Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2020, o ran 2020/2021. Roedd y sefyllfa gyllidebol yn cydnabod y pwysau ychwanegol sylweddol a roddwyd ar yr Awdurdod wrth ymateb i bandemig Covid-19. 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £1,226k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £2,426k ar lefel adrannol.  Nododd y Bwrdd Gweithredol fod y sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen yn deillio o gyfuniad o gostau ychwanegol na ellid eu hadennill o ganlyniad i weithgarwch Covid-19, incwm a ildiwyd o ran gwasanaethau a oedd wedi cau yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ac a oedd yn parhau i gael llai o refeniw, na chaiff ei ad-dalu'n llawn o bosibl gan Lywodraeth Cymru, a chynigion arbedion arfaethedig a oedd naill ai wedi cael eu lleihau neu eu gohirio oherwydd y pandemig neu nad oedd modd eu cyflawni o bosib oherwydd gweithrediadau gwasanaethau presennol.

Roedd yr Awdurdod yn parhau i gyflwyno hawliad caledi misol i Lywodraeth Cymru am wariant Covid-19 ychwanegol. Er bod y rhan fwyaf o'r costau'n cael eu had-dalu, roedd rhai'n cael eu hystyried yn anghymwys, yn enwedig y rheiny sy'n gysylltiedig â phenderfyniadau lleol.

Yng ngoleuni'r gorwariant sylweddol a ragwelwyd ar lefel adrannol, gofynnwyd i Brif Swyddogion a Phenaethiaid Gwasanaeth adolygu'r opsiynau a oedd ar gael iddynt yn feirniadol i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod y pwysau yr oedd Covid-19 wedi'u rhoi ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd R. James wedi gofyn am ganiatâd yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 11.1 i ofyn cwestiwn mewn perthynas â'r eitem hon.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd James at y cynnig yn y gyllideb ddrafft i arbed tua £1m yn y rhaglen rhesymoli ysgolion a gofynnodd pryd y byddai mwy o fanylion am ddyfodol y ddarpariaeth addysg yn Sir Gaerfyrddin ar gael.

 

Ymatebodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau drwy ddweud bod yr adroddiad gerbron y Bwrdd yn ymwneud â chyllideb y flwyddyn gyfredol a bod y gyllideb ddrafft yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd a byddai aelodau'n cael cyfle i godi materion fel yr uchod yn ystod y cyfnod ymgynghori hwnnw. Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod nifer o gynlluniau'n cael eu harchwilio a oedd yn cynnwys buddsoddi mewn adeiladau ysgolion ledled y sir. Ymhlith y cynigion sy'n rhan o'r ymgynghoriad ar y gyllideb ar hyn o bryd roedd adolygiad o ôl troed ysgolion cynradd y sir a buddsoddiad mewn darparu darpariaeth addysg fwy cynaliadwy.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

7.1     Derbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a rhoi ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol.

7.2   Bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'r opsiynau sydd ar gael iddynt yn feirniadol i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod y pwysau y mae Covid-19 wedi'u rhoi ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod.

 

Dogfennau ategol: