Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD GARETH JOHN I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“A allai'r Arweinydd ymhelaethu ar benderfyniad y Bwrdd Gweithredol i gefnogi'r Ardal Gwella Busnes yng Nghaerfyrddin a Llanelli am ail dymor, a sut y bydd hynny o fudd i ganol y ddwy dref?” 

 

Cofnodion:

“A allai'r Arweinydd ymhelaethu ar benderfyniad y Bwrdd Gweithredol i gefnogi'r Ardal Gwella Busnes yng Nghaerfyrddin a Llanelli am ail dymor, a sut y bydd hynny o fudd i ganol y ddwy dref?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

“Diolch am y cwestiwn ac rwy'n falch iawn o'i ateb ac i ddweud cymaint rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith yn yr AGB yn Llanelli, a chyn i mi ddechrau ar Lanelli hoffwn ddiolch i Mandy sy'n gweithio i'r AGB am ei gwaith a'r Cadeirydd, Lesley Richards, am ei hymrwymiad hefyd. Gan ddechrau yn 2015 am gyfnod cychwynnol o 5 mlynedd, mae ardal wella Llanelli wedi gweithio'n agos iawn gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i wella Llanelli fel lle i fyw ynddo, fel lle i ymweld ag ef, ac mae tîm yr AGB wedi bod yn hanfodol wrth drefnu calendr ardderchog o ddigwyddiadau yng nghanol y dref hefyd. Mae'r digwyddiadau, gan gynnwys g?yl yr 80au, g?yl bwyd a diod, sinema awyr agored ac ati wedi tyfu o flwyddyn i flwyddyn ac mae nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu yn ystod y digwyddiadau hynny er budd busnesau lleol yn nhref Llanelli. Ar gyfartaledd 16,800 oedd nifer yr ymwelwyr a nodwyd ar ddydd Sadwrn yn ystod 6 wythnos yn Llanelli, ond yn ystod digwyddiadau a drefnwyd gan yr AGB mae'r ffigurau hynny'n dangos ac yn adlewyrchu'r effaith gadarnhaol mae'r digwyddiadau hyn wedi'i chael. Os meddyliwn yn ôl i ddigwyddiad Batman Returns, rwy'n credu bod tua 25,000 o ymwelwyr yn y dref, roedd dros 28,00 o ymwelwyr adeg g?yl yr 80au, a bu i ?yl arall ddenu 22,000. Roedd dros 25,000 pan ddaeth y deinosoriaid, a denodd y Great Get Together bron i 30,000 o bobl i ganol y dref. Ochr yn ochr â'r digwyddiadau hynny wrth gwrs mae'r AGB yn Llanelli wedi buddsoddi mewn mentrau yng nghanol trefi megis cynllun cynllunio, sefydlu arwyddion digidol, a chynyddu presenoldeb yr heddlu yn y dref hefyd. Bu i'r cyfyngiadau covid ganiatáu i'r AGB ddangos cefnogaeth i fusnesau drwy brynu cyfarpar diogelu personol ar eu cyfer a rhoi pecynnau ailagor iddynt a oedd yn cynnwys sgriniau persbecs, diheintwyr dwylo, sticeri llawr a gorchuddion wyneb, ac roedd y rhain i gyd ar gael am ddim i fusnesau sy'n talu'r AGB. Mae'r AGB hefyd wedi gofyn am hysbysebu am ddim ar y sgrin ddigidol sy'n borth allweddol i Lanelli ac mae busnesau lletygarwch wedi bod yn defnyddio eu hardaloedd allanol drwy ddefnyddio dodrefn wedi'u trefnu drwy'r AGB. Mae adfywio'r AGB ar gyfer Llanelli am 5 mlynedd a pharhau â digwyddiadau sydd o fudd i'r busnesau yn gwbl hanfodol ar gyfer adferiad economaidd canol y dref, oherwydd mae'r pandemig wedi cael effaith arno wrth gwrs. Mae nodau ac amcanion yr AGB yn mynd ochr yn ochr â'r tasglu gyda chanol tref Llanelli a bydd yr AGB, wrth gwrs, yn helpu gwydnwch ac adferiad canol y dref yn dilyn y pandemig. Cynhelir y bleidlais ddydd Iau 4 Mawrth, ac yn ystod yr ail dymor gobeithio y bydd yr AGB yn Llanelli yn addo marchnata a gwella mynediad i'r dref a datblygu strategaeth hefyd. Heb AGB fel honno yn Llanelli, efallai na fydd arwain ar raglen benodol o ddigwyddiadau a mentrau i gyflawni'r busnesau hyn yn denu llawer o ymwelwyr.

Mewn perthynas â'r AGB yng Nghaerfyrddin cafodd ei chymeradwyo am gyfnod cychwynnol o 5 mlynedd yn ôl ym mis Mawrth 2020, ac mae tîm yr AGB wedi addo gwneud busnesau'n fwy proffidiol, gwella proffil y dref yn gyffredinol, gwella'r profiad parcio a gwella nodau gweledol y dref hefyd. Bydd yn cefnogi economi canol y dref drwy gynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â chanol y dref a hefyd y gwariant yn y dref, gan wneud y dref yn fwy bywiog a sicrhau bod hynny'n digwydd.

Caiff perfformiad AGB [Llanelli] o gymharu â’i haddewidion ei fonitro'n barhaus drwy'r mesur llywodraethu a roddwyd ar waith ar ddechrau'r AGB, fel y bydd yn digwydd yng Nghaerfyrddin.”