Agenda item

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO

Cofnodion:

PENDERFYNWYD

4.1

bod cais cynllunio W/40091 yn cael ei ganiatáu yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio i'w wrthod ar y sail bod y Pwyllgor yn ystyried:

 

a)    Bod Cyfiawnhad Menter Wledig dros yr annedd yn seiliedig ar y lefelau stoc presennol, maint cyffredinol erwau'r fferm a graddfa gwaith y fferm.

 

b)    O ran lleoliad y datblygiad, nid oedd unrhyw adeilad priodol arall ar iard y fferm. Roedd gan Bolisi H5 y CDLl ragdybiaeth yn erbyn troi'r adeiladau gwledig sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gwaith yn breswylfa. Roedd yn amhriodol adeiladu estyniad/rhandy ar gyfer y ffermdy presennol oherwydd byddai'n edrych dros eiddo cyfagos a byddai unrhyw ddatblygiad i ochr chwith adeiladau'r fferm yn atal datblygiad fferm yn yr ardal honno yn y dyfodol.

 

c)    Bod y cais yn cydymffurfio â darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mewn perthynas â chenedlaethau'n parhau i ffermio.

 

4.2

Bod caniatâd yn cael ei roi yn amodol ar yr amod bod yr annedd newydd arfaethedig yn cael ei hystyried yn Annedd Menter Wledig ac ynghlwm wrth adeiladau'r fferm i'w hatal rhag cael ei gwerthu yn y dyfodol fel endid ar wahân i'r fferm

4.3

Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Cynllunio i ychwanegu amodau priodol ychwanegol at y caniatâd cynllunio er mwyn cynnwys y gofyniad i ddarparu llain welededd wrth fynedfa'r safle ar gyfer diogelwch priffyrdd

 

W/40091

Annedd menter wledig ar dir yn Llwynonnill Fawr, Heol Llanddarog, Llanddarog, SA32 8AL

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod lleol i gefnogi'r cais ar y sail bod yr ymgeiswyr wedi bod yn ffermio ers rhyw 40 mlynedd ac roeddent bellach am symud i'r annedd arfaethedig i sicrhau dilyniant teuluol er mwyn i un o'u meibion symud i'r ffermdy presennol i helpu gyda gwaith y fferm. Roedd ganddynt 1300 o ddefaid ar y fferm 90 hectar (roeddent yn berchen arno) a 20 hectar (roeddent yn ei rentu) a'r bwriad oedd arallgyfeirio i wartheg bîff. Roedd y fferm hefyd yn gweithredu busnes gwellt a gwair. Gan fod holl adeiladau presennol y fferm yn cael eu defnyddio ac nad oeddent ar gael i'w haddasu'n annedd, dadleuwyd bod y cais yn cydymffurfio â Pholisi H5 Cynllun Datblygu Lleol Caerfyrddin ac mai bwriad y Polisi Gwledig oedd hyrwyddo gofynion ffermio.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at adroddiad y Pennaeth Cynllunio yn manylu ar y rhesymau dros argymell gwrthod cais W/40091 ar y sail bod y cynnig yn groes i Bolisïau GP1 a GP2 y Cynllun Datblygu Lleol. Er y rhoddwyd ystyriaeth i'r rhesymau hynny dros wrthod y cais, roedd y Pwyllgor o'r farn y dylid caniatáu'r cais, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, oherwydd teimlwyd:-

 

1.     Bod Cyfiawnhad Menter Wledig dros yr annedd yn seiliedig ar y lefelau stoc presennol, maint cyffredinol erwau'r fferm a graddfa gwaith y fferm.

2.     O ran lleoliad y datblygiad, nid oedd unrhyw adeilad priodol arall ar iard y fferm. Roedd gan Bolisi H5 y CDLl ragdybiaeth yn erbyn troi'r adeiladau gwledig sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gwaith yn breswylfa. Roedd yn amhriodol adeiladu estyniad/rhandy ar gyfer y ffermdy presennol oherwydd byddai'n edrych dros eiddo cyfagos a byddai unrhyw ddatblygiad i ochr chwith adeiladau'r fferm yn atal datblygiad fferm yn yr ardal honno yn y dyfodol.

3.     Bod y cais yn cydymffurfio â darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mewn perthynas â chenedlaethau'n parhau i ffermio

 

Roedd y Pwyllgor hefyd o'r farn, pe bai'r cais yn cael ei ganiatáu, y dylid ystyried yr annedd newydd arfaethedig yn Annedd Menter Wledig ac ynghlwm wrth adeiladau'r fferm i'w hatal rhag cael ei gwerthu yn y dyfodol fel endid ar wahân i'r fferm. Byddai amod hefyd yn cael ei osod i ddarparu llain welededd wrth fynedfa'r safle ar gyfer diogelwch priffyrdd.

 

Ymatebodd swyddogion i'r materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: