Agenda item

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN (2018- 2033) SYLWADAU A OEDD WEDI DOD I LAW A NEWIDIADAU PENODOL

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol - Dirprwy Arweinydd (sydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau Cynllunio) ynghylch paratoi Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (newydd) ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn unol â phenderfyniad y Cyngor ar 10 Ionawr, 2018. Dywedodd fod yr adroddiad presennol yn manylu ar yr ymatebion a ddaeth i law yn dilyn y broses ymgynghori ffurfiol a'i fod yn ceisio nodi cyfres o Newidiadau â Ffocws arfaethedig i'r argymhellion a ddaeth i law ynghyd â'r rhai a allai fod wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau, tystiolaeth neu, er mwyn rhoi eglurder ac ystyr.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch effeithiau posibl Covid-19 ar gymunedau a'r ffordd o weithio, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y broses o baratoi'r Cynllun wedi monitro newidiadau yn barhaus a'r effeithiau y gallent eu cael, er enghraifft, ar y lefel bosibl o bobl sy'n mudo i'r sir gan gredu bod Sir Gaerfyrddin yn lle mwy diogel i fyw. Yn ogystal, byddai angen monitro effaith gweithio gartref wrth i fwy o bobl wneud hynny, er enghraifft, i asesu a oedd angen darparu mannau allanol o fewn datblygiadau i bobl gael seibiant o'r cartref ac i hyrwyddo ymarfer corff yn yr awyr agored. Byddai angen asesu’r effaith ar fynediad at feddygfeydd a chymorth y GIG hefyd.

·        O ran y cynnydd sydd wedi'i wneud i fabwysiadu'r Cynllun, dywedwyd bod disgwyl iddo gael ei gyflwyno i'w archwilio’n annibynnol ym mis Mai 2021 a bod disgwyl i'r archwiliad cyhoeddus ddechrau'n ffurfiol ym mis Gorffennaf 2021 gyda Cyfarfod y Rhagwrandawiad. Roedd cais hefyd wedi cael ei wneud bod gan yr Arolygydd penodedig ddealltwriaeth o Sir Gaerfyrddin.

·        Cyfeiriwyd at statws y tir sydd wedi'i gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol presennol ac a ellid ei dynnu o'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, er enghraifft, pe bai caniatâd cynllunio wedi'i wrthod.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod potensial i'r sefyllfa honno ddigwydd gan fod pwyslais y Cynllun ar a ellid cyflawni prosiect. Fodd bynnag, gan fod sylwadau yn cyd-fynd â phob darn o dir a gyflwynwyd i'w gynnwys yn y Cynllun Diwygiedig, byddai'r rheiny'n cael eu cyflwyno i'r Arolygydd iddo ystyried eu cynnwys neu beidio. Byddai'r Cynllun hefyd yn cael ei archwilio'n gyhoeddus a byddai'r cyhoedd/datblygwyr yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau i'r Arolygydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad  

Dogfennau ategol: