Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2020/21

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2020, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020/21.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £933k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai -£157k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2020/21.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·         Mewn ymateb i'r defnydd o'r amrywiant cyfalaf o £157k, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol nad oedd hyn yn anarferol a chadarnhaodd nad oedd unrhyw bryderon cyfrifyddu o ran hynny. 

·         Mynegwyd pryder y byddai'r gorwariant wedi bod yn uwch pe na bai rhai gwasanaethau wedi cau.  Dywedwyd bod amgylchiadau anodd, yn anffodus, wedi cyfrannu at effaith gadarnhaol ar y gyllideb ac wrth i wasanaethau ddychwelyd byddai'n rhaid monitro hyn yn ofalus.

·         Gofynnwyd a fyddai gweithwyr cartrefi gofal yn derbyn ail daliad gan Lywodraeth Cymru.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai penderfyniad Llywodraeth Cymru oedd taliadau yn y dyfodol ond y byddai'r cwestiwn yn cael ei ofyn drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. 

·         Dywedwyd y cafwyd cwynion bod rhai wedi bod yn gymwys i gael y taliad gofalwyr er mai dim ond awr yr oeddent wedi gweithio.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y meini prawf cymhwysedd o ran derbyn y taliad wedi cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru. 

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch ystyr y term 'rightsizing' yn yr adroddiad.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod hyn yn sicrhau bod y pecynnau gofal a'r cymorth a ddarperir ar y lefel gywir.

·         Mynegwyd pryder ynghylch argaeledd cyllid i ateb y galw cynyddol am wasanaethau Iechyd Meddwl.  Dywedwyd bod y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn monitro'r sefyllfa'n ofalus er mwyn sicrhau bod cyllid yn cael ei ddyrannu i'r meysydd cyllideb cywir i wasanaethu'r galw cynyddol.

·         Mynegwyd pryder ynghylch y swyddi gwag yn y tîm Therapi Galwedigaethol a lefelau staffio yn gyffredinol.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai ychydig iawn o swyddi gwag oedd ar gael a bod dwy swydd wag yn y tîm Therapi Galwedigaethol wedi'u llenwi'n ddiweddar.  Dywedwyd hefyd, pan ddangosir tanwariant ar ddechrau'r flwyddyn, y byddai'n aros am weddill y flwyddyn ariannol gan nad oes ôl-daliad yn deillio o gost cyflog.  Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p y gellid cynnwys gwybodaeth ychwanegol yn yr adroddiad i egluro'r sefyllfa.

·         Dywedwyd mai dyma'r amser i edrych ar lunio strategaeth i ddatblygu'r gweithlu.  Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod yr Adran Cymunedau eisoes yn datblygu strategaeth a bod rhaglenni amrywiol ar waith yn rhoi cyfleoedd i brentisiaid ennill cymwysterau wrth weithio.  Roedd yr adran hefyd yn awyddus i gysylltu ag amrywiol golegau i ddatblygu cyrsiau newydd.  Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd y byddai Pentre Awel hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ar y safle.

·         Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf am Gwm Aur a chyflawniad rhannol y cynlluniau arbed.  Dywedwyd nad oedd costau wedi cynyddu ac ar adeg pennu'r contract roedd arbedion posibl wedi'u nodi ond nad oeddent wedi'u cyflawni ond bod hyn yn cael ei gynnwys ar y cynllun gwaith i'w gyflawni.

·         Gofynnwyd faint o leoliadau y tu allan i'r Sir oedd gan yr Awdurdod.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig mai ychydig iawn o leoliadau oedd y tu allan i'r Sir ond nad oedd ganddi'r union ffigurau wrth law, ond y byddai'n cadarnhau'n ddiweddarach.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

Dogfennau ategol: