Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am hynt cynllun gweithredu Cyngor Sir Caerfyrddin a ddatblygwyd yn dilyn arolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Cymru gynnal arolygiad pythefnos o wasanaethau pobl h?n yn Sir Gaerfyrddin ym mis Mai 2019 o dan y thema "Atal a Hybu Annibyniaeth”. Cadarnhaodd yr adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2019, nifer o gryfderau a meysydd arferion da a ddangoswyd gan yr Awdurdod. Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at rai meysydd i'w gwella. O ganlyniad, datblygodd Gwasanaethau Integredig Cyngor Sir Caerfyrddin gynllun gweithredu, a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2019, i fynd i'r afael â meysydd lle gallai wneud gwelliannau. Cymeradwyodd y Pwyllgor y cynllun yn ei gyfarfod ar 21 Tachwedd 2019.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrth y Pwyllgor, er gwaethaf y pandemig, fod camau gweithredu yn parhau i gael eu rhoi ar waith a bod cynnydd da wedi'i wneud mewn perthynas â'r cynllun. Cafwyd gwelliant o ran monitro achosion yn sgil defnyddio Eclipse (rhaglen feddalwedd newydd). Byddai cyflwyno Eclipse ym mis Mawrth 2021 hefyd yn helpu i wella gwaith monitro achosion.
Dywedwyd y byddai Arolygiaeth Gofal Cymru yn cynnal archwiliad sicrwydd yn gynnar yn 2021 i adolygu cynnydd mewn perthynas â'r cynllun yn ffurfiol.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol:
· Mynegwyd pryder, oherwydd y defnydd o'r system TG ar gyfer cofnodi achosion, efallai na fydd yr Awdurdod yn clywed stori lawn y cleient.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig mai'r hyn a oedd yn wirioneddol bwysig oedd bod y staff yn cael sgyrsiau 'beth sy'n bwysig' ac y gallai rhai aelodau o staff gael gwybod y stori'n well nag eraill. Roedd goruchwylwyr yn gweithio gyda'r staff i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chofnodi a'i mynegi'n gywir yn y systemau.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod llawer o'r swyddi gwag wedi'u llenwi a bod nifer o geisiadau'n cael eu derbyn pan hysbysebir swyddi.
· Nodwyd bod 80% o'r staff wedi dweud bod modd rheoli'r llwyth gwaith.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod llwythi achosion yn heriol. Ar ddechrau'r pandemig roedd llawer o waith wedi'i ohirio ond, ers diwedd yr haf, bu mewnlifiad o atgyfeiriadau a oedd wedi cynyddu llwythi achosion. Roedd achosion yn cael eu blaenoriaethu er mwyn osgoi gorlwytho staff. Cafodd yr holl asesiadau eu llofnodi gan Uwch-reolwyr a fyddai'n sicrhau bod y lefel gywir o gymorth yn cael ei darparu a, lle bo angen, bod gwaith yn cael ei ailddosbarthu.
· Mewn ymateb i ymholiad, eglurwyd mai Eclipse yw’r system newydd yn lle'r system reoli Care First. Ystyriwyd bod y dyddiad gweithredu, sef 1 Mawrth 2021, yn realistig a byddai cofnodion achosion oedolion yn cael eu gweithredu yn gyntaf ac yna cofnodion achosion plant ychydig fisoedd yn ddiweddarach.
· Dywedwyd ei bod yn aml yn anodd sicrhau pecynnau gofal yn yr ardaloedd mwy gwledig a bod yr adroddiad wedi tynnu sylw at yr angen am wasanaethau teg ar draws y sir gyfan.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y sefyllfa wedi bod yn wahanol dros y naw mis diwethaf gan fod llawer o gleientiaid wedi lleihau eu pecynnau gofal oherwydd y pandemig. Dywedwyd bod pwysau o hyd yng ngogledd y sir a hefyd yng ngorllewin y sir ger y ffin â Sir Benfro. Roedd cynllun tymor hwy i dendro am gytundeb fframwaith gofal cartref newydd a'r gobaith oedd y byddai hyn yn mynd i'r afael â rhai o'r materion o ran capasiti yn yr ardaloedd mwy gwledig.
· Cynghorwyd cleientiaid sy'n derbyn gofal drwy daliadau uniongyrchol ond a adawyd heb gymorth oherwydd bod gofalwyr yn hunanynysu i gysylltu â Delta lle byddai tîm argyfwng yn ymchwilio i'r mater.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y cynllun gweithredu wedi'i anelu at staff rheoli a staff rheng flaen. Er bod angen ymateb gan reolwyr, roedd staff rheng flaen wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cynllun. Nodwyd bod yr adroddiad arolygu yn ddefnyddiol a bod rhai gwendidau eisoes wedi'u cydnabod gan yr Awdurdod cyn yr archwiliad.
· O ran cadw staff, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod staff yn tueddu i aros gyda'r Awdurdod a bod llawer ohonynt yn cael dyrchafiad, gan adael swyddi gwag mewn mannau eraill yn y sefydliad.
PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr argymhellion sy'n deillio o Arolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o Wasanaethau Integredig.
Dogfennau ategol: