Agenda item

CWESTIWN GAN MR IAN KYLE I'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS AMGYLCHEDD

"A fyddai modd inni gael cydnabyddiaeth o'n cais am gymorth a threfnu ymgynghoriad cyn gynted â phosibl i drafod rhinweddau'r cynnig hwn?

 

I grynhoi'r cynnig, efallai eich bod yn ymwybodol bod Heol Caerfyrddin wedi bod ar gau am dros flwyddyn erbyn hyn oherwydd gwaith adeiladu sydd ar waith yn y Neuadd Sirol. Yn ystod y cyfnod hwn mae'r busnesau lleol a'r trigolion wedi sylwi ar effeithiau cadarnhaol cau'r heol i draffig trwodd a sefydlwyd deiseb ym mis Medi 2020 yn gofyn am i'r heol barhau ar gau yn barhaol. Llofnodwyd deiseb gan ychydig llai na 300 o bobl ac roedd nifer o sylwadau ynghylch pryderon am ddiogelwch, yn enwedig ynghylch plant ac unigolion llai abl oherwydd bod yr heol/palmant yn gul.

 

Yn ogystal, mae busnesau lleol wedi gwneud nifer o sylwadau cadarnhaol ynghylch yr angen i gynyddu nifer yr ymwelwyr yn enwedig ar ôl y cyfnod ofnadwy hwn o ran Covid, yn benodol sut roedd cau'r heol wedi gwneud y dref yn lle llawer mwy pleserus i'r trigolion a deniadol i'r ymwelwyr. O ystyried y gwaith ailddatblygu ar hen Neuadd y Farchnad ar ran uchaf Stryd Caerfyrddin, nid yw ystyried newid y mynediad i gerbydau ar hyd yr heol yn gwneud synnwyr mewn gwirionedd. 

 

Rydym (trigolion Heol Caerfyrddin) wedi bod yn pwyso ar Edward Thomas, y Cynghorydd Sir lleol, a'r adran briffyrdd ers mis Hydref 2020 er mwyn ceisio trefnu ymgynghoriad â ni ynghylch sut y gallwn fwrw ymlaen â'r cynnig hwn, a hyd yma bach iawn yw'r cynnydd rydym wedi'i wneud.

 

Rydym wedi cael ein siomi gan y Cyngor o ran y diffyg cydnabyddiaeth a chymorth ar gyfer y cynnig hwn a gyflwynwyd gan y trigolion a'r busnesau yn y dref, a gofynnwn i chi, fel yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol sydd â chyfrifoldeb dros Briffyrdd, roi ateb inni ynghylch y cwestiwn uchod."

 

 

Cofnodion:

"A fyddai modd inni gael cydnabyddiaeth o'n cais am gymorth a threfnu ymgynghoriad cyn gynted â phosibl i drafod rhinweddau'r cynnig hwn? I grynhoi'r cynnig, efallai eich bod yn ymwybodol bod Stryd Caerfyrddin wedi bod ar gau am dros flwyddyn erbyn hyn oherwydd gwaith adeiladu sydd ar waith yn y Neuadd Sirol. Yn ystod y cyfnod hwn mae'r busnesau lleol a'r trigolion wedi sylwi ar effeithiau cadarnhaol cau'r heol i draffig trwodd a sefydlwyd deiseb ym mis Medi 2020 yn gofyn am i'r heol barhau ar gau yn barhaol. Llofnodwyd deiseb gan ychydig llai na 300 o bobl ac roedd nifer o sylwadau ynghylch pryderon am ddiogelwch, yn enwedig ynghylch plant ac unigolion llai abl oherwydd bod yr heol/palmant yn gul.

Yn ogystal, mae busnesau lleol wedi gwneud nifer o sylwadau cadarnhaol ynghylch yr angen i gynyddu nifer yr ymwelwyr yn enwedig ar ôl y cyfnod ofnadwy hwn o ran Covid, yn benodol sut roedd cau'r heol wedi gwneud y dref yn lle llawer mwy pleserus i'r trigolion a deniadol i'r ymwelwyr. O ystyried y gwaith ailddatblygu ar hen Neuadd y Farchnad ar ran uchaf Stryd Caerfyrddin, nid yw ystyried newid y mynediad i gerbydau ar hyd yr heol yn gwneud synnwyr mewn gwirionedd.

Rydym (trigolion Heol Caerfyrddin) wedi bod yn pwyso ar Edward Thomas, y Cynghorydd Sir lleol, a'r adran briffyrdd ers mis Hydref 2020 er mwyn ceisio trefnu ymgynghoriad â ni ynghylch sut y gallwn fwrw ymlaen â'r cynnig hwn, a hyd yma bach iawn yw'r cynnydd rydym wedi'i wneud.

Rydym wedi cael ein siomi gan y Cyngor o ran y diffyg cydnabyddiaeth a chymorth ar gyfer y cynnig hwn a gyflwynwyd gan y trigolion a'r busnesau yn y dref, a gofynnwn i chi, fel yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol sydd â chyfrifoldeb dros Briffyrdd, roi ateb inni ynghylch y cwestiwn uchod.”

 

Ymateb y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd:-

 

“Diolch i chi Mr Kyle am eich cwestiwn, rwyf wedi nodi eich sylwadau a'ch pryderon. Rwyf wedi ymweld â'r safle ac wedi ystyried y materion yr ydych wedi'u codi.

Rwyf arddeall bod y rhan isaf o Stryd Caerfyrddin yn dyddio'n ôl i'r oesoedd canol ac, fel yr ydych yn nodi, mae'r ffordd a'r troedffyrdd yn gul. Yn y cyd-destun hwn gallaf ddeall y rhesymeg y tu ôl i'ch awgrym o gau'r ffordd yn barhaol i draffig ac mae hyn yn cyd-fynd ag amcanion trafnidiaeth ehangach y Cyngor Sir o annog mwy o gerdded a beicio mewn trefi. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig deall bod Stryd Caerfyrddin yn rhan o rwydwaith priffyrdd ehangach ac mae angen nodi bod ymyriadau ar un rhan o'r rhwydwaith yn effeithio ar fannau eraill, felly mae angen rhoi ystyriaeth gytbwys a chyfannol i’r mater.

Rwyf wedi trafod y goblygiadau hyn â'r Cynghorydd Thomas ac mae'r ddau ohonom yn rhannu nifer o bryderon gan gynnwys:

 

·       Diffyg cyfleusterau troi digonol a diogel ym mhen uchaf Stryd Caerfyrddin.

·       Y llwybr estynedig y byddai'n rhaid i draffig lleol ei ddefnyddio.

·       Pwysau traffig ychwanegol a ddargyfeiriwyd ar groesffordd Heol Newydd / A483 / Heol Cilgant

·       Yr effaith ar fusnesau ar ran uchaf Stryd Caerfyrddin

·       Sut y byddai gwahardd gyrru ar y ffordd yn cael ei orfodi wrth ystyried yr angen i gadw mynediad ar gyfer gwasanaethu'r adeiladau ar hyd Stryd Caerfyrddin a’r effaith y byddai'r traffig hwn yn ei chael ar gerddwyr;

·       Yr effaith y byddai cau'r ffordd yn ei chael pan gaiff traffig ei ddargyfeirio oddi ar Stryd Rhosmaen.

Os byddwch yn cynnwys yr opsiwn o ffordd osgoi, byddai hyn hefyd yn effeithio ar y dewisiadau.

Mae angen asesu ac ystyried yr holl faterion hyn mewn perthynas â'r manteision y byddai gwaharddiad gyrru yn eu cynnig a bydd y Cynghorydd Edward Thomas yn cael ei gynnwys fel yr aelod lleol. Mae angen gwerthuso a modelu pob cynnig a dim ond wedyn y byddem yn gallu ymgynghori pan fydd opsiynau ymarferol ar gael. Rwyf wedi gofyn i Swyddogion ymchwilio'n fanylach i'r materion hyn a pharatoi adroddiad ar eu canfyddiadau ynghyd ag unrhyw argymhellion priodol i'w hystyried a'u trafod. Byddaf yn gofyn i Swyddogion sicrhau bod copi o'r adroddiad ar gael i chi pan fydd wedi'i gwblhau.”

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.