Agenda item

CANOLFAN ADDYSG AWYR AGORED PENTYWYN

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru a gyflwynwyd gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sydd â chyfrifoldeb am Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (ynghyd â chyflwyniad PowerPoint) ynghylch y materion allweddol sy’n effeithio ar Ganolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn ac awgrymodd yr adroddiad ffyrdd ymlaen o ran darparu addysg awyr agored o ansawdd uchel yn Sir Gaerfyrddin. 

 

Nodwyd bod y cyfleuster presennol yn hen a bod angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol o oddeutu £5m i ddarparu cyfleuster newydd, a hynny ar adeg heriol lle mae gofynion cynyddol sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd hefyd mewn perthynas â rhaglen gyfalaf y Cyngor. O ganlyniad i'r ffactorau hynny, roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaeth a allai, er enghraifft, gynnwys lleihau maint y cyfleuster presennol, defnyddio adeiladau/cyfleusterau eraill yn y sir a darparu gwasanaeth symudol. Felly, sefydlwyd Fforwm Addysg Awyr Agored, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau hamdden, addysg ac ysgolion, i nodi'r opsiynau o ran darparu gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriodd y Pwyllgor yn unfrydol at werth y cyfleuster presennol ym Mhentywyn i'r Sir gyfan ac at y profiad y mae'n ei roi i blant ysgol. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi'n llwyr bod y cyfleuster yn barhaus a bod angen nodi cyfalaf a ffynonellau cyllid eraill i sicrhau'r ddarpariaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod darpariaeth y ganolfan yn y dyfodol yn heriol o ystyried yr hen adeiladau, tanfuddsoddi dros y blynyddoedd a gofynion ar raglen gyfalaf y Cyngor. Fodd bynnag, dywedodd fod gwariant refeniw o £80k y flwyddyn yn cael ei wario ar gynnal a chadw'r cyfleuster ynghyd â chymhorthdal gweithredu ychwanegol o £160k y flwyddyn. O ystyried y gost sylweddol i ailadeiladu'r cyfleuster, roedd angen i'r Awdurdod fabwysiadu ymagwedd fwy hyblyg at ddyfodol darparu addysg awyr agored, gan gadw ychydig o ddarpariaeth sylfaen ym Mhentywyn.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch pwysigrwydd hamdden i iechyd plant ifanc, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod darparu cyfleusterau hamdden awyr agored gan yr Awdurdod, fel yr un ym Mhentywyn, yn fuddiol iawn i lesiant meddyliol a chorfforol plant ifanc a bod yr Awdurdod wedi gwario'n sylweddol ar ei bortffolio hamdden yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, oherwydd y sefyllfa bresennol ym Mhentywyn a'r gwahanol ofynion ar y rhaglen gyfalaf, roedd yn rhaid ystyried ffyrdd eraill o ddarparu'r gwasanaeth drwy ryw fath o fuddsoddiad cyfalaf o bosib.

·       Cyfeiriwyd at effaith Covid-19 ar weithrediad y ganolfan ac at y ffaith y byddai cyfleusterau hamdden awyr agored, megis Canolfan Pentywyn, yn ailagor rywbryd yn y dyfodol. Er bod yr amcangyfrif o'r costau adnewyddu cyfalaf o £5m yn sylweddol, mynegwyd y farn bod plant yn cael budd mawr o'r ganolfan. Felly gofynnwyd a ellid gwrthbwyso costau cynnal y ganolfan yn rhannol trwy gyflwyno elfen fasnachol pan nad oedd yn cael ei defnyddio gan ysgolion, er enghraifft, yn ystod gwyliau ysgol, fel y digwyddodd yn y sector prifysgolion.

Derbyniodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol y sylwadau a wnaed ond pwysleisiodd fod y cyd-destun economaidd presennol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod edrych i'r dyfodol o ran sut y gellid/dylid darparu’r gwasanaeth yn y dyfodol ac roedd wedi sefydlu Fforwm i ystyried y ddarpariaeth honno.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden mai diben y Fforwm oedd gwerthuso darpariaeth addysg awyr agored yn y sir yn y dyfodol a bod trafodaeth y Pwyllgor y diwrnod hwnnw yn rhan o'r broses ymgynghori i helpu i lywio'r broses o wneud penderfyniadau. Cyfeiriodd at effaith Covid-19 ar y sector darpariaeth hamdden awyr agored preifat, a allai arwain at beidio ag ailagor nifer o gyfleusterau, ac roedd yn gobeithio y gallai'r Awdurdod barhau i ddarparu cyfleusterau o'r fath naill ai ar y safle ym Mhentywyn neu drwy ffyrdd eraill.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a ellid gwneud gwaith gwella i'r ganolfan tra ei bod ar gau ar hyn o bryd, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, yn anffodus, gan fod rhaglen gyfalaf y Cyngor wedi'i hymrwymo'n llawn, nad oedd cyllid ar gael ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gan ystyried trafodaeth y Pwyllgor, un opsiwn posibl fyddai cael rhaglen ailddatblygu dreigl o 3/5 mlynedd, y gallai'r Fforwm ei hystyried.

 

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyllid allanol trwy grantiau ac ati, dywedodd y Pennaeth Hamdden er nad oedd grantiau allanol uniongyrchol ar gael, y gallai fod cyfle i'r Awdurdod gael mynediad at ffynonellau grant eraill sydd ar gael i adrannau eraill y Cyngor, er enghraifft, yr adran addysg neu'r gwasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, byddai angen ystyried unrhyw gais o'r fath yn erbyn gofynion sy'n cystadlu yn y gwasanaethau hynny. Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor bod yr holl ffynonellau cyllid allanol posibl yn cael eu harchwilio wrth i'r cyfleoedd godi.

 

·       O ran defnydd masnachol posibl y ganolfan y tu allan i dymhorau ysgolion, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod gan yr opsiwn hwnnw botensial o ystyried lleoliad ardderchog Pentywyn ar yr arfordir ac y gellid ei archwilio ymhellach ar ôl i Brosiect Denu Twristiaid i Bentywyn gael ei agor. Yn yr un modd, roedd opsiynau mewn ardaloedd eraill ar gyfer darparu cyfleusterau hamdden awyr agored megis darparu tyrau dringo yng nghanol trefi. Am y rhesymau hynny, roedd yr Awdurdod yn archwilio'r uned sengl bresennol ar gyfer darparu addysg awyr agored ac yn bwriadu bod yn fwy hyblyg yn ei ddarpariaeth yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: