Agenda item

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI 2021/22 - 2023/24 A LEFELAU RHENTI TAI 2021/22 REFENIW A CHYFALAF

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd H. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi)

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau a oedd yn dod ynghyd â'r cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2021/22 i 2023/24. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 2 Chwefror 2021, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith wedi'i wneud), wedi darparu'r buddsoddiad i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wedi parhau i fuddsoddi yn Ymrwymiad i Dai Fforddiadwy'r Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod buddsoddiad cyfalaf o tua £231m wedi darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin i denantiaid ac, yn fwy diweddar, hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol, byddai £64m pellach wedi cael ei wario ar gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer eiddo a thenantiaid.  Dros y 3 blynedd nesaf rhagwelwyd y byddai tua £56m pellach yn cael ei wario ar gynnal a gwella ein stoc tai. Roedd y gyllideb hefyd yn darparu cyllid o tua £49m dros y 3 blynedd nesaf i gefnogi'r Rhaglen Tai Fforddiadwy, ar ben y gwariant presennol o £45m hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol hon. Byddai'r Strategaeth hefyd yn cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy ledled y sir, a hynny drwy wahanol atebion gan gynnwys ein rhaglen adeiladau newydd (fel Teras Glanmor, Porth Tywyn a Dylan, y Bynea) a'r cynllun prynu'n ôl.

 

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol, ers 2015, ei fod yn ofynnol i'r Awdurdod fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a oedd yn golygu bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o'r rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol.  Er i'r polisi hwnnw ddod i ben yn 2018/19, a bod polisi interim wedi'i roi ar waith ar gyfer 2019/20, roedd Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisi newydd i'w weithredu  yn 2020/21 am gyfnod o 5 mlynedd o 2020/21, a oedd yn cynnwys rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Roedd prif elfennau'r polisi hwnnw'n caniatáu i Awdurdodau Lleol gynyddu cyfanswm y rhent gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) +1% ar gyfer pob un o'r pum mlynedd hyd at 2024/25. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi o hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a gasglwyd gan y landlord cymdeithasol yn fwy na CPI+1%.

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

 

8.1

Bod y rhent tai cyfartalog yn cael ei gynyddu yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru h.y:-

a)    Bod cynnydd o 1.27% yn cael ei wneud i renti eiddo sydd ar y targed

b)    Bod eiddo lle mae'r rhent yn is na'r rhenti targed yn cynyddu gan 1.27% yn ogystal â'r cynnydd mwyaf posibl o £1.00

c)    Bod rhenti a oedd yn uwch na'r rhent targed yn cael eu rhewi hyd nes iddynt ddod yn unol â'r targed

d)    Bydd hyn yn arwain at gynnydd o 1.5% neu £1.35 o ran y rhent tai cyfartalog

 

Gan arwain felly at Gynllun Busnes cynaliadwy, cynnal STSG+, darparu adnoddau ar gyfer ein rhaglen Tai Fforddiadwy ac fe'i cefnogir gan Gr?p Llywio STSG+.

8.2

Gweithredu'r cynnydd mwyaf posibl o £1.00 ar gyfer rhenti sy'n is na'r rhenti targed, hyd nes y cyrhaeddir y rhenti targed;

8.3

Cadw rhent garejis yn £9.00 yr wythnos a sylfeini garejis yn £2.25 yr wythnos;

8.4

Rhoi'r Polisi ynghylch Taliadau am Wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid sy'n cael gwasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny;

8.5

Cynyddu'r taliadau am ddefnyddio gwaith trin carthffosiaeth y Cyngor, yn unol â'r cynnydd mewn rhenti;

8.6

Cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai am 2021/22 (cyllidebau dangosol oedd rhai 2022/23 a 2023/24), fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad;

8.7

Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol am 2021/22, a'r gwariant mynegiannol ar gyfer 2022/23 hyd at 2023/24, fel y'u nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: