Agenda item

CYNLLUN CARBON SERO-NET - ADRODDIAD DIWEDDARU (DRAFFT)

Cofnodion:

 

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd K. Lloyd, ar ôl datgan yn gynharach, ddiddordeb personol yn yr eitem hon, wedi aros yn y cyfarfod, wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth ond heb gymryd rhan yn y penderfyniad].

 

Yn dilyn cymeradwyo'r Cynllun Carbon Sero-net gan y Cyngor Sir ar 12 Chwefror 2020, roedd y fersiwn ddrafft o'r Cynllun Carbon Sero-net wedi cael ei llunio yn unol â Cham Gweithredu NZC-28 o'r Cynllun, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi'n flynyddol adroddiadau perfformiad ar y cynnydd tuag at fod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030.

 

Cafodd y Pwyllgor y fersiwn ddrafft o'r adroddiad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig.  Roedd yr adroddiad drafft yn cynnwys gwybodaeth fanwl yn yr adrannau canlynol:

 

  • Crynodeb Lefel Uchel gan gynnwys Cynnydd yn erbyn Camau
  • COVID-19 a Newid Hinsawdd
  • Diweddariad Cynnydd
  • Camau yn y Dyfodol
  • Ymateb Ehangach i'r Argyfwng Hinsawdd (Atodiad 1)

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

  • O ran materion llifogydd, holwyd sut roedd y Cyngor yn mynd i weithio gydag undebau'r ffermwyr.  Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig fod y Gweithgor Materion Gwledig wedi ystyried rheolaeth slyri, a oedd wedi nodi bod llygredd afonydd wedi gostwng. Fodd bynnag, roedd nifer o ffactorau eraill yn gysylltiedig heblaw am y diwydiant ffermio. Roedd yn ofynnol i ffermwyr gadw at reoliadau penodol, lle gallai torri'r rheoliadau fod yn fesur gwell.

 

  • Cyfeiriwyd at y cyllid a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru i osod hwb gwefru cyflym iawn ar gyfer cerbydau trydan yn Crosshands, a gofynnwyd a ellid cael rhagor o wybodaeth am hyn. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig fod 26 o bwyntiau gwefru ar draws y Sir ar hyn o bryd a'r uchelgais oedd gosod mwy.  Darparodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd ddiweddariad yn cadarnhau bod cais am grant wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru osod 14 pwynt gwefru arall y flwyddyn nesaf.  O ran datblygu hwb gwefru cyflym iawn yn Crosshands, cadarnhawyd bod y gwaith yn digwydd yn unol â'r amserlen yn barod i'w gomisiynu yn Ebrill eleni.

 

  • Gofynnwyd a ddylid cynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan fel amod cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr e.e. archfarchnadoedd. Eglurodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu strategaeth genedlaethol ar wefru cerbydau trydan, i'w chyhoeddi'n ddiweddarach eleni. Ar ôl i'r strategaeth hon gael ei chyhoeddi, gallai strategaeth cerbydau trydan y Cyngor geisio ymrwymiad gan ddatblygwr i'r seilwaith gwefru cerbydau trydan.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad ynghylch a oedd gan Western Power Distribution unrhyw gynlluniau i wella capasiti'r system rhwydwaith dosbarthu trydan leol (Grid), dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig ei fod yn ymwybodol o drafodaethau gyda Western Power Distribution ar y mater hwn.  Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy fod Swyddogion yn cynnal trafodaethau gyda Western Power Distribution a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.  Adroddwyd bod Western Power Distribution wedi galw'n ddiweddar am dystiolaeth i nodi prosiectau carbon isel 'parod' os oedd digon o gapasiti gan y Grid. Byddai'r Cyngor yn ymateb i'r alwad hon am dystiolaeth ar y cyd â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru cyn y dyddiad cau ar 19 Mawrth 2021.

 

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach, dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd mai un enghraifft o gynllun oedd hwnnw gan gwmni gwastraff a gwaredu'r Cyngor, Cwm Environmental Ltd, a fu'n gweithio gyda Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i gael ail dyrbin gwynt yn Nant-y-caws. Roedd trafodaethau cychwynnol gyda Western Power Distribution wedi dangos y byddai'n bosibl gosod tyrbin gwynt o faint penodol i'w allforio i'r Grid. Fodd bynnag, ar ôl trafod ymhellach, roedd yn siomedig dysgu y byddai'n rhaid lleihau maint y tyrbin gwynt arfaethedig gan nad oedd gan y Grid ddigon o gapasiti i dderbyn y trydan fyddai'r tyrbin gwynt arfaethedig yn ei gynhyrchu. Roedd hyn yn dangos bod problemau o ran cyfyngiadau ar y Grid hyd yn oed wrth gysylltu un tyrbin gwynt.  Fodd bynnag dywedwyd bod y cynllun yn barod, a byddai hyn yn cael ei fwydo'n ôl i alwad diweddar Western Power Distribution am dystiolaeth.

 

·      Mewn ymateb i ymholiad ynghylch a oedd digon o ynni i gyflenwi datblygiadau mawr cynlluniedig, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy fod gan Western Power Distribution Fap Capasiti Rhwydwaith rhyngweithiol ar-lein a roddai wybodaeth am y capasiti oedd ar gael gan y Grid mewn ardaloedd penodol (darparwyd hyperddolen ar dudalen 20 o'r Adroddiad Diweddaru drafft). Hefyd, mae Western Power Distribution wedi cynhyrchu Senarios Rhwydwaith Ynni'r Dyfodol rhyngweithiol ar-lein sy'n amlinellu ystod o wahanol senarios yn y dyfodol ar gyfer twf y Grid.

 

·      Mynegwyd siom, ddwy flynedd ers i'r Cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2019, nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dosbarthu ei chanllawiau adrodd i Awdurdodau Lleol eto.  Gofynnwyd a oedd unrhyw arwydd fod canllawiau Cymru ar adrodd am Garbon ar ei ffordd gan Lywodraeth Cymru. Mewn ymateb i hyn, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy mai'r disgwyl oedd y byddai'r canllawiau'n dod i law cyn diwedd mis Mawrth 2021.

 

·      Gan gydnabod y problemau o ran seilwaith y Grid, gofynnwyd a oedd unrhyw gynllun neu strategaeth lefel uchel i Gymru, er mwyn cynyddu'r capasiti dosbarthu fel y gallai pob Awdurdod oedd wedi datgan argyfwng hinsawdd gyrraedd targed 2030.  Mewn ymateb i hyn, cydnabu'r Rheolwr Datblygu Cynaliadwy nad oedd y mater hwn wedi'i gyfyngu i Awdurdodau Lleol unigol, a dywedodd mai dim ond un o'r datblygwyr posibl a oedd yn dymuno buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy oedd Sir Gaerfyrddin.  Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu Strategaeth Datgarboneiddio a oedd yn debygol o gael ei chwblhau cyn y Gynhadledd Newid yn yr Hinsawdd (COP26) yn Glasgow, Tachwedd 2021.

 

·      Mewn ymateb i ymholiad mewn perthynas â'r Cyngor yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy lle'r oedd angen costau atgyfnerthu i gynyddu capasiti'r Grid, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig y gallai cost rhoi'r seilwaith angenrheidiol ar waith fod yn sylweddol, a sicrhaodd yr Aelodau na fyddai dim arian yn cael ei ymrwymo oni bai bod sicrwydd yn cael ei roi y byddai capasiti Grid digonol ar gael. Yn ogystal, pwysleisiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ei bod yn annhebygol iawn y byddai unrhyw Awdurdod Lleol yn Garbon Sero-net erbyn 2030 oni bai bod gan y Grid ddigon o gapasiti, felly roedd yn bwysig cynnal trafodaethau ar lefel Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

·      Cyfeiriwyd at y cam gweithredu ynghylch gweithio gyda phartneriaid Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a Bargen Ddinesig Bae Abertawe.  Gofynnwyd a oedd unrhyw un o'r partneriaid ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi datgan argyfwng hinsawdd ac wedi ymrwymo i Garbon Sero-net. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig nad oedd yn ymwybodol o unrhyw gyrff eraill o'r sector cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin a oedd wedi datgan argyfwng hinsawdd. Fodd bynnag, roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrthi'n trafod ffyrdd o leihau ôl troed carbon fel sir.  Ychwanegodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, er bod pob aelod o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymwybodol o'r argyfwng hinsawdd a bod ganddynt amcanion ar waith i leihau eu hôl troed carbon, byddai hi'n holi a oedd modd cynnwys y drafodaeth hon ar agenda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol.

 

  • Cynigiwyd bod y Pwyllgor hwn yn ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cymru i gyfleu ei bryder ynghylch capasiti cyfyngedig y rhwydwaith dosbarthu trydan lleol ac i ofyn i Lywodraeth Cymru weithio gydag Awdurdodau Lleol, ac eraill, i ddatblygu cynllun clir i fynd i'r afael â'r mater hwn.   Yn ogystal, mae'r Pwyllgor yn ei lythyr yn mynegi ei siom nad yw Canllawiau Adrodd ar Garbon Cymru wedi'u cyhoeddi hyd yma.  Cynigiwyd ymhellach fod y Pwyllgor yn gofyn i'r Bwrdd Gweithredol, mewn llythyr ar wahân at Lywodraeth Cymru, adleisio a chefnogi sylwadau'r Pwyllgor. Cafodd y cynigion eu heilio'n unol â hynny.

 

  • Mewn ymateb i ymholiadau a godwyd yngl?n â phrosiect newid Goleuadau Stryd i LED, cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod y gwaith ar rwydwaith ffyrdd y sir wedi'i gwblhau a bod y 15,000 o oleuadau a oedd yn y rhaglen wedi eu newid i LED, gan arbed dros 2.3m awr gilowat o drydan ers 2015.  Yn ogystal, er y byddai angen iddo gadarnhau gyda'r Aelodau ar ôl y cyfarfod, dywedodd ei fod yn credu bod y gwaith newid hwn wedi'i gwblhau yn achos y rhan fwyaf o Gynghorau Tref/Cymuned a oedd wedi ymuno â'r cynllun.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

6.1        bod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gyfleu'r sylwadau a nodwyd uchod;

 

6.2    ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL fod y Bwrdd Gweithredol yn ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cymru i gefnogi ac ailddatgan sylwadau'r Pwyllgor.

 

6.3  Bod y Cynllun Carbon Sero-net yn cael ei dderbyn.

 

 

Dogfennau ategol: