Agenda item

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2021/22 - 2025/26

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf am Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2021/22 hyd at 2025/2026. Roedd yr adroddiad yn cymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen gyfalaf.

 

Nododd y Bwrdd mai £258m oedd gwariant gros arfaethedig y rhaglen gyfalaf dros gyfnod o bum mlynedd, a'r bwriad oedd i'r Cyngor Sir gyllido £122.5m o'i adnoddau ei hun drwy ddefnyddio benthyciadau, derbyniadau cyfalaf, arian wrth gefn, a'r grant cyfalaf cyffredinol, a bod y £135m oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol. Roedd swm o £4m rhwng blynyddoedd 4 a 5 heb ei ddyrannu am y tro, a byddai'n cael ei ddefnyddio wrth i gostau a chyllid arall gael eu crisialu wrth i amser fynd yn ei flaen.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod Atodiad A i'r adroddiad yn manylu ar y rhaglen lawn, a ariannwyd yn llawn am y pum mlynedd, ac yn darparu potensial ar gyfer buddsoddiad pellach ym mlynyddoedd 4 a phump o ystyried y cronfeydd o £4m a oedd heb eu dyrannu eto ar gyfer y blynyddoedd hynny

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, er bod llawer o'r buddsoddiadau yn yr adroddiad yn gyfarwydd, gan gynnwys y rhaglen ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif, Priffyrdd, Adfywio a Thai, roedd wedi bod yn bosibl ychwanegu buddsoddiad at gynlluniau a oedd yn cael eu hystyried yn bwysig i'r sir er mwyn ymateb i'r pandemig Covid-19. Roedd y rhain yn cynnwys:-

 

·       Adfywio Economaidd – Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio (£1.2m); Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol (£1m); Cronfa Mentrau Gwledig (£500k) ac £1m ar gyfer cynllun twf y 'Deg Tref', a oedd yn galluogi'r awdurdod i ddenu buddsoddiad sylweddol gan y sector preifat i'r sir. Yn ogystal, byddai'r £500k a gymeradwywyd yn 2020/21 ar gyfer datgarboneiddio ystâd y Cyngor yn cael ei ddefnyddio bellach ar gyfer Grantiau Menter Ynni Adnewyddadwy i fusnesau i weithredu fel catalydd ar gyfer buddsoddiad preifat yn yr ardal honno a lleihau ôl troed carbon y sir;

·       Seilwaith – Cronfa Dd?r Trebeddrod (£1m), llwybr arfordir Morfa Bacas (£300k); gosod goleuadau cyhoeddus newydd yn lle'r hen rai (£400k y flwyddyn o 2024/25) ac ymrwymiad o £300k i fuddsoddi mewn ffermydd sy'n eiddo i'r Cyngor ar gyfer 2024/24;

·       Gwasanaethau Cymunedol – ymrwymiad parhaus i gefnogi buddsoddiad mewn diwylliant yn Oriel Myrddin a chefnogaeth barhaus i dai sector preifat yn 2024/25 ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl;

·       Adran yr Amgylchedd - parhau i gefnogi Gwelliannau Priffyrdd, Cynnal a Chadw Pontydd a chynlluniau diogelwch ar y ffyrdd i mewn i 2025/26. Byddai cyllid y Cyngor ar gynnal a chadw priffyrdd yn parhau i gael ei gryfhau yn 2021/22 drwy'r Grant Adnewyddu Ffyrdd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ;

·       Ystâd y Cyngor – cyllid ychwanegol i waith hanfodol i Neuadd y Sir (£500k) a gwaith iechyd a diogelwch i D? Elwyn (£700k)

·       Yn ogystal â'r pecyn adfer yn 2021/22, cefnogwyd y gyllideb Adfywio gan fuddsoddiad ychwanegol pellach yng Nghronfa Prosiect y Strategaeth Trawsnewid yn 2025/26, a oedd â'r potensial i ddenu cyllid allanol sylweddol i gyfateb i fuddsoddiad y Cyngor

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

7.1

Bod y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd, fel y'i nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad, gyda 2021/22 yn gyllideb bendant a chyllidebau 2022/23 i 2025/26 yn gyllidebau amhendant/dangosol yn cael eu cymeradwyo;

7.2

Bod y rhaglen yn cael ei hadolygu, yn ôl yr arfer, oni lwyddir i gael y cyllid disgwyliedig gan gyrff allanol neu'r Cyngor Sir;

7.3

Bod y Strategaeth Gyfalaf, fel y manylir arni yn Atodiad D, yn cael ei chymeradwyo;

7.4

Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol o ganlyniad i setliad terfynol Llywodraeth Cymru a oedd i'w gyhoeddi ar 2 Mawrth 2021.

 

Dogfennau ategol: