Agenda item

STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2021/22 - 2023/24

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf ynghylch Cyllideb Refeniw 2021/2022 ac yn darparu'r ffigurau mynegiannol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/2023 a 2023/2024. Hefyd roedd yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb gan roi diweddariad ynghylch dilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad amodol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion gafwyd i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

 

Amlinellodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau i'r Bwrdd nifer o ffactorau a oedd yn dylanwadu ar y gyllideb, gan gynnwys y ffaith na fyddai'r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru yn dod i law tan 2 Mawrth 2021. Gan ystyried cyhoeddi'r setliad terfynol yn hwyr, dywedodd fod elfennau allweddol o ragdybiaethau a dyraniadau'r gyllideb wedi'u hadolygu ac wedi rhoi rhywfaint mwy o gyfle i'r awdurdod ailedrych ar rai o gynigion gwreiddiol y gyllideb.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod manylion llawn y setliad amodol, a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, yn nodi bod cyllid Llywodraeth Leol ar sail Cymru gyfan wedi cynyddu 3.8% ar gyfartaledd ar setliad 2020/21, ac mai dyraniad Sir Gaerfyrddin oedd 3.8% (£10.466m). Er bod y setliad hwnnw wedi galluogi'r awdurdod i ddyrannu cyllid yn ei gyllideb ar gyfer nifer sylweddol o wasgfeydd chwyddiant a rhai na ellid eu hosgoi, roedd dal angen gwneud arbedion, ac er bod y gyllideb ddrafft gychwynnol wedi cynnwys gohirio swm sylweddol o arbedion i'r blynyddoedd i ddod, oherwydd effaith covid, roedd wedi darparu ar gyfer y newidiadau yng nghyllideb 2021/22, ond byddai dal angen gwneud newidiadau sylweddol pellach dros y blynyddoedd i ddod.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru, a oedd i'w gyhoeddi ar 2 Mawrth 2021, a dywedodd fod yr adroddiad yn ceisio awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â'r Arweinydd, y Prif Weithredwr, a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i Strategaeth y Gyllideb cyn cyfarfod y Cyngor Sir ar 3 Mawrth 2020. Fodd bynnag, roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wedi gwneud rhai addasiadau i rai o'r ffigurau eraill yn yr adroddiad, fel rhan o'r drefn arferol wrth i wybodaeth gliriach fod ar gael, gyda chyfanswm y dilysiad presennol yn ychwanegu rhyw £10m at y gyllideb. Roedd y dilysiad mwyaf sylweddol yn ymwneud â thâl, a oedd wedi caniatáu ar gyfer 2.5% bob blwyddyn.  Fodd bynnag, nid oedd hynny'n berthnasol i athrawon, a oedd yn cael eu cwmpasu gan drefniadau tâl ar wahân o fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru, gyda dyfarniad 2020 yn gynnydd o 3.1%, gyda'r effaith ran-flynyddol yn rhagdybiaeth gyson o 2.5% ar gyfer unrhyw ddyfarniadau yn y dyfodol, a oedd yn cael ei gydnabod yn risg allweddol i'r gyllideb.

 

Atgoffwyd y Bwrdd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, yn seiliedig ar setliad amodol y gyllideb, newidiadau i rai o'r rhagdybiaethau allweddol ynghylch dyfarniadau cyflog yn y dyfodol ac effaith oedi yn y rhaglen gyfalaf, fod rhywfaint o gyfle i wneud newidiadau i'r strategaeth, a'i fod wedi cytuno'n flaenorol i leihau'r cynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22 i 4.48%, a thrwy hynny ddarparu swm o £958k i ymateb i'r ymgynghoriad ar y gyllideb. Cynigiodd felly y newidiadau canlynol i strategaeth y gyllideb:-

 

·       Gwaredu'r cynigion ynghylch glanhau gwteri ac ysgubo ffyrdd;

·       Lleihau'r cynnig ynghylch gosod wyneb ar briffyrdd o £300k i £100k;

·       Darparu cyllid o £75k ar gyfer y gwasanaeth TrueCall;

·       Darparu £50k i roi mwy o gapasiti i'r adran addysg ddarparu gwell cymorth ariannol a llywodraethu fel rhan o gyfrifoldeb yr adran dros system yr ysgolion yn gyffredinol.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, wedi cynnig y newidiadau uchod, fod  digon o arian ar gael i gapio'r cynnydd yn y dreth Gyngor ymhellach i 3.95% ar gyfer 2021-22. Byddai'r cynigion hynny, pe baent yn cael eu mabwysiadu, yn cyflwyno cyllideb deg a chytbwys i'r Cyngor.

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

 

 

6.1

Bod Strategaeth Cyllideb 2021/22 yn cael ei chymeradwyo;

6.2

Bod Treth Gyngor Band D am 2021/22 i’w gosod ar £1,368.55(cynnydd o 3.95% ar gyfer 2021-22);

6.3

Bod y £958k o gyllid cylchol a oedd ar gael yn cael ei ddyrannu, fel y manylir uchod;

6.4

Bod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig amodol yn cael ei gymeradwyo yn sylfaen i gynllunio ariannol ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod

6.5

Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud unrhyw newid sy'n angenrheidiol o ganlyniad i setliad terfynol Llywodraeth Cymru a oedd i'w gyhoeddi ar 2 Mawrth 2021.

 

Dogfennau ategol: