Agenda item

PAFILIWN PEN-Y-GROES

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu cynnwys yr adroddiad gan y byddai datgelu yn rhoi'r awdurdod o dan anfantais faterol mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon a gallai gael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.

 

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ynghylch gosod Pafiliwn Pen-y-groes i ddarparu caffi cymunedol a chyfleusterau cysylltiedig.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn ymrwymo i gytundeb prydles â Menter Cwm Gwendraeth Elli i ddefnyddio Pafiliwn Pen-y-groes at ddibenion darparu caffi cymunedol a chyfleusterau cysylltiedig.

Dogfennau ategol: