Agenda item

CWESTIWN GAN MS J. MANSFIELD I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

A allech chi restru pa gynnydd a wnaed eleni tuag at y nod o sicrhau bod yr Awdurdod yn garbon niwtral erbyn 2030 a nodi hefyd pa gynnydd sydd ar y gweill ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod i gyrraedd y nod o fod yn garbon niwtral?

 

Cofnodion:

“A allech chi restru pa gynnydd a wnaed eleni tuag at y nod o sicrhau bod yr Awdurdod yn garbon niwtral erbyn 2030 a nodi hefyd pa gynnydd sydd ar y gweill ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod i gyrraedd y nod o fod yn garbon niwtral?”

 

Ymateb y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

“Diolch yn fawr Jane am y cwestiwn. Fel y gwyddoch, ddwy flynedd yn ôl, gwnaethom ddatgan argyfwng hinsawdd a blwyddyn yn ôl, fel yr addawyd, gwnaethom lunio cynllun carbon sero-net, a'n bwriad yw adrodd ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a'r targedau yn y cynllun hwnnw bob blwyddyn. Felly, mae'r cynllun gweithredu ar y flwyddyn gyntaf hon yn mynd gerbron Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ddydd Gwener hyn. Mae'r adroddiad a'r manylion am gynnydd bellach ar gael i'r cyhoedd. Os ydych am edrych ar y manylion hynny, maent ar gael ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin neu, fel arall, gall un o'r staff gweinyddol anfon dolen atoch i'r adroddiad penodol hwnnw ar ddiwedd y cyfarfod hwn os dymunwch. Ond dim ond i roi ychydig o fanylion am yr adroddiad, gadewch imi roi hyn yn ei gyd-destun yn gyntaf oll. Gadewch imi ddweud hyn, mae'r flwyddyn ddiwethaf, fel y gwyddom i gyd, wedi bod yn un hollol unigryw wrth i Covid-19 gyflwyno llawer o heriau i ni fel Cyngor. Ac, o ganlyniad, mae llawer o'n staff wedi cael eu hadleoli i helpu ymateb y sir i'r pandemig. Felly, mae'n golygu bod y bobl a fyddai fel arfer wedi bod yn gweithio ar y cynllun carbon sero-net wedi'u tynnu oddi wrth y gwaith hwnnw, am resymau amlwg, i ddelio â'r ymateb brys i'r pandemig. Serch hynny, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud ar sawl menter. Nawr, fe allwn restru ystod eang o gamau gweithredu rydym wedi gwneud gwaith arnynt ond, rwy'n mynd i godi un neu ddau efallai ond mae gweddill y manylion yn y cynllun ar ein gwefan

 

Rwy'n credu mai'r peth cyntaf y mae angen i mi ei ddweud yw mai'r prif ffigur ar gyfer 2019/20 yw bod ein hôl troed carbon cyffredinol wedi gostwng 2.9% o gymharu â 2018/19. Ac ni fydd yn syndod i chi, er nad yw hyn yn yr adroddiad, fod y ffigurau a'r data cynnar ar gyfer y flwyddyn galendr ddiwethaf hon yn dangos gostyngiad trawiadol mewn allyriadau carbon yn Sir Gaerfyrddin a hefyd gwelliant mewn ansawdd aer. Yn amlwg mae hyn wedi digwydd oherwydd y pandemig ac am fod llai o bobl yn teithio mewn ceir ac yn y blaen. Ond adroddir ar hyn yn adroddiad cynllun gweithredu'r flwyddyn nesaf.

 

Yn fyr iawn, hoffwn grybwyll ambell brosiect arall i ddangos sut ydym yn mynd ati i  gyflawni ein huchelgais carbon sero-net. Rydym wedi cyflawni prosiect Re:fit Cymru i sicrhau

arbedion ynni a charbon. Er bod gwaith wedi'i ohirio oherwydd Covid, ailddechreuodd y gwaith fis Medi diwethaf a nawr bydd y rhan fwyaf o brosiectau Cam 1 ar y 30 safle wedi'u cwblhau erbyn diwedd y mis hwn. Felly, bydd hyn yn arwain at arbedion carbon cyffredinol o tua 675 tunnell cyfwerth â charbon deuocsid bob blwyddyn, ac, yn ychwanegol at hynny, rydym wedi ychwanegu goleuadau LED ychwanegol i rai o'n safleoedd hefyd.

 

Mae gennym hefyd rywfaint o waith i'w gwblhau erbyn mis Medi eleni ar oleuadau LED mewn dau gartref gofal ynghyd â dau gynllun paneli solar ffotofoltaig – un mewn cartref gofal, a'r un mawr arall, o bosibl, ym Mharc Dewi Sant ac rydym, o'r diwedd, yn gweithio ar Gynllun Re:fit Cymru ar ddatblygiadau adeiladu newydd ac ar hyn o bryd mae gennym 5 cynllun adeiladu newydd a fydd yn darparu 114 o gartrefi,  gyda 21 o ddatblygiadau pellach ar y gweill. Yn y cartrefi hyn rydym yn gosod lefelau uchel o insiwleiddio trwy ddefnyddio egwyddorion 'Passivhaus' a byddwn hefyd yn cynnwys technolegau modern megis Awyru Mecanyddol gydag Adfer Gwres (MVHR) a phwyntiau gwefru cerbydau trydan, yn ogystal â phaneli solar ffotofoltaig a storio batris.

 

Felly, Jane, fe allwn i fynd ymlaen, ond rwy'n credu bod hynny'n rhoi syniad i chi o'r hyn rydym wedi llwyddo i'w gyflawni mewn blwyddyn heriol dros ben. Gobeithiaf fod hynny'n ateb eich cwestiwn.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol