Agenda item

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I NEWID NATUR Y DDARPARIAETH YN YSGOL GYNRADD WIRFODDOL A GYNORTHWYIR Y MODEL.

Cofnodion:

[NODER: Gan fod Mr A. Enoch a'r Parch D. Richards wedi datgan buddiant rhagfarnol yn y mater hwn yn gynharach, bu iddynt adael y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir y Model.

 

Yn unol â Chynlluniau Strategol Llywodraeth Cymru, lansiodd yr Awdurdod Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin a'i weledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin ddwyieithog. Er mwyn cyflawni hyn bydd yr Awdurdod yn sicrhau twf sylweddol mewn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i gynyddu nifer y plant a phobl ifanc sy’n dod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac sydd â’r gallu i ddefnyddio’r ieithoedd yn hyderus gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle.

 

Gan gofio hyn, mae gan yr Awdurdod Lleol gyfrifoldeb i ddarparu'r addysg a'r cyfleoedd gorau posibl i'w gymunedau ac mae'n credu y gellir cyflawni hyn drwy amcanion penodol. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwbl gefnogol i'r nod bod yr holl ddisgyblion yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu’n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 a bydd yn darparu gwasanaethau a fydd yn sicrhau cyfleoedd dysgu o ansawdd da ar gyfer holl blant, pobl ifanc ac oedolion Sir Gaerfyrddin, a thrwy
hynny’n eu galluogi i wireddu eu llawn botensial fel dysgwyr gydol oes yng nghyd-destun natur ddwyieithog unigryw’r Sir.

 

Er mwyn cefnogi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin a pholisïau cenedlaethol o ran symud ysgolion y sir ar hyd continwwm y Gymraeg, cynygir nodi natur y ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir y Model.  Cynigir y bydd natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn newid i addysg cyfrwng Cymraeg o 1 Medi 2022. Bydd hyn ond yn effeithio ar ddisgyblion sy'n dechrau yn y Cyfnod Sylfaen yn yr ysgol o fis Medi 2022 ymlaen.  Ni fydd yn effeithio ar ddisgyblion presennol sy'n mynychu'r ysgol.

 

Oherwydd y bydd dysgwyr yn cael addysg cyfrwng Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen, gydag amser byddai hyn yn golygu y bydd angen sefydlu Ffrwd Gymraeg yng Nghyfnod Allweddol 2 er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau. Byddai hyn yn cael ei adolygu yn unol â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Pwysleisiwyd pwysigrwydd mynd â phobl gyda ni os ydym am i'r continwwm iaith weithio a gofynnwyd i'r swyddogion a oedd modd ymestyn y cyfnod ymgynghori yng ngoleuni'r pryderon a fynegwyd.  Eglurodd y Pennaeth Mynediad i Addysg nad oedd yn bosibl ymgynghori heb gymeradwyaeth y Bwrdd Gweithredol a cheisiodd yr adroddiad hwn gymeradwyaeth y Pwyllgor i argymell i'r Bwrdd Gweithredol y dylid dechrau ar broses ymgynghori ffurfiol;

·       Cyfeiriwyd at yr angen i ymgynghori â rhieni a'u cynnwys yn gynnar yn y broses;

·       O ran y rhieni hynny y bydd unrhyw newidiadau yn y ddarpariaeth yn effeithio arnynt gyntaf, gofynnwyd i'r swyddogion a fyddai modd cysylltu â rhieni plant sy'n mynychu meithrinfeydd lle mae plant yn symud ymlaen i'r ysgol dan sylw. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1      bod y cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir y Model, fel y manylir arno yn yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo;

6.2       argymell i'r Bwrdd Gweithredol y dylid dechrau ar broses ymgynghori ffurfiol.

 

[SYLWER: Am 12.55pm cyn ystyried yr eitem nesaf, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o Weithdrefn y Cyngor - Hyd y cyfarfod - ac, oherwydd bod y cyfarfod eisoes wedi bod yn mynd rhagddo ers bron tair awr, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y rheolau sefydlog er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gwblhau'r gwaith a oedd yn weddill ar yr agenda.]

 

 

Dogfennau ategol: