Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2021/22 TAN 2023/24.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 hyd at 2023/24 a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2021. Roedd yr adroddiad, a oedd yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2021/2022, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/2023 a 2023/2024, yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 22 Rhagfyr 2020. Roedd hefyd yn adlewyrchu cynigion presennol yr adrannau ar gyfer arbedion. Byddai'r effaith ar wariant adrannol yn dibynnu ar y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru a'r gyllideb derfynol ganlyniadol a fabwysiedir gan y Cyngor Sir.

 

Roedd y cynigion ynghylch y gyllideb, fel y'u cyflwynwyd yn yr adroddiad, yn golygu cyflawni'n llawn y cynigion o ran arbedion a gyflwynwyd, ynghyd â nodi a chyflawni'r diffyg yng nghynigion arbedion 2022-23 a 2023-24. Byddai angen nodi gostyngiadau pellach mewn costau ar gyfer blynyddoedd 2022/23 a 2023/24 er mwyn gallu cynnal y Strategaeth Gyllideb bresennol a lefel y dreth gyngor.

Tynnwyd sylw at y ffaith bod cydnabyddiaeth yn cael ei rhoi i bwysigrwydd hanfodol lleihau cynnydd y Dreth Gyngor i breswylwyr wrth gynnal cyllideb gytbwys yn y cyfnod digynsail a heriol hwn.

 

O ystyried maint y pwysau a'r bwlch a ragwelir yn y gyllideb, mae'r cynnydd yn y Dreth Gyngor wedi parhau ar y lefelau cynllun ariannol tymor canolig (MTFP) blaenorol o 4.89% ym mhob un o'r tair blynedd ariannol, sy'n cynnig rhywfaint o liniaru o leiaf ar y cynigion ar gyfer arbedion yr oedd angen i'r Cyngor eu hystyried.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch sut, wrth ystyried cynigion y gyllideb, y gellid osgoi peryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain pan oedd y setliadau yn cael eu derbyn mor hwyr, roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yn cydnabod bod hyn yn her a dyna pam y lluniodd y Cyngor ei hun gyllideb 3 blynedd fel y gellid rhagweld y sefyllfa debygol yn rhesymol o fewn y paramedrau a oedd ar gael o ran sut y dyrannodd llywodraeth Cymru a'r llywodraeth genedlaethol yr arian;

·       Mynegwyd pryder ynghylch effaith y pandemig ar gronfeydd wrth gefn ysgolion. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn parhau i weithio gyda'r 30% o ysgolion a oedd mewn diffyg ar hyn o bryd, ond eglurwyd bod y rhan fwyaf o'r gwariant ychwanegol gan ysgolion sy'n gysylltiedig â'r pandemig wedi'i ariannu gan yr hawliadau caledi a wnaed i Lywodraeth Cymru a rhagwelwyd y byddai hyn yn parhau hyd y gellir rhagweld;

·       O ran cronfeydd cyffredinol wrth gefn, a oedd yn darparu 'rhwyd ddiogelwch' ar gyfer amrywiadau annisgwyl mewn gwariant mewn unrhyw flwyddyn [e.e. llifogydd, covid] ac a oedd yn galluogi'r Cyngor i ymateb, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod 3% o'r gwariant net bob amser wedi cael ei ystyried yn lefel ddarbodus ac argymhellwyd bod hyn yn cael ei gadw;

·       Mewn ymateb i awgrym y dylid lleihau'r Dreth Gyngor arfaethedig ymhellach na'r hyn a argymhellwyd gan ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i helpu trethdalwyr ar yr adeg anodd hon, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y byddai hyn yn ddefnydd annoeth o gronfeydd wrth gefn am y rhesymau a amlinellwyd yn gynharach - yr angen i'w cadw ar gyfer amrywiadau annisgwyl – a hefyd yr effaith debygol ar breswylwyr y flwyddyn ganlynol o ran gorfod adennill y dreth a gollwyd. Dywedwyd wrth y Pwyllgor, yn unol â'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb, pe bai'n dymuno argymell lleihad yn y Dreth Gyngor nad oedd yn effeithio ar gronfeydd wrth gefn, y dylai ystyried y gyllideb arfaethedig a'r meysydd hynny lle byddai'n argymell y gellid lleihau gwariant. Fel arall, roedd yr arbedion effeithlonrwydd sylweddol, a gyflwynwyd yn yr adroddiad, eisoes wedi'u gohirio tan y flwyddyn ganlynol a gallai'r Pwyllgor fynegi'r farn y dylai rhai o'r rhain gael eu dwyn ymlaen.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r Crynhoad Taliadau.

 

Dogfennau ategol: