Agenda item

CAIS AM ADOLYGU TRWYDDED SAFLE SANTA CLARA, SAN CLER, CAERFYRDDIN, SIR GAR SA33 4EE.

Cofnodion:

 Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y wybodaeth ddiweddaraf i bawb a oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a oedd wedi'i drefnu i ystyried cais gan yr Arweinydd Trwyddedu ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin am Adolygu'r drwydded safle mewn perthynas â thafarn y Santa Clara, Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, yn dilyn ymweliad â'r safle gan yr Heddlu ac un o Swyddogion Safonau Masnach y Cyngor ar 8 Hydref 2020, pryd y nodwyd diffyg rheolaeth a threfn ar y safle.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A - Copi o'r cais am adolygiad a dogfennau atodol;

Atodiad B – Sylwadau Heddlu Dyfed-Powys;

Atodiad C - Sylwadau Safonau Masnach;

Atodiad D – Sylwadau eraill.

 

Gwyliodd yr Is-bwyllgor hefyd ffilm camera corff o'r ymweliad â'r safle gan yr Heddlu a'r Swyddog Safonau Masnach ar 8 Hydref 2020, a thynnwyd sylw'r aelodau at y ffotograffau llonydd oedd wedi'u dosbarthu'n flaenorol o'r ffilm camera, ynghyd â datganiad ychwanegol gan Anwen Davies.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd Trwyddedu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel roeddent wedi'u nodi yn Atodiad A i'r adroddiad, ac amlinellu i'r Is-bwyllgor y digwyddiadau a arweiniodd at gyflwyno'r cais am adolygiad, sef yr ail gais o'i fath oedd wedi'i gyflwyno ar gyfer y safle hwn. Roedd yr adolygiad cyntaf wedi cael ei ystyried gan Is-bwyllgor Trwyddedu'r Cyngor ar 18 Awst 2020, lle'r oedd nifer o amodau ychwanegol wedi'u gosod ar gyfer gweithredu'r safle ac ar Oruchwylydd Penodedig y Safle (DPS). Amlinellodd y methiannau a nodwyd yn ystod yr ymweliad ar 8 Hydref, yn ogystal â thorri amodau presennol y drwydded, a ddangosai nad oedd y safle'n cael ei reoli'n ddigonol o hyd gan naill ai'r DPS neu'r deiliaid trwydded safle, neu fod y bobl hyn heb fod yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif. Barnwyd y byddai unrhyw amodau trwydded ychwanegol, neu waredu'r DPS, yn annhebygol o gael unrhyw effaith ar weithrediad y safle, ac felly roedd yr Awdurdod Trwyddedu o'r gred bod dirymu'r drwydded yn ymateb addas a chymesur i'r diffyg rheolaeth a threfn priodol ar y safle.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi'r Arweinydd Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel roeddent wedi'u nodi yn Atodiad B i'r adroddiad, ac amlinellu i'r Is-bwyllgor hanes diweddar gweithrediad y safle ynghyd â'r digwyddiadau a welwyd ar 8 Hydref gan un o swyddogion yr heddlu a swyddog safonau masnach, fel y gwyliwyd ar y ffilm. Gan mai hwn oedd yr ail gais am adolygiad yn sgil methiannau rheoli difrifol yn y safle o fewn chwe mis, roedd yr Heddlu o'r farn ei bod yn gywir ac yn gymesur i ddirymu'r drwydded safle oherwydd y diffyg rheolaeth a threfn priodol.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd y Safonau Masnach at ei sylwadau ysgrifenedig, fel roeddent wedi'u nodi yn Atodiad C i'r adroddiad, ynghylch gweithrediad tafarn y Santa Clara, a chefnogodd y sylwadau uchod dros ddirymu'r drwydded safle fel ymateb addas a chymesur i'r diffyg rheolaeth a threfn priodol ar y safle.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd y Safonau Masnach ynghylch ei sylwadau.

 

Ar ôl gwneud sylw ar y cais am adolygiad, datganodd y Cynghorydd Tyssul Evans ei gefnogaeth dros ddirymu'r drwydded a mynegodd ei siom yngl?n â'r ffordd roedd y safle'n cael ei reoli, a'i gonsyrn ynghylch effaith bosibl hynny ar iechyd y cyhoedd yn ystod y pandemig presennol.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i'r Cynghorydd Evans ynghylch ei sylwadau.

 

Mewn ymateb i'r sylwadau a wnaethpwyd, dywedodd Mr Reynolds, deiliad trwydded tafarn y Santa Clara, wrth yr Is-bwyllgor er mai ef oedd perchen y safle, cyfrifoldeb Mr Pearce, y DPS, a Mr Pearce yn unig, oedd rheoli'r safle o ddydd i ddydd a'r ddau ddigwyddiad dan sylw, a oedd wedi arwain at y ddau gais am adolygiad. Roedd wedi ymweld â'r safle gyda'r hwyr ar 8 Hydref ac wedi sylwi fod pawb yn cadw pellter cymdeithasol ac yn gwisgo gorchudd wyneb yn y modd priodol. Roedd wedi dweud wrth Mr Pearce am gofio'n ddiweddarach y noson honno fod cyfrifoldeb arno i'r perwyl hwnnw, oherwydd byddai'r dafarn yn fwy prysur gan fod gêm bêl-droed ar y teledu.

 

Amlinellodd rôl bwysig y dafarn yn y gymuned a chyfeiriodd at y llu o fudiadau, clybiau, ac elusennau roedd y dafarn wedi'u cefnogi yn ystod y 52 o flynyddoedd y bu yn nwylo ei deulu. Yn dilyn y digwyddiad ym mis Hydref, roedd pedwar ymweliad dilynol gan yr Heddlu a Swyddogion Trwyddedu heb ddatgelu unrhyw broblemau pellach ar y safle. Roedd wedi gosod system camerâu teledu cylch cyfyng, yn ôl gofynion yr Heddlu, a oedd wedi costio £3k (gallai fonitro pethau wedyn ar ei ffôn symudol) ac roedd yn barod i dderbyn unrhyw ofynion pellach gan yr Heddlu neu'r awdurdod trwyddedu o ran gweithrediad y safle. Gofynnodd i'r Is-bwyllgor gofio nad oedd dim problemau wedi codi cyn hyn yn ystod y 52 o flynyddoedd roedd y dafarn wedi bod ym mherchnogaeth ei deulu, a gofynnodd i'r aelodau beidio â dirymu'r drwydded.

 

Rhoddwyd cyfle i bawb oedd yn bresennol ofyn cwestiynau i Mr Reynolds, deiliad y drwydded.

 

Ar hynny bu i'r Is-bwyllgor

 

BENDERFYNU'N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a'r Swyddfa Gartref, a'r rheiny y cyfeiriwyd atynt gan yr awdurdodau cyfrifol. Yn benodol, rhoddodd yr Is-bwyllgor sylw i baragraffau 11.21, 11.22 ac 11.28 yn y cyfarwyddyd statudol oedd yn ymwneud ag adolygu trwyddedau safle.

 

PENDERFYNODD YR IS-BWYLLGOR YMHELLACH, o ystyried yr holl dystiolaeth ger ei fron, y dylid dirymu'r Drwydded Safle ar gyfer tafarn y Santa Clara.

RHESYMAU

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

  1. Ar 18 Awst 2020 adolygwyd Trwydded Safle'r Santa Clara oherwydd troseddau a gyflawnwyd gan y DPS, Richard Pearce, yn groes i'r Rheoliadau Coronafeirws a oedd mewn grym bryd hynny.
  2. Arweiniodd yr adolygiad hwn at ychwanegu amodau at y drwydded safle, a chytunodd y deiliad trwydded safle, Mr Reynolds, i hynny. Bwriad yr amodau ychwanegol oedd gwella'r ffordd roedd y safle'n cael ei reoli gan Mr Pearce a Mr Reynolds, er mwyn hyrwyddo'r amcan atal troseddu.
  3. Ar 8 Hydref 2020, ymwelodd swyddogion â'r safle a nodi bod y troseddau canlynol yn cael eu cyflawni.

(a)  Roedd y safle ar agor mewn modd a oedd yn mynd yn groes i amodau'r drwydded a osodwyd ar 18 Awst (Adran 136 o Ddeddf Trwyddedu 2003)

(b)  Torri Rheoliadau 12B, ac 14 o'r Rheoliadau Coronafeirws oedd mewn grym bryd hynny ynghylch cadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb. 

  1. Roedd Mr Pearce (DPS) yn bresennol ar y pryd ac roedd ef ei hun yn cyflawni'r troseddau hyn, yn ogystal â helpu ac ategu pobl eraill i wneud hynny drwy beidio ag arfer ei awdurdod fel DPS i orfodi ei gwsmeriaid i gydymffurfio.
  2. Pan gafodd ei herio gan swyddogion dywedodd Mr Pearce ei bod hi'n 'anodd rheoli'r holl stwff COVID pan oedd y pêl-droed ymlaen’
  3. Ym mis Awst 2020 defnyddiwyd y safle i weithredu loteri anghyfreithlon ddidrwydded
  4. Nid oedd Mr Reynolds yn bresennol ar y safle ar 18 Awst na 8 Hydref pan oedd swyddogion yn bresennol
  5. Mr Pearce yw tenant y safle a'r DPS. Fodd bynnag, nid oes cytundeb prydles na thenantiaeth ysgrifenedig mewn grym.
  6. Nid oes dim hanes o droseddau nac anhrefn ar y safle.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol ac yn nodi'n benodol fod yr Awdurdod Trwyddedu, yr Heddlu a Safonau Masnach o'r farn ei bod yn addas ac yn gymesur i ddirymu'r Drwydded Safle er mwyn hyrwyddo'r amcan atal troseddu.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallant roi ystyriaeth briodol iddynt.

 

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a osodwyd ger ei fron, roedd yr Is-bwyllgor wedi penderfynu bod y modd roedd Mr Pearce yn rheoli'r safle yn tanseilio'n uniongyrchol yr amcan trwyddedu o atal troseddau ac anhrefn, o ganlyniad i gyflawni troseddau o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a'r Rheoliadau Coronafeirws gan Mr Pearce a'i gwsmeriaid. Penderfynodd yr Is-bwyllgor ymhellach fod methiant Mr Reynolds fel deiliad Trwydded Safle i sicrhau bod y safle'n cael ei redeg yn briodol hefyd yn tanseilio'r amcan hwnnw ac wedi cyfrannu at gyflawni'r troseddau hynny.

 

Nid oedd gan yr Is-bwyllgor unrhyw ffydd y byddai Mr Pearce yn cyflawni ei rôl fel DPS yn briodol ac yn rhedeg y safle yn unol â'r gyfraith.  Roedd hefyd o'r farn nad oedd Mr Reynolds yn debygol o allu sicrhau bod y safle, yr oedd yn gyfrifol amdano fel deiliad trwydded safle, yn cael ei redeg yn briodol ac yn unol â'r gyfraith.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y dewisiadau eraill canlynol yn hytrach na dirymu'r drwydded, ac o'r farn na fyddent yn ddigonol i hyrwyddo'r amcan atal troseddu am y rhesymau canlynol

 

  1. Ychwanegu amodau pellach at y drwydded – ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth i'r Is-bwyllgor y byddai unrhyw amodau trwydded ychwanegol penodol yn gamau gweithredu priodol i hyrwyddo'r amcan atal troseddu
  2. Gwaredu Mr Pearce fel DPS – Byddai hyn yn golygu byddai angen penodi DPS newydd. Fodd bynnag, byddai Mr Pearce yn dal i reoli'r safle o ddydd i ddydd ac nid oes rheidrwydd ar y DPS i fod yn bresennol ar safle pan mae ar agor. Felly nid yw'r Is-bwyllgor yn credu y byddai hyn yn effeithiol oni bai bod y DPS newydd wir yn rheoli'r safle o ddydd i ddydd
  3. Atal y drwydded dros dro -Mae'r safle ar gau ar hyn o bryd oherwydd y pandemig Coronafeirws. Mae'r Is-bwyllgor o'r farn felly na fyddai atal y drwydded safle dros dro yn gwneud dim i hyrwyddo'r amcan atal troseddu.

 

Felly, mae'r Is-bwyllgor o'r farn mai'r unig opsiynau sy'n agored iddo yw gwneud dim neu ddirymu'r drwydded safle. Credai'r Is-bwyllgor y byddai gwneud dim yn fethiant ar ei ran i hyrwyddo'r amcan trwyddedu o atal troseddau ac anhrefn. O'r herwydd ni fyddai'n ymateb priodol i'r hyn oedd wedi digwydd

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn sylweddoli bod dirymu'r drwydded safle yn gam sylweddol ac nid oedd yn un roedd yn ei gymryd ar chwarae bach. Fodd bynnag, o ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo yngl?n â'r troseddau oedd wedi'u cyflawni ar y safle, yr oedd pob un ohonynt yn uniongyrchol gysylltiedig â rheolaeth wael ar y safle gan y DPS a'r deiliad trwydded safle, mae'r Is-bwyllgor yn teimlo bod dirymu'r drwydded yn rhywbeth mae'n rhaid iddo roi ystyriaeth ddifrifol iddo.

 

O ystyried y canfyddiadau a amlinellwyd uchod na fyddai'r camau gweithredu eraill yn hyrwyddo'r amcan trwyddedu o atal troseddau ac anhrefn, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod dirymu'r drwydded safle yn yr achos hwn yn gam priodol i hyrwyddo'r amcan trwyddedu o atal troseddau ac anhrefn, ac yn ymateb cymesur i'r problemau a nodwyd yn ystod y gwrandawiad.

 

Dogfennau ategol: