Pennaeth Mynediad i Addysg ei fod yn llunio adroddiad cynnig i'w ystyried gan y Tîm Rheoli Adrannol ar hyn o bryd er mwyn ystyried nifer o opsiynau. Bydd ymgynghori ar unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i'r Polisi Derbyniadau yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cynllun Busnes Adrannol y Gwasanaethau Addysg a Phlant 2021/22.

 

 

Dogfennau ategol: