Agenda item

STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018/23 - DIWEDDARIAD EBRILL 2021

Cofnodion:

Rhoddodd yr aelodau ystyriaeth i adrannau o Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 wedi'i diweddaru sy'n berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor Craffu – Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Roedd y Strategaeth Gorfforaethol ddiwygiedig (a fabwysiadwyd ym mis Mehefin 2018) yn adlewyrchu'r blaenoriaethau sy'n datblygu ac effaith Covid-19, Brexit a Newid yn yr Hinsawdd.

 

Nodwyd bod 15 o Amcanion Llesiant yn flaenorol a bod y rhain bellach wedi'u lleihau i 13.

 

Tynnodd y Dirprwy Arweinydd sylw at yr 16 o heriau allweddol sy'n wynebu'r Cyngor.

 

Codwyd nifer o gwestiynau/sylwadau wrth drafod yr adroddiad.  Dyma'r prif faterion:

 

·         Mynegwyd pryder mai dim ond hanner trigolion Sir Gaerfyrddin oedd yn teimlo eu bod yn byw mewn cymunedau cydlynus. Roedd Sir Gaerfyrddin yn 5ed yng Nghymru ond mae bellach yn 14eg allan o'r 22 awdurdod lleol. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y ffigurau yn seiliedig ar ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru 2018/19. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod gwaith sylweddol wedi'i wneud i ymgysylltu â chymunedau, gan gynnwys y gwaith gyda Chysylltwyr Cymunedol, a'r gobaith oedd y byddai canlyniadau'r arolwg mwy diweddar yn adlewyrchu hyn.

·         Gofynnwyd sut y byddai trigolion yn cael eu grymuso - "Annog cymunedau i gael eu grymuso i wella eu hamgylchiadau".   Teimlwyd bod y cam hwn i wella cydlyniant cymunedol yn amwys. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei bod yn allweddol bod gan breswylwyr y wybodaeth a'r ddealltwriaeth i'w galluogi i weithio gyda'r Awdurdod. Awgrymwyd y dylid newid y geiriad i "Annog cymunedau i wella eu hamgylchiadau drwy ddarparu anogaeth a chefnogaeth gyson." Atgoffwyd y Pwyllgor mai dogfen strategaeth oedd hon ac y byddai'r cynlluniau busnes yn cynnwys mwy o fanylion.

·         Gan gyfeirio at Amcan Llesiant 9, nodwyd bod y rhagamcaniadau cyfredol yn awgrymu bod poblogaeth pobl dros 65 sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin yn tyfu ac erbyn 2030 byddai'n cynyddu 60%. Gofynnwyd beth oedd y ffigurau gwirioneddol (nid %) a beth oedd y ffactorau amlwg a oedd yn cyfrannu at y ffigurau hyn. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig y byddai ffigurau ar gael gan Daffodil (adnodd rhagfynegi poblogaeth). Oherwydd datblygiadau mewn gwyddor feddygol, mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio, ond byddai hyn yn arwain at fwy o alw am reoli cyflyrau cronig gan gynnwys dementia.

·         Gan gyfeirio at Amcan Llesiant 7, mynegwyd pryder ynghylch effaith covid ar iechyd meddwl, dibyniaeth ar alcohol a chamddefnyddio sylweddau. Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod yr Awdurdod yn pryderu am yr effaith ar iechyd meddwl a'r cynnydd o ran y galw am wasanaethau.  Byddai'r paratoadau ar gyfer pennu'r gyllideb yn rhoi cyfrif am y galw hwn. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod trefniadau ar y cyd ar waith gyda'r Bwrdd Iechyd a bod tîm penodol ar waith i reoli, codi ymwybyddiaeth a gwneud gwaith ataliol.

·         Gofynnwyd sut roedd yr Awdurdod yn symud ymlaen gyda'r angen i barhau i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod ei swydd hi a swydd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol wedi'u hintegreiddio â gwaith y Bwrdd Iechyd.  Er bod y ddau sefydliad wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd integredig, cydnabuwyd bod meysydd i'w gwella o hyd.

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 - Diweddariad Ebrill 2021 yn cael ei chymeradwyo.

 

Dogfennau ategol: