Agenda item

CWRICWLWM CYMRU

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd D. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r cymorth ar gael i ysgolion a lleoliadau arbenigol Sir Gaerfyrddin gan y Cyngor Sir a'r consortiwm rhanbarthol, ERW, wrth iddynt roi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith erbyn mis Medi 2022.

 

Mae'r Awdurdod yn datblygu cynnig dysgu proffesiynol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru sy'n ategu gwaith y Tîm Cynhwysiant. Ei nod yw sicrhau bod addysgeg dda yn bodloni anghenion disgyblion unigol ar bob lefel a bod ysgolion yn gwneud cynnydd effeithiol yn unol â nodau'r Genhadaeth Genedlaethol. Hefyd, mae Ymgynghorwyr Cymorth Addysg a swyddogion o'r Tîm Seicolegwyr Addysgol a'r Tîm Ymddygiad a Chynhwysiant yn cynnal trafodaethau cadarnhaol parhaus ag ysgolion unigol i drafod cynnydd o ran pontio i'r Cwricwlwm i Gymru, yn ogystal â phontio ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu manylion ynghylch y math o gymorth a oedd yn cael ei roi ac yn cynnig dulliau strategol ychwanegol/amgen i wella'r ddarpariaeth bresennol gan gynnwys y canlynol:-

 

v  y cyd-destun presennol ac ymgysylltiad ysgolion â'r cwricwlwm newydd hyd yn hyn;

v  dull strategol yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant;

v  y cymorth sydd ar gael i ysgolion a lleoliadau arbenigol;

v  ymgysylltiad ysgolion a lleoliadau arbenigol;

v  cwestiynau ar gyfer llywodraethwyr wrth iddynt gefnogi eu hysgolion ar y daith hon;

v  y Rhwydweithiau Ymchwil a Dysgu Proffesiynol;

v  disgwyliadau;

v  rôl ERW.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Ar ôl gofyn beth oedd y cynlluniau tymor hir a thymor byr o ran ERW, esboniodd y Cyfarwyddwr fod pedwar Awdurdod Lleol yn dal i weithio mewn partneriaeth y tymor hwn a'u bod yn aelodau llawn o ERW o hyd - Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Phowys. Er bod Castell-nedd Port Talbot a Cheredigion wedi gadael y bartneriaeth, daethpwyd i gytundeb i barhau i ddarparu rhai gwasanaethau iddynt, rhaglenni arweinyddiaeth yn bennaf. Y bwriad bellach yw aros i ERW ddod i ben ar 31 Awst eleni a dechrau partneriaeth newydd ar 1 Medi, 2021. Bydd y ddarpariaeth a'r gefnogaeth yn parhau i gael eu darparu gan y bartneriaeth newydd, ond o fis Medi ymlaen, gallai'r ddarpariaeth honno fod yn fwy lleol o bosibl, yn dibynnu ar ganlyniad y trafodaethau a gynhelir ar hyn o bryd. Bydd rhagor o wybodaeth am y strwythur newydd yn cael ei rhoi i'r partneriaid newydd cyn bo hir a gobeithio y bydd swyddogion mewn sefyllfa i roi rhagor o fanylion i'r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf. Ychwanegodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod y Tîm Cwricwlwm o fewn ERW wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi ysgolion drwy'r cyfnod pontio hwn;

·         Cyfeiriwyd at y rôl bwysig y mae llywodraethwyr yn ei chwarae yn y broses hon a gofynnwyd i'r swyddogion sut y bydd yr Awdurdod yn sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu yn gyson ac yn deg i'r holl ysgolion ledled y sir. Sut y bydd llywodraethwyr yn gwybod i ba raddau y mae'r staff yn eu hysgolion wedi cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddiant rhithwir ac i ba raddau y mae'r staff yn deall yr heriau sydd i ddod ac ati. Cytunodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant ei fod yn bwysig bod llywodraethwyr yn ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf. Bydd sesiynau hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr yn cael eu cynnal ym mis Medi i'w helpu i wybod pa fath o gwestiynau y dylent fod yn eu gofyn i'w penaethiaid. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr y dylai fod gan yr holl ysgolion Gynllun Datblygu'r Ysgol a fydd yn cynnwys y cwricwlwm fel un o'i flaenoriaethau a ffocws ar ddatblygu. Cydnabu fod rhywfaint o waith i'w wneud o hyd o ran y broses werthuso ar gyfer y cwricwlwm newydd yr oedd yn sicr y byddai ar waith erbyn mis Medi 2022;

·         Gofynnwyd am esiampl o'r ffordd newydd o addysgu o gymharu â'r hen ffordd, esboniodd yr Ymgynghorydd Cymorth Addysgol ei fod yn ymwneud â meithrin perthnasoedd â phlant a'u hannog i gymryd rhan yn y dosbarth yn bennaf. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr ei fod yn ymwneud â symud o gwricwlwm penodol lle rydych yn ticio blychau o ran y cynnwys i gwricwlwm sy'n addas ar gyfer anghenion y dysgwyr, gan gynnwys hanes lleol, diwylliant lleol ac ati;

·         Mynegwyd pryder ynghylch y risg y gallai rhai ysgolion barhau i ddefnyddio'r cwricwlwm presennol yn lle croesawu'r cwricwlwm newydd. Pwysleisiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol pa mor bwysig yw sicrhau bod ein hysgolion yn ddewr ac yn edrych tua'r dyfodol. Mae sgiliau cyfathrebu yn hollbwysig, ac felly, mae'n rhaid i ni fagu hyder plant i siarad yn gyhoeddus. Mae mwy o bwyslais ar ddysgu a gweithio digidol a fydd yn datblygu ym maes addysg ac yn ffactor pwysig iawn ohono yn y dyfodol ac nid yn ystod y pandemig yn unig. Bydd dysgu o bell yn rhan o hynny ac mae angen i ni sicrhau bod gan ein plant y sgiliau angenrheidiol;

·         O ran pryderon na fydd rhai ysgolion yn croesawu'r cwricwlwm newydd o bosibl, gofynnwyd i swyddogion sut y bydd hyn yn cael ei fonitro a sut y byddwn yn sicrhau bod arferion gorau yn cael eu rhannu ledled y sir. Rhoddodd yr Ymgynghorydd Cymorth Addysgol wybod i'r Pwyllgor fod gwybodaeth yn cael ei chasglu o bob ysgol yn barhaus. Roedd yn anodd cynnal unrhyw asesiadau yn ystod y cyfyngiadau symud, ond, caiff unrhyw esiamplau o arferion gorau eu rhannu â'r holl ysgolion. Caiff cymorth ychwanegol ei roi i unrhyw ysgolion lle bo angen. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr ei fod yn hanfodol sicrhau bod yr holl ysgolion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i wneud yn si?r eu bod ar y trywydd iawn a'u bod yn barod ar gyfer mis Medi 2022, a fydd yn flaenoriaeth i'r tîm;

·         Mynegwyd pryder mewn perthynas â'r pwysau sydd ar ysgolion ar hyn o bryd o ganlyniad i'r problemau a achosir gan y pandemig, yn ogystal â'r pwysau ychwanegol sylweddol o orfod ymdrin ag un o'r newidiadau mwyaf i faes addysg o fewn yr 20 mlynedd diwethaf ar yr un pryd. Mae angen gwneud mwy i gefnogi ysgolion, yn enwedig yr ysgolion llai nad oes ganddynt yr adnoddau. Esboniodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant y gallai'r cwricwlwm newydd gael ei ddefnyddio fel rhagflaenydd a ffordd allan o'r pandemig ac y gallai ddarparu glasbrint a fframwaith i ddatblygu cymorth ar gyfer gwellhad dysgwyr. Roedd yn bwysig bod yn ymarferol o ran yr hyn y gellir ei gyflawni erbyn mis Medi 2021, ac roedd swyddogion yn cydlynu â'r Arolygiaeth o ran hynny yng ngoleuni'r tarfu ar eu blwyddyn pontio. Ychwanegodd ei fod yn bwysig canolbwyntio ar gael y weledigaeth iawn yn gyntaf cyn symud ymlaen;

·         Mynegwyd pryder bod ysgolion dan straen am sut beth fydd arolygiadau Estyn. Rhoddodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant wybod i'r Pwyllgor y dylai'r rhain fod wedi'u cynnal yn ystod y flwyddyn pontio, ond, roedd yr Arolygaeth wedi gohirio arolygiadau ar gyfer y mwyafrif o ysgolion. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod trafodaethau ag Estyn a Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal dros yr wythnosau diwethaf ynghylch ailddechrau arolygiadau ysgol a'r hyn y dylai ysgolion ei ddisgwyl. Bydd Estyn yn edrych ar sut mae ysgolion wedi addasu i COVID a sut maent wedi ymdrin ag ef. Fodd bynnag, bydd hefyd yn gefnogol o unrhyw ysgolion sy'n treialu dulliau newydd o ddylunio a gweithredu cwricwlwm yr ysgol a bydd hynny'n rhan o'r broses arolygu. Nod yr arolygiad yw gweld sut mae ysgolion yn newid ac yn datblygu wrth baratoi ar gyfer mis Medi;

·         Cyfeiriwyd at gynlluniau datblygu ysgolion a'r ffaith eu bod yn amrywio o ran ansawdd ledled Cymru. Gofynnwyd i'r swyddogion a oedd cyfle yn fan hyn i gadw golwg ar y cynlluniau hyn, sicrhau cysondeb ledled y sir a cheisio safonau uchel. Mae Ymgynghorwyr Her yn gwneud gwaith da ond a allant sicrhau bod yr holl Gyrff Llywodraethu yn cael adborth o ran yr hyn sydd wedi gweithio a'r hyn sydd heb weithio ac ati. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar gynllun newydd mewn perthynas â gwella ysgolion sy'n amlinellu cyfrifoldebau pawb yn glir, gan gynnwys llywodraethwyr, yr Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru. Pwysleisiodd fod proses fonitro ar waith yn lleol o ran Cynlluniau Gwella Ysgolion.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

 

Dogfennau ategol: