Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2021/22 TAN 2023/24

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 hyd at 2023/24 a oedd wedi cael ei hystyried gan y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2021.  Nodwyd hefyd fod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori ar y gyllideb yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.

 

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2021/22, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2023/24.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl.

 

·         Atodiad A - Strategaeth Cyllideb Gorfforaethol 2021/22 - 2023/24

·         Atodiad (i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad (ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol grynodeb o'r adroddiad.  Dywedodd mai 3.8% oedd y cynnydd yn y setliad dros dro a bod y Cyllid Allanol Cyfun (AEF) wedi cynyddu i £284.820 miliwn yn 2021/22. Roedd hyn yn cynnwys £244k mewn perthynas â chyflog Athrawon.

 

Roedd grant y gweithlu gofal cymdeithasol wedi cynyddu o £40m i £50 miliwn ledled Cymru.  Amcangyfrifwyd bod y cynnydd yn £600k ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod llythyr y Gweinidog a oedd yn cyd-fynd â'r setliad dros dro yn nodi y dylai Awdurdodau Lleol dalu unrhyw ddyfarniadau cyflog yn y dyfodol o'u cyllidebau.  Dywedwyd hefyd er bod £500K wedi'i neilltuo yn y gyllideb yn benodol ar gyfer gwasanaethau Iechyd Meddwl, dywedwyd y byddai'n anodd rhagweld y galw.

 

Oherwydd oedi gyda ffigurau'r setliad, ni fyddai'r setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan 2 Mawrth.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·         Oherwydd pryderon ynghylch Iechyd Meddwl, gofynnwyd a oedd unrhyw gynllunio wedi'i wneud ar gyfer y cyfnod ar ôl Covid ac a oedd trafodaethau wedi'u cynnal gyda gwasanaethau statudol eraill a'r trydydd sector.   Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y timau iechyd meddwl cymunedol wedi'u hintegreiddio'n llawn a bod seilwaith clir o ran gweithio wedi'i sefydlu drwy gydol y pandemig.  Roedd gweithgorau penodol ar waith yn edrych ar y ffordd ymlaen a byddent yn llywio newidiadau i'r gwasanaethau comisiynu gan sicrhau y gellid diwallu'r angen.  Dywedwyd nad oedd y trawsnewid mewn rhaglenni iechyd meddwl wedi dod i ben ond roedd cydnabyddiaeth bod y gofynion yn wahanol oherwydd y pandemig.

·         Gofynnwyd pa effaith allai Brexit ei chael ar y Strategaeth.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol ei bod yn rhy gynnar i fesur hyn ond y byddai effaith ar symud nwyddau yn ddirwystr a chynnydd pellach posibl mewn lefelau chwyddiant.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

4.1

Bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 – 2023/24 yn cael ei dderbyn;

4.2

Bod y Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, fel y manylir yn Atodiad C i'r adroddiad, yn cael ei dderbyn.

 

Dogfennau ategol: