Agenda item

EFFAITH COVID-19 AR WASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad yn rhoi datganiad safbwynt ynghylch sut yr oedd gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi parhau i gael eu rheoli yn ystod ail don y pandemig ac yn tynnu sylw at flaenoriaethau'r gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Roedd yr adroddiad yn disgrifio sut y rheolodd yr Awdurdod ail don y pandemig, y gwersi a ddysgwyd, a sut roedd y gwersi hynny'n dylanwadu ar flaenoriaethau gwasanaeth y dyfodol.

 

Cadarnhaodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd fod yr Awdurdod, o safbwynt Gwasanaethau Integredig a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, wedi parhau i gynnal busnes fel arfer cymaint ag oedd yn bosibl. Roedd yr Awdurdod wedi parhau i gynnig Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn unol â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac wedi cynnal asesiadau gofal cymdeithasol lle bo angen.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y bu llawer mwy o achosion mewn cartrefi gofal yn yr ail don. Bu cynnydd mewn gweithgarwch diogelu a chynnydd o ran cymhlethdod yr atgyfeiriadau.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol fod y gweithlu, yn ystod yr ail don, wedi parhau i'w rhyfeddu â'i hyblygrwydd a’i wytnwch.  Cafodd staff preswyl mewnol eu hadleoli i gefnogi cartrefi gofal y sector annibynnol lle bo angen yn ystod achosion o Covid. Mynegodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd a'r pwyllgor eu diolch am eu hymroddiad a'u gwaith rhagorol.

 

Nodwyd bod y pandemig wedi cael effaith emosiynol a seicolegol enfawr ar staff, ac na ddylid diystyru'r effaith. Rhoddwyd sicrwydd bod popeth posibl yn cael ei wneud i gefnogi staff drwy'r cyfnod heriol hwn.

 

Codwyd nifer o gwestiynau/sylwadau wrth drafod yr adroddiad. Dyma'r prif faterion:

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch nifer y gwelyau gwag mewn cartrefi gofal a hyfywedd darparwyr cartrefi gofal.  Cydnabu'r Pennaeth Gwasanaeth Integredig fod hyn yn bryder gwirioneddol i gartrefi gofal mewnol ac allanol wrth iddynt barhau i wynebu heriau. Ar hyn o bryd roedd cyllid penodol ar gael i liniaru'r effaith economaidd ar gartrefi gofal. Nodwyd hefyd fod y sefyllfa bresennol wedi rhoi cyfle i'r Awdurdod ystyried y potensial i gynnig darparu gwasanaeth 'gofal mwy dwys' a 'gofal llai dwys'.

·         Gofynnwyd pa gynlluniau oedd ar waith i ailagor Canolfannau Dydd ac a oedd y rhestr aros ar gyfer y gwasanaeth yn uchel. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod yr Awdurdod yn aros i ganllawiau cenedlaethol gael eu cyhoeddi cyn ailagor y gwasanaeth. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith y byddai cadw pellter cymdeithasol yn effeithio ar lefel y gwasanaeth y byddai'r Awdurdod yn gallu ei ddarparu. Dywedwyd nad oedd rhestr aros gan nad oedd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu a bod pecynnau cymorth amgen wedi'u darparu yn lle hynny.

·         Mynegwyd pryder ynghylch iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr Adran Addysg a Phlant yn ymwybodol o'r effaith a'i bod yn gweithio drwy opsiynau cymorth.

·         Mynegwyd pryder ynghylch effaith gweithio drwy'r pandemig ar staff rheng flaen.  Sicrhawyd y Pwyllgor fod lles staff yn cael ei ystyried yn rhywbeth pwysig ac roedd cydnabyddiaeth pa mor anodd oedd pethau wedi bod.  Roedd yr adran wedi bod yn gweithio gydag Iechyd Galwedigaethol i ddatblygu mecanweithiau cymorth ac roedd atebion amrywiol wedi'u rhoi ar waith.

·         Mynegwyd pryder ynghylch atal y gwasanaeth seibiant. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Integredig fod teuluoedd, oherwydd covid, yn amharod i fanteisio ar y gwasanaeth, ond bod yr Awdurdod wedi edrych ar ffyrdd eraill o gefnogi teuluoedd a oedd yn cynnwys cymorth 1 i 1 gartref.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: