Agenda item

STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018/23 - DIWEDDARIAD EBRILL 2021

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd C. Campbell, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor ar gyfer 2018-23, ym mis Ebrill 2021.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn amcanion Llesiant y Cyngor a fabwysiadwyd ym mis Mehefin 2018, fel y'i diwygiwyd i adlewyrchu blaenoriaethau sy'n datblygu ac effaith y pandemig Coronafeirws (Covid-19), Brexit a newid yn yr hinsawdd.

 

Er yr ystyriwyd ei bod yn arfer da sicrhau bod y Strategaeth Gorfforaethol wedi'i diweddaru a bod adnoddau wedi'u dyrannu i flaenoriaethau, nododd y Pwyllgor fod yn rhaid cyhoeddi'r Amcanion Gwella yn flynyddol yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Mesur Cymru 2009) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Gwnaed sylwadau ategol hefyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd H. Evans; a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd, y Cynghorydd P.M. Hughes ynghylch eu portffolios penodol. 

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·      Cyfeiriwyd at Amcan Llesiant 8 – Cefnogi cydlyniant cymunedol, cydnerthedd a diogelwch. Mewn perthynas â'r ystadegyn bod 73% o drigolion Sir Gaerfyrddin, bum mlynedd yn ôl, yn teimlo eu bod yn byw mewn cymuned gydlynol, mynegwyd pryder ei fod wedi gostwng i hanner (51.5%).  Gofynnwyd a oedd esboniad am y gostyngiad sylweddol. Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig fod adroddiad wedi'i gyflwyno'n ddiweddar i'r Bwrdd Gweithredol ar waith oedd yn ymwneud â chydlyniant cymdeithasol. Yn dilyn ymgynghori helaeth, roedd tystiolaeth bod tensiynau wedi deillio o ddadl Brexit a oedd wedi rhannu teuluoedd, ffrindiau a chymunedau.  Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn cydnabod bod pandemig Covid-19 hefyd yn ffactor, yn ogystal â'r ddadl gyhoeddus ar fudiad Black Lives Matter.

 

Gofynnwyd a allai'r adroddiad uchod i'r Bwrdd Gweithredol gael ei anfon ymlaen at aelodau'r Pwyllgor. Nodwyd hyn a byddai camau'n cael eu cymryd i sicrhau hynny.

 

·      Cyfeiriwyd at Gydnerthu Cymunedol (Amcan Llesiant 8). Er cydnabod bod y pandemig yn her sylweddol a oedd wedi dod â chymunedau at ei gilydd, roedd problem gynyddol yn Sir Gaerfyrddin oherwydd newid yn yr hinsawdd, ac roedd canlyniadau hynny wedi arwain at lifogydd yn digwydd droeon. Gofynnwyd a oedd y Cyngor yn gallu dysgu o'r cyfnod hwn er mwyn meithrin mwy o gydnerthedd cymunedol. Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig fod llawer o gymunedau, yn ystod y pandemig, yn gweithio gyda'i gilydd i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed. O ran llifogydd yn benodol, derbyniwyd eu bod yn digwydd yn amlach. Oherwydd cymhlethdod y problemau hyn, awgrymwyd mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â nhw fyddai datblygu ateb hirdymor strategol drwy gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin ac Undebau'r Ffermwyr.

 

Er deall bod heriau, dywedwyd y byddai'n fuddiol petai rhagor o gyfleoedd ar gael i gymunedau weithio ochr yn ochr â sefydliadau'r trydydd sector, yn enwedig yn y broses adfer.

 

·      Cyfeiriwyd at Amcan Llesiant 10. Gofynnwyd a ddylai rôl 'Sir Gaerfyrddin rhydd rhag plastig' fod yn rhan o'r amcan hwn fel Amgylchedd Iach a Diogel, ac a yw'r Cyngor yn dal i weithio tuag at hyn?  Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig fod y Cyngor wedi pasio polisi i roi'r gorau i ddefnyddio 'Plastig Untro', ac er bod trafodaethau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd gyda chyrff cyhoeddus eraill, roedd yn cael ei gydnabod bod llawer o waith i'w gyflawni o hyd. Fodd bynnag, dywedwyd y byddai llawer o'r ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin yn rhydd rhag plastig erbyn hyn. Ychwanegodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod y Cyngor, yn dilyn bwlch byr o ran y mater hwn oherwydd y pandemig, bellach yn gweithio tuag at y nod o roi'r gorau i ddefnyddio pob math o Blastig Untro. Mewn perthynas â'r cwestiwn o gynnwys hyn yn Amcan Llesiant 10, byddai hyn yn cael ei ystyried.

 

·      Gan gyfeirio at Amcan Llesiant 11 a'r adran gwella cludiant i'r ysgol, gofynnwyd a wnaed unrhyw gynnydd gyda Llywodraeth Cymru o ran newid y pellteroedd ar gyfer cludiant o'r cartref i'r ysgol.  Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob Awdurdod Lleol am adborth manwl a'i bod yn aros i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi.

 

·      Gofynnwyd a fyddai'r Pwyllgor yn ystyried sefydlu comisiwn hinsawdd tebyg i rai cynghorau eraill a oedd yn gweithio gyda'r Sefydliad Hinsawdd (Climate Foundation). Awgrymwyd y gellid cynnal astudiaeth ddichonoldeb i ystyried ffurfio comisiwn hinsawdd.

 

 

 

 

·      Cyfeiriwyd at Amcan Llesiant 7 – Byw'n Dda – Helpu pobl i fyw bywydau iach. O ran camddefnyddio sylweddau, gofynnwyd a oedd ystyriaeth wedi'i rhoi i fannau/ystafelloedd diogel y gallai unigolion mewn angen dybryd fynd iddynt.  Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd fod nifer o fannau diogel ar gael at ddefnydd unigolion oedd yn camddefnyddio sylweddau.  Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig fod sefydliad effeithiol iawn yn bodoli o'r enw Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (DDAS), a oedd yn rhoi cymorth i ddefnyddwyr cyffuriau ac yn darparu mannau diogel. Mewn cyfarfod diweddar gyda'r Prif Uwcharolygydd am gyffuriau'n benodol, dywedwyd bod problem fawr o ran Llinellau Sirol ym mhob rhan o Sir Gaerfyrddin.  Yng ngoleuni'r wybodaeth hon, tynnwyd sylw at bwysigrwydd DDAS a sefydliadau eraill o'r fath a oedd yn darparu cymorth amhrisiadwy.

 

·      O ran y problemau llifogydd, nodwyd bod graean yn arfer cael ei dynnu o welyau'r afonydd yn y gorffennol er mwyn eu hatal rhag gorlifo. Awgrymwyd y byddai ailgyflwyno'r broses o garthu'r afonydd i wneud lle i'r d?r yn gam ataliol y gellid ei gymryd er mwyn osgoi rhagor o lifogydd. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi'n ymchwilio i'r posibilrwydd o garthu afonydd unwaith eto.

 

·      Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r effaith roedd pandemig Covid-19 wedi'i chael ar ansawdd yr aer yn Sir Gaerfyrddin, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd fod gwelliant sylweddol wedi bod yn ansawdd yr aer ers dechrau'r pandemig.  Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf a fyddai'n cyfeirio at y wybodaeth hon.

 

·      Cyfeiriwyd at fesurau llwyddiant allweddol Amcan Llesiant 10 ar dudalen 34 o'r adroddiad.  Awgrymwyd cynnwys mesur llwyddiant allweddol ychwanegol mewn perthynas â lleihau ynni.  Cytunodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig â'r awgrym gan fod cryn dipyn o waith wedi'i wneud i leihau allyriadau carbon a byddai cynnwys y mesur allweddol hwn yn dangos y llwyddiant mewn sawl agwedd ar y gwaith. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad diweddaru Ebrill 2021 ar Strategaeth Gorfforaethol 2018/23.

 

 

Dogfennau ategol: