Agenda item

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI A LEFELAU RHENTI TAI AR GYFER 2021/22

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd J Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi)

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau ar Gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2021/22 a gyflwynir fel rhan o broses ymgynghori'r gyllideb a ddygai ynghyd y cynigion diweddaraf ar gyfer y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2021/24 a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol a'r Cyngor er mwyn iddynt benderfynu yn eu cylch.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu a chynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Roedd y buddsoddiad arfaethedig a geir yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni STSG+ erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith), wedi darparu buddsoddiad i gynnal STSG+ ac wedi parhau â'r buddsoddiad yn Ymrwymiad yr Awdurdod i Dai Fforddiadwy. 

 

O ran pennu Rhenti Tai, atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu Polisi Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar 24 Chwefror 2015 am gyfnod o bedair blynedd hyd at 2018/19. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu polisi interim ar gyfer 2019/20 wrth iddi aros am ganlyniadau'r Adolygiad o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy. Yn dilyn yr adolygiad hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cadw'r polisi am gyfnod pellach o 5 mlynedd rhwng 2020/21 – 2024/25 gyda rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodir yn yr adroddiad. Y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) + 1% fyddai'n pennu'r codiad rhent blynyddol (cyfanswm yr amlen rent) ar gyfer pob un o'r 5 mlynedd, gan ddefnyddio lefel y CPI o fis Medi'r flwyddyn flaenorol. CPI + 1% fyddai'r cynnydd mwyaf a ganiateir mewn unrhyw flwyddyn ond ni ddylid ei ystyried yn gynnydd awtomatig i'w gymhwyso gan landlordiaid cymdeithasol a dylai eu penderfyniadau ar rent ystyried y fforddiadwyedd i denantiaid.

 

Wrth gymhwyso'r polisi hwnnw ar gyfer 2021/22, roedd Llywodraeth Cymru wedi hysbysu y gallai lefel y rhenti ar gyfer tenantiaid unigol gael ei lleihau neu ei rhewi neu godi hyd at £2 yn ychwanegol at y CPI+1% ar yr amod nad oedd cyfanswm yr incwm rhent a gasglwyd wedi cynyddu mwy na CPI +1%

 

Pe bai cynigion y gyllideb yn cael eu cymeradwyo, byddai gan Gyfrif Refeniw Tai 2021/22 lefel gwariant o £51m, gyda'r rhaglen gyfalaf yn £37.6m ar gyfer 2021/22, £37.4m ar gyfer 2022/23 a £30.6m ar gyfer 2023/24

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch canran Tenantiaid y Cyngor sy'n derbyn Budd-dal Tai, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod traean yn talu rhent llawn, traean yn talu rhent rhannol a'r traean arall yn derbyn budd-dal llawn. Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod pennu lefelau rhent yn weithred gydbwyso anodd rhwng sicrhau nad oedd codiadau'n cael effaith andwyol ar allu tenantiaid i dalu, a hynny gan ddarparu cyllid ar gyfer y rhaglen gyfalaf i wella cyflwr y stoc dai ac adeiladu cartrefi fforddiadwy ychwanegol.

·       Cyfeiriwyd at nifer y tenantiaid cyngor a oedd wedi trosglwyddo o fudd-dal tai i Gredyd Cynhwysol ac at yr effaith y gallai hynny fod wedi'i chael ar ôl-ddyledion rhent a sut yr oedd y trosglwyddiad hwnnw'n cael ei reoli.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Gweithredol dros Dai fod 1904 o denantiaid wedi trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol hyd yma, gan gynyddu 100 y mis ar gyfartaledd, a rhagwelir y byddai tua 3,500 yn trosglwyddo dros amser. Er bod ôl-ddyledion rhent cyfredol yn £1.5m, sy'n gynnydd o £50k o gymharu â'r un adeg y llynedd, roedd yn llai na'r disgwyl ac yn well nag o fewn awdurdodau lleol eraill. Gweithiodd y Cyngor hefyd gyda thenantiaid ar reoli eu trosglwyddiad a oedd yn cynnwys eu hannog i dalu rhent drwy ddebyd uniongyrchol.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y cynigion datgarboneiddio ar gyfer cartrefi'r Cyngor, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai y byddai math a natur y gwaith sydd i'w wneud yn amrywio o eiddo i eiddo yn dibynnu ar oedran a dyluniad a rhagwelwyd y gallai'r gwaith hwnnw arbed rhwng 60%-70% i denantiaid ar eu biliau ynni. Er y byddai cost y cynigion yn cael ei hariannu gan y Cyngor, drwy fenthyca ar gyfalaf, y gobaith oedd y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth grant tuag at y costau hynny.

·       Cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel mai dim ond i gartrefi sy'n eiddo i'r cyngor yr oedd y codiadau rhent a gynigiwyd yn yr adroddiad yn berthnasol. Ar gyfer y cartrefi hynny a reolir gan y Cyngor, ar ran landlordiaid eraill, byddai'r lefelau rhentu yn uwch.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL/CYNGOR:-

 

4.1

bod y rhent tai cyfartalog yn cael ei gynyddu yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru h.y.:-

·       Bod cynnydd o 1.27% yn cael ei wneud i renti eiddo sydd ar y targed

·       Bod cynnydd o 1.27% yn cael ei wneud i renti eiddo a oedd yn is na'r rhent targed ynghyd â chynnydd o £1 yr wythnos ar y mwyaf

·       Bod yr eiddo a oedd yn uwch na'r rhent targed yn cael eu rhewi hyd nes iddynt ddod yn unol â'r targed

gan arwain felly at gynnydd cyfartalog yn y rhent tai o 1.5% (CPI + 1%) neu £1.35, gan lunio Cynllun Busnes cynaliadwy, cynnal STSG+ a darparu adnoddau i'r Rhaglen Tai Fforddiadwy, fel y cefnogir gan Gr?p Llywio Safon Tai Sir Gaerfyrddin;

4.2

Cadw rhent garejis yn £9.00 yr wythnos a sylfeini garejis yn £2.25 yr wythnos;

4.3

Rhoi'r polisi ynghylch taliadau am wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid sy'n cael gwasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny;

4.4

Cynyddu'r taliadau am ddefnyddio gwaith trin carthffosiaeth y Cyngor, yn unol â'r cynnydd mewn rhenti;

4.5

Cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/24 (cyllidebau dangosol oedd rhai 2022/23 a 2023/24), fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad;

4.6

Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol ar gyfer 2021/22, a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer 2022/23 hyd 2023/24, fel y'u nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: