Agenda item

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR 8FED CHWEFROR 2021

Cofnodion:

(NODER: Datganodd y Cynghorydd H. Evans fuddiant yn ystod y cyfarfod ar y drafodaeth yn ymwneud ag Ysgol y Model a gadawodd y cyfarfod wrth i hynny gael ei ystyried)

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd H. Evans at ei datganiad o fuddiant a gofnodwyd yng nghofnod 2 a gofynnodd am ei newid i "Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Fwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi"

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2021, gan eu bod yn gywir, yn amodol ar y newid uchod.

 

Ar ôl cymeradwyo cofnodion y cyfarfod ar 8 Chwefror, yn amodol ar y newid uchod, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod dau fater wedi codi ers hynny y byddai'r Bwrdd Gweithredol efallai'n dymuno rhoi ystyriaeth frys iddynt.

 

Roedd y cyntaf yn ymwneud â Chofnod 6 y cyfarfod ar y cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Model, a'r ohebiaeth oedd wedi dod i law gan gorff llywodraethu'r ysgol yn hysbysu'r Awdurdod nad oeddent, fel llywodraethwyr, wedi cael gwybod yn iawn am y cynnig.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant er bod y cynnig wedi'i drafod gyda Chadeirydd Corff Llywodraethu'r ysgol a'r Pennaeth, ei bod yn edrych yn debyg nad oedd aelodaeth ehangach y Corff Llywodraethu, na staff ehangach yr ysgol, yn gwbl ymwybodol o'r cynnig. O ystyried hynny, mynegodd farn efallai na ddylai'r awdurdod fwrw ymlaen â'r ymgynghoriad os nad oedd y rhan fwyaf o'r Corff Llywodraethu neu'r staff yn ymwybodol o'r cynnig. Cynigiodd felly, i fod yn deg, fod y Cyngor yn rhoi'r gorau i'r cynnig (a oedd i fod i ddechrau'r diwrnod hwnnw - 22 Chwefror, 2021) er mwyn caniatáu amser i ymgysylltu'n llawn â'r Corff Llywodraethu a'r Staff.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod yr ail eitem yn ymwneud â'r Rhybudd o Gynnig a oedd wedi cael ei ystyried gan y Cyngor ar 10 Chwefror 2021 ar briodoldeb cynnal ymgynghoriadau ar faterion fel darpariaeth addysg yn ystod pandemig, a oedd wedi'i gyfeirio at y Bwrdd Gweithredol i'w ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant, er bod y Rhybudd o Gynnig hwnnw i'w ystyried gan y Bwrdd Gweithredol ar 1 Mawrth 2021, fod Llywodraeth Cymru, ar brynhawn 10 Chwefror, yn dilyn cyfarfod y Cyngor, wedi ymestyn y newidiadau dros dro i ofynion penodol y Cod Trefniadaeth Ysgolion am gyfnod pellach, er mwyn galluogi ymgynghoriadau i barhau er gwaethaf y pandemig. Wedi hynny, ar 15 Chwefror, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Canllawiau diwygiedig ar "Ymgynghori ar Gynigion Trefniadaeth Ysgolion yn ystod Pandemig", a byddai angen i'r Bwrdd Gweithredol ystyried y dogfennau hynny pan fyddai'n trafod y Rhybudd o Gynnig. Gan fod gan y Cyngor rai ymgynghoriadau a oedd wedi dod i ben mewn gwirionedd ar 21 Chwefror, ac yng ngoleuni'r drafodaeth oedd ar fin digwydd ynghylch y Rhybudd o Gynnig, fe awgrymodd efallai fod y Bwrdd yn barnu mai annheg oedd cau ymgynghoriadau tra bo mater byw i'w drafod. Cynigiodd felly fod y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau ar yr ymgynghoriadau hynny yn cael ei ymestyn, a hynny ar frys, hyd nes bod y Bwrdd Gweithredol wedi trafod y Rhybudd o Gynnig ar 1 Mawrth 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

1.

Rhoi'r gorau i'r cynnig a fabwysiadwyd yng nghofnod 6 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2021, sef newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Model, er mwyn caniatáu amser i ymgysylltu'n llawn â Chorff Llywodraethu a staff yr ysgol;

2.

Ymestyn y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau ar ymgynghoriadau'r Cyngor hyd nes bod y Bwrdd Gweithredol wedi trafod y Rhybudd o Gynnig ar ymgynghoriadau yn ei gyfarfod ar 1 Mawrth 2021.

 

Dogfennau ategol: