Agenda item

STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018/23 - DIWEDDARIAD EBRILL 2021

Cofnodion:

Cyflwynydd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig y wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor ar gyfer 2018-23, fel yr oedd ar gyfer mis Ebrill 2021.  Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn amcanion Llesiant y Cyngor a fabwysiadwyd ym mis Mehefin 2018, fel y'i diwygiwyd i adlewyrchu blaenoriaethau sy'n datblygu ac effaith y pandemig Coronafeirws (Covid-19), Brexit a newid yn yr hinsawdd. Bernid ei fod yn arfer da i sicrhau bod y Strategaeth Gorfforaethol yn cael ei diweddaru er mwyn sicrhau bod adnoddau yn cael eu dyrannu i flaenoriaethau. Roedd yn rhaid cyhoeddi'r Amcanion Gwella yn flynyddol hefyd yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Mesur Cymru 2009) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Cafwyd cyflwyniadau ategol hefyd gan Aelodau'r Bwrdd Gweithredol sef y Cynghorwyr D Jenkins (Adnoddau) a P.Hughes Griffiths (Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth) mewn perthynas â'u portffolios penodol.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Yn dilyn cyfeiriad at farwolaeth ddiweddar plentyn yn Sir Benfro o ganlyniad i ymosodiad ac esgeulustod cytunodd swyddogion i ganfod pa drefniadau diogelu oedd ar waith yn Sir Gaerfyrddin o ran plant sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref;

·       Sicrhawyd yr Aelodau bod yr holl gamau gweithredu a oedd yn y Strategaeth wedi’u cynnwys yn y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2021/22 a oedd i'w hystyried yn ystod cyfarfod y Cyngor;

·       Mewn ymateb i sylw, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig, er mai uchelgais y Cyngor oedd cyflawni'r holl amcanion yn y Strategaeth, y byddai'n rhaid cael rhywfaint o hyblygrwydd wrth symud ymlaen gyda blaenoriaethau o bosibl yn newid oherwydd yr ansicrwydd a gyflwynwyd gan y pandemig presennol;

·       Cyfeiriwyd at yr angen i wella trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig gan fod y sefyllfa bresennol yn gwaethygu tlodi ac yn effeithio ar gyfleoedd cyflogaeth yn yr ardaloedd hynny ac yn golygu bod angen dibynnu ar drafnidiaeth breifat;

·       Mewn ymateb i sylw, dywedwyd wrth y Pwyllgor am yr ymdrechion parhaus i wella cysylltiad band eang ledled Sir Gaerfyrddin a oedd yn cynnwys y cynlluniau talebau presennol a oedd yn cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU. Cytunodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol i ddosbarthu manylion am yr ardaloedd hynny yn Sir Gaerfyrddin nad oedd ganddynt gysylltedd band eang ar hyn o bryd.

·       Cyfeiriwyd at yr angen i sicrhau bod yr hen reilffordd o Ddyffryn Aman i Lanelli yn cael ei chadw i sicrhau y gallai ardal Rhydaman elwa ar dwristiaeth a'r datblygiadau sy'n digwydd yn Llanelli a Bae Abertawe. Ymatebodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig drwy ddweud mai uchelgais y Bwrdd Gweithredol oedd ceisio cael cyllid, o bosibl gan Lywodraeth Cymru, i ailagor y rheilffordd gan y byddai hefyd o fudd i agenda'r Cyngor ar y newid yn yr hinsawdd. Roedd yr Aelod Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn cytuno â'r farn y byddai ailagor y rheilffordd yn hwb mawr i dwristiaeth yn yr ardal;

·       Mynegwyd siom bod ffigurau Cyfrifiad 2011 yn dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin wedi cwympo i 43.9% o gymharu â 50.1% yn 2001. Cyfeiriodd yr Aelod Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth at gefnogaeth y Cyngor i hyrwyddo'r Gymraeg ar bob lefel fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg [gweler Cofnod 7 isod].

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y diweddariad i'r Strategaeth Gorfforaethol 2018-23.

 

Dogfennau ategol: