Agenda item

ADRODDIAD MONITRO ABSENOLDEB SALWCH

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig yr Adroddiad Monitro Absenoldeb Salwch a oedd yn darparu data absenoldeb ar gyfer y cyfnod cronnol yn Chwarter 2 sef blwyddyn ariannol 2020/21 ynghyd â chrynodeb o'r camau gweithredu. Nodwyd bod ffigurau absenoldeb salwch wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y cyfnod hwn o gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Fel diweddariad i'r adroddiad, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol mai 5.67 oedd nifer cyfartalog y diwrnodau a gollwyd fesul CALl ar gyfer Chwarter 3 2020/21 o'i gymharu â 7.67 y flwyddyn flaenorol. Yn seiliedig ar y ffigurau hyn, ystyriwyd ei bod yn debygol y byddai nifer cyfartalog y diwrnodau a gollwyd fesul CALl ar ddiwedd y flwyddyn 2020/21 yn llai nag 8 o gymharu â'r ffigur o 10.78 a adroddwyd ar ddiwedd 2019/20. Ychwanegodd, er ei bod yn debygol bod y cynnydd mewn gweithio gartref yn ystod y pandemig presennol wedi cyfrannu at y gostyngiad yn lefelau absenoldeb salwch tymor byr, roedd lefel yr atgyfeiriadau i'r gwasanaeth cymorth llesiant wedi cynyddu. Yn hyn o beth, roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion ar y mentrau a ddatblygwyd gan yr Awdurdod i gefnogi staff yn ystod y pandemig.  

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·       Cydnabuwyd y dylai rheolwyr allu sicrhau llesiant eu timau o bell, ac roedd unigrwydd yn fater allweddol, gan ofalu am eu llesiant eu hunain ar yr un pryd. Yn hyn o beth, roedd yr Awdurdod wedi datblygu tua 180 o hyrwyddwyr llesiant i gynorthwyo staff. Cytunodd y Pwyllgor ag awgrym y byddai'n ddefnyddiol cael Sesiwn Datblygu i'r Aelodau a oedd yn canolbwyntio ar system monitro 'ffrwd fyw' o ran absenoldeb salwch staff yn sgil Covid a oedd yn cael ei ddiweddaru bob 20 munud.

·       O ran effaith y pandemig ar hyfforddiant staff ac aelodau, dywedwyd wrth y pwyllgor bod dros 50% o'r sesiynau hyfforddi a drefnwyd wedi'u cynnal ar-lein a chafwyd adborth cadarnhaol ac roedd hyn yn debygol o gael ei ddatblygu ymhellach er bod natur rhai sesiynau yn ymwneud â rhyngweithio corfforol ac yn golygu nad oedd hyn yn bosibl e.e. codi a chario;

·       Roedd y defnydd o staff asiantaeth wedi lleihau yn ystod y pandemig a gofynnwyd i dîm TIC ymchwilio i'r gwariant ailadroddus ar staff asiantaeth;

·       Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r effaith ar staff a oedd wedi'u hadleoli i rolau eraill yn ystod y pandemig e.e. staff swyddfa yn cael eu trosglwyddo dros dro i weithio mewn cartrefi gofal preswyl, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod yr adborth gan y staff eu hunain wedi bod yn gadarnhaol o ran cael boddhad o'r gwaith a'r ymdeimlad o falchder o allu helpu yn ystod argyfwng. Cyfeirir at yr adborth yn y fframwaith 'ffyrdd newydd o weithio' sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a fyddai hefyd yn ystyried materion megis arwahanrwydd cymdeithasol a llesiant staff.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

8.1 dderbyn yr adroddiad;

8.2 trefnu Sesiwn Datblygu i'r Aelodau yn canolbwyntio ar system monitro ‘ffrwd fyw’ o ran absenoldeb staff yn sgil covid'.

 

Dogfennau ategol: